Cerddoriaeth Cymru wrth galon dathliadau Llangollen

Nos Fercher, fe gynhaliwyd noson gyfareddol o gerddoriaeth Gymreig yn Eisteddfod Llangollen yng nghwmni’r soprano Shân Cothi a’r tenor Rhodri Prys Jones.

Roedd y ddau unawdydd yn canu i gyfeiliant cerddorfa Sinffonieta Prydain, wnaeth hefyd berfformio gyda’r tenor byd enwog, Rolando Villazón, mewn gala glasurol nos Fawrth.

Ar y noson, cafodd aelodau cynulleidfa cyngerdd Seintiau a Chantorion brofi dau gyflwyniad cerddorol prin wrth i’r Eisteddfod arddangos gweithiau oedd yn cael eu perfformio am y tro cyntaf, gan gynnwys cantata meistrolgar William Mathias CBE, ‘Saint Teilo’. Perfformiwyd y darn i gyfeiliant dawns fasgiau unigryw gan gwmni New Dance Company o Langollen.

Dyma’r tro cyntaf i Shân Cothi a Rhodri Prys Jones berfformio gyda’i gilydd; ond dim yr olaf gobeithio. Roedd eu lleisiau yn cynnig perfformiadau emosiynol a dymunol, wrth i’r nail a’r llall arddangos ystod leisiol drawiadol iawn.

Hefyd ar y noson, bu cyfle i arddangos Gwlad y Gân ar ei gorau i gynulleidfa ryngwladol. Fe ddaeth côr enfawr o aelodau Choral Cymry Llundain, Coral Cymry Lerpwl, Côr Siambr Ysgol Uwchradd Palmdale a Chôr Cydweithredol Wrecsam, ynghyd i ymuno â’r unawdwyr Cymreig ar y llwyfan.

Er cof am y tenor Cymreig Kenneth Bowen fu farw’r llynedd, fe wnaeth Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gynnal premier byd o The Spring of Vision, a gyfansoddwyd gan Gyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl a ffrind i Bowen, Dr Edward-Rhys Harry.

Mae The Spring of Vision yn adrodd hanes breuddwyd Taliesin sydd, wrth gwestiynu cyflwr a dyfodol dynoliaeth, yn cael ei dywys ar siwrne o wrthdaro a rhyfel, cyn cyrraedd at y weithred sy’n diffinio dynoliaeth, sef aberth Crist ar y groes.

Wrth drafod yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r perfformiad, esbonia Edward-Rhys Harry: “Dydd Mercher fydd canolbwynt yr ŵyl wythnos o hyd ac roeddwn eisiau i gerddoriaeth Gymraeg fod wrth galon yr Eisteddfod eleni.”

Cafodd y gynulleidfa hefyd weld seremoni coroni enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, a gyflwynwyd i Erin Gwyn Rossington gan Abergele, Wales.

Roedd y gyngerdd yn llwyddiant ysgubol wrth i’r holl gyfranwyr dathlu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, mewn noson oedd yn frith o felodïau bendigedig ac unawdau operatig pwerus.