I gofio am y tenor Cymraeg Kenneth Bowen, a fu farw’r llynedd, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi datgelu y bydd yn cynnal premier byd o The Spring of Vision, a gyfansoddwyd gan Gyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl a ffrind i Bowen, Dr Edward-Rhys Harry.
Ar nos Fercher 3ydd Gorffennaf, fe fydd y perfformiad yn defnyddio geiriau cerdd ddramatig Vernon Watkins, sydd o’r un enw, i ddathlu bywyd Bowen – un o gantorion fwyaf disglair ei genhedlaeth. Yno i’w berfformio bydd cast Cymreig, gan gynnwys Shân Cothi (soprano) a Rhodri Prys Jones (tenor), ynghyd â Chorâl Cymry Llundain, Undeb Corawl Lerpwl a Chôr Ieuenctid Wrecsam, i ganu fel un côr mawr.
(rhagor…)