Perfformio premier byd er cof am Kenneth Bowen mewn Eisteddfod Ryngwladol

I gofio am y tenor Cymraeg Kenneth Bowen, a fu farw’r llynedd, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi datgelu y bydd yn cynnal premier byd o The Spring of Vision, a gyfansoddwyd gan Gyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl a ffrind i Bowen, Dr Edward-Rhys Harry.

Ar nos Fercher 3ydd Gorffennaf, fe fydd y perfformiad yn defnyddio geiriau cerdd  ddramatig Vernon Watkins, sydd o’r un enw, i ddathlu bywyd Bowen – un o gantorion fwyaf disglair ei genhedlaeth. Yno i’w berfformio bydd cast Cymreig, gan gynnwys Shân Cothi (soprano) a Rhodri Prys Jones (tenor), ynghyd â Chorâl Cymry Llundain, Undeb Corawl Lerpwl a Chôr Ieuenctid Wrecsam, i ganu fel un côr mawr.

Dyma fydd y tro cyntaf i Shân Cothi a Rhodri Prys Jones berfformio gyda’i gilydd. Estynnwyd gwahoddiad i’r ddau i ganu ar lwyfan Pafiliwn Brenhinol Llangollen wedi i Dr Edward-Rhys Harry glywed Shân yn cyfweld Rhodri ar ei rhaglen radio BBC Wales.

Mae The Spring of Vision yn adrodd hanes breuddwyd Taliesin sydd, wrth gwestiynu cyflwr a dyfodol dynoliaeth, yn cael ei dywys ar siwrne o wrthdaro, rhyfel, ac yna’n cyrraedd at y weithred sy’n diffinio dynoliaeth, sef aberth Crist ar y groes.

Wrth drafod yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r perfformiad, esbonia Edward-Rhys Harry: “Dydd Mercher fydd canolbwynt yr ŵyl wythnos o hyd ac roeddwn eisiau i gerddoriaeth Gymraeg fod wrth galon yr Eisteddfod eleni.

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd medru cyfansoddi darn er cof am fy ffrind ac ysbrydoliaeth, Kenneth Bowen, sy’n dathlu Gwlad y Gân ar ei gorau. Buodd o’n cydweithio am gyfnod hir gydag ysbrydoliaeth arall i mi, William Mathias CBE, ac yntau hefyd wnaeth sefydlu Corâl Cymry Llundain, grŵp y bum yn ffodus o’u cyfarwyddo, felly fe fydd yn noson yn hyd yn oed mwy emosiynol gan fod y corâl yn perfformio.”

Yn dilyn y lansiad yng Nghymru, fe fydd The Spring of Vision yn cael ei berfformio ar Orffennaf 6ed gan Gorâl Cymry Llundain yn St Giles Cripplegate, Barbican, Llundain – lle bydd ŵyr Kenneth Bowen, Ruairi Bowen, yn canu rhan y tenor.

Disgwylir i’r noson fod yn ddathliad dramatig o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig, yn llawn o alawon hyfryd a chorysau opera pwerus. Fe fydd yn ail hanner yn cynnwys perfformiad o gantata pwerus William Mathias, St Teilo, ynghyd â pherfformiad dawns unigryw gan gwmni dawns o Langollen, New Dance Company. Ar ben hyn i gyd, byddwn yn dathlu coroni Llais Rhyngwladol y Dyfodol 2019.

Gellir archebu tocynnau ar lein ar www.llangollen.net neu trwy’r Swyddfa Docynnau (01978 862001).