Ymweld eto â Llangollen yn gwireddu breuddwyd i seren Collabro Thomas Redgrave

Mae band bechgyn theatr gerdd a enillodd Britain’s Got Talent gan adael y beirniad Amanda Holden yn ei dagrau ar eu ffordd i Ogledd Cymru.
Bydd Collabro yn serennu gyda Kerry Ellis, brenhines y West End, yng nghyngerdd  yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Mercher, Gorffennaf 6.

Ac i un o aelodau’r band, Thomas Redgrave, mae’n mynd i olygu dychweliad hapus i Langollen lle bu’n cystadlu fel aelod mewn côr o Lundain rai blynyddoedd yn ôl.

Collabro yw’r enw diweddaraf i gael eu cyhoeddi ar gyfer yr ŵyl, sef y 70ain ers ei sefydlu yn 1947 i hyrwyddo heddwch a chytgord yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Bydd Katherine Jenkins yn codi’r llen ar nos Fawrth, 5 Gorffennaf, pryd y bydd y mezzo soprano boblogaidd yn perfformio fersiwn cyngerdd o opera Georges Bizet, Carmen, gyferbyn â’r tenor Americanaidd Noah Stewart.

Ar ddydd Iau 7 Gorffennaf, bydd y seren opera byd enwog Bryn Terfel yn rhannu’r llwyfan gyda ffrind da iddo, sydd hefyd yn un o denoriaid gorau’r byd, sef y canwr opera hynod dalentog o Malta, Joseph Calleja, a hynny mewn cyngerdd sydd hefyd wedi ei gefnogi gan Barc Pendine.

Bydd Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm & Blues hefyd yn dychwelyd i Langollen i ddod â’r llen i lawr ar yr ŵyl gyda pharti hwyliog ar ddydd Sul 10 Gorffennaf.
Enillodd Collabro y sioe dalent boblogaidd ddwy flynedd yn ôl, gan ddenu adolygiadau gwych gan bobl fel Simon Cowell a Holden ar hyd y ffordd ac mae gweld aelodau’r gynulleidfa yn eu dagrau yn brofiad cyfarwydd iawn i aelodau’r grŵp.
A dweud y gwir, yn ôl y grŵp o bump, maent yn gwybod eu bod wedi gwneud gwaith da pan fyddant yn gweld eu cefnogwyr mewn dagrau – ac mae hynny’n digwydd reit aml.

Dywed Thomas Redgrave, ei fod yn aml yn gweld pobl yn y gynulleidfa yn sychu eu llygaid wrth iddynt berfformio caneuon enwog o sioeau fel Les Misérables, Phantom of the Opera, Chess a West Side Story.

Meddai Redgrave, sy’n hanu o Saltfleet, Swydd Lincoln: “Mae theatr gerdd yn genre mor arbennig mae pobl yn amlwg yn uniaethu’n gryf efo’r caneuon teimladwy.”

“Mae’n gwireddu breuddwyd i Collabro i ni berfformio yn Llangollen ochr yn ochr â Kerry Ellis, brenhines theatr gerdd, yn enwedig wrth ganu caneuon o gynyrchiadau’r West End.
“Bydd gweithio gyda Kerry Ellis yn uchelgais arall y gallwn ei dicio oddi ar ein rhestr. Mae’n ymddangos ein bod yn cyflawni sawl uchelgais yn gyflym iawn, mae’n anhygoel.”
Mae Redgrave yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i Langollen ac mae eisoes wedi sôn am yr ŵyl wrth ei gyd-aelodau, Michael Auger, Richard Hadfield, Jamie Lambert a Matt Pagan,.

Dywedodd: “Fel cystadleuydd doeddwn i ddim yn gallu credu pa mor anhygoel oedd yr ŵyl er mai dim ond un aelod o gôr mawr oeddwn i.

“Rwy’n cofio i ni orffen yn drydydd a bod ein harweinydd yn y bar pan ddylai fod wedi bod ar y llwyfan yn derbyn ein gwobr!

“Mae’r angerdd am gerddoriaeth yn Llangollen mor amlwg ac anhygoel. Fedra i ddim aros i ddychwelyd ac rwyf wedi dweud popeth am y peth wrth y bechgyn.

“Mae’r ffaith y byddwn yn perfformio yn y 70ain Eisteddfod yn anhygoel ac rydym mor freintiedig.”

Mae’r grŵp, sydd ar hyn o bryd yn teithio yn y DU ac yn chwarae o flaen cynulleidfaoedd mawr, wedi bod yn mwynhau bywyd ers ennill Britain’s Got Talent a rhyddhau eu halbwm cyntaf, Stars, a aeth yn syth i frig y siartiau yn y DU.

Meddai Redgrave: “Rydym yn byw ein breuddwyd, mae popeth wedi mynd yn rhyfeddol o dda. Rydym wedi teithio o amgylch America a Siapan gan lwyddo i ganu ‘I Dreamed a Dream’ o Les Misérables, i gynulleidfa yn Siapan yn eu hiaith eu hunain – ac roedd hynny’n dipyn o gamp.

“Mae ein taith wedi mynd rhyfeddol yn dda ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at ymddangos yn Llangollen. Mae’n mynd i fod yn anhygoel ac yn noson fythgofiadwy.”

Enillodd Collabro, a berfformiodd ar gyfer Dug a Duges Caergrawnt yn Royal Variety Performance 2014 ac yn y parti i nodi 70 Mlwyddiant Diwrnod VE yn 2015 ar Horse Guards Parade, gystadleuaeth Britain’s Got Talent 2014 gyda mwyafrif mawr o bleidleisiau ar ôl swyno’r gynulleidfa deledu anferth gyda’u fersiwn o gân Stars o Les Misérables.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Eilir Owen Griffiths: “Mae Collabro yn grŵp gydag arddull unigryw a bydd yn wych eu gweld ar lwyfan Llangollen.

“Mae cyngerdd Lleisiau Theatr Gerdd ar y nos Fercher yn argoeli bod yn un o uchafbwynt mwyaf eleni.

Yn ymuno â Kerry Ellis a Collabro fydd Academi Theatr Gerdd Glasgow, Lleisiau CBS o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru dan arweiniad John Quirk.

Ychwanegodd: “Mae’n mynd i fod yn noson fythgofiadwy a fydd yn cynnwys caneuon o brif gynyrchiadau theatr gerdd y byd. Mae’n noson rhy dda i’w cholli. “

Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed, ynghyd â choroni Côr Plant y Byd.

Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.

Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.

Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.

Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.