Archifau Tag Britain’s Got Talent

Cartŵn wedi ei lofnodi gan gawr cerddorol i’w werthu mewn ocsiwn Eisteddfod

Mae cartŵn o’r gân enwog Raindrops Keep Falling On My Head wedi ei lofnodi gan y canwr-gyfansoddwr gwreiddiol Burt Bacharach, i’w werthu mewn ocsiwn ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Tynnwyd y cartŵn gan y seren Americanaidd byd enwog 87 oed ar gerdyn post gwag ar gyfer yr ŵyl eiconig, gan ddarlunio rhai diferion glaw a bar cyntaf y gerddoriaeth ar un ochr a’i lofnod ar yr ochr arall. (rhagor…)

Ymweld eto â Llangollen yn gwireddu breuddwyd i seren Collabro Thomas Redgrave

Mae band bechgyn theatr gerdd a enillodd Britain’s Got Talent gan adael y beirniad Amanda Holden yn ei dagrau ar eu ffordd i Ogledd Cymru.
Bydd Collabro yn serennu gyda Kerry Ellis, brenhines y West End, yng nghyngerdd  yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Mercher, Gorffennaf 6.

Ac i un o aelodau’r band, Thomas Redgrave, mae’n mynd i olygu dychweliad hapus i Langollen lle bu’n cystadlu fel aelod mewn côr o Lundain rai blynyddoedd yn ôl.

(rhagor…)