Mae cartŵn o’r gân enwog Raindrops Keep Falling On My Head wedi ei lofnodi gan y canwr-gyfansoddwr gwreiddiol Burt Bacharach, i’w werthu mewn ocsiwn ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Tynnwyd y cartŵn gan y seren Americanaidd byd enwog 87 oed ar gerdyn post gwag ar gyfer yr ŵyl eiconig, gan ddarlunio rhai diferion glaw a bar cyntaf y gerddoriaeth ar un ochr a’i lofnod ar yr ochr arall.
Ysgrifennwyd y gân wreiddiol, a lwyddodd i gipio Oscar am y gân orau, gan Bacharach a Hal David ar gyfer y ffilm Butch Cassidy and the Sundance Kid yn 1969 a gwerthodd fersiwn y canwr B J Thomas o’r gân dros ddwy filiwn o gopïau.
Ar lwyfan Llangollen y llynedd cafwyd perfformiad ohoni gan Bacharach. Daeth y gân yn enwog a phoblogaidd iawn dros y blynyddoedd, gydag amryw o artistiaid gwahanol yn recordio eu fersiwn nhw o’r gân, gan gynnwys Johnny Mathis, Sacha Distel a’r Manic Street Preachers.
Mae cartŵn Burt Bacharach yn un o nifer o lotiau fydd yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn yn Neuadd y Dref Llangollen ar ddydd Sadwrn, 21 Mai am 7.30pm mewn digwyddiad Caws, Gwin a Chracers Cerddorol er mwyn codi arian i’r Eisteddfod, mewn cydweithrediad â’r côr sioe lleol, Stage 2 Stage.
Hefyd yn mynd o dan forthwyl yr arwerthwr fydd paentiad dyfrlliw o’r llwyfan yn Eisteddfod y llynedd gan yr artist lleol adnabyddus Ian Wildgoose, yn ogystal â mwy o gartwnau gan amryw o’r artistiaid a fu’n perfformio ar lwyfan yr ŵyl y llynedd, gan gynnwys Rufus Wainwright a’i chwaer Lucy, y cyfansoddwr Brenhinol Paul Mealor, y delynores Catrin Finch, seren y West End Sophie Evans, y côr-feistr poblogaidd, Gareth Malone ac eraill.
Un o’r darluniau yw cartŵn o Gio Compario, seren hysbysebion teledu Go Compare, gan y dyn sy’n ei chwarae, sef y tenor Cymreig Wynne Evans, ac ymhlith yr eitemau a lofnodwyd y mae crysau rygbi Cymru wedi eu llofnodi gan yr hen rocars Prydeinig Status Quo a seren Britain’s Got Talent Jonathan Antoine, a gitâr wedi ei llofnodi gan UB40, y meistri reggae.
Mae’r rhestr lawn o’r eitemau i’w gwerthu yn yr ocsiwn i’w gweld ar-lein yn https://international-eisteddfod.co.uk/wp-content/uploads/2016/04/Auction-Catalogue.pdf ynghyd â gwybodaeth am sut i gynnig am eitem.
Dau o aelodau pwyllgor yr Eisteddfod, Gareth Edwards a Adrian Farrell, gafodd y syniad gwreiddiol o gynnal arwerthiant gan fynd ati i gasglu’r rhan fwyaf o’r eitemau, er mai awgrym y gwirfoddolwr Louise Morris oedd y cartwnau a gafodd eu casglu gan Sue McEvoy, Cydlynydd Digwyddiadau’r Eisteddfod. Meddai Sue: “Roedd ganddon ni bentwr o gardiau post gwag ac roedd gofyn i’r artistiaid dynnu llun rhywbeth arnynt yn syniad da dros ben.
“Roedden nhw’n barod iawn i wneud hynny ac mae rhai o’r cartwnau yn ardderchog. Mae Rufus Wainwright wedi tynnu llun draig ac mae ei chwaer, Lucy, wedi gwneud dau gartŵn, gan gynnwys un llun o gwch ar y gamlas.
“Mi wnaeth Burt ddarlunio’r bar cyntaf o gerddoriaeth ar gyfer Raindrops Keep Falling On My Head gan gynnwys diferion glaw, tynnodd Wynne Evans lun Gio Compario gyda’i wallt a’i fwstash crychlyd a rhai nodau cerddorol tra tynnodd Catrin Finch lun o aderyn llinos, sef finch yn Saesneg, yn eistedd ar gleff y trebl.”
Mae trefnwyr y digwyddiad yn rhagweld llawer o ddiddordeb a gellir cofrestru cynigion cyn y digwyddiad trwy ffonio 01978 862001.
Mae yna isafswm pris o £1,000 ar gyfer paentiad Ian Wildgoose, tra bod y cardiau post yn cael eu gwerthu mewn grwpiau gydag isafswm pris o £30 yn unig, gydag isafswm o £200 ar y crys rygbi wedi ei lofnodi gan Status Quo.
Yr arwerthwr fydd Ian Lebbon, Cadeirydd Pwyllgor Marchnata’r Eisteddfod, a’r trefnydd yw aelod o Dîm Gwirfoddolwyr yr Eisteddfod sef Louisa Jones, aelod o’r côr sioe lleol Stage 2 Stage.
Bydd y côr yn perfformio rhaglen dwy set o ganeuon poblogaidd o theatr gerdd a ffilmiau cerddorol, gyda band pum offeryn yn cyfeilio, ac ymysg yr arlwy bydd caneuon o Les Misérables, Evita a West Side Story a chadwyn o ganeuon o Chicago a Guys and Dolls.
Dywedodd Colin Roberts, ysgrifennydd Pwyllgor Tiroedd yr Eisteddfod ac aelod o’r grŵp canu: “Un o brif amcanion Stage 2 Stage yw cefnogi mudiadau lleol yn eu gweithgareddau codi arian drwy ddarparu adloniant fforddiadwy o ansawdd uchel.
“Mae gan nifer ohonom gysylltiadau agos ag Eisteddfod Llangollen, felly roedd ond yn naturiol i ni gefnogi digwyddiad a fydd gobeithio yn hel swm reit dda o bres ar gyfer coffrau’r Eisteddfod.”
Pris tocynnau ar gyfer Caws, Gwin a Chracers Cerddorol yw £12 ac mae’n cynnwys gwydraid o win wrth gyrraedd a chaws a bisgedi yn ystod yr egwyl.
Gellir prynu tocynnau yn uniongyrchol o Swyddfa’r Eisteddfod, dros y ffôn ar 01978 862001 neu o Ganolfan Groeso Llangollen.
Gellir cyflwyno cynigion am y lotiau dros y ffôn drwy ffonio Swyddfa’r Eisteddfod ar 01978 862001, trwy e-bost info@international-eisteddfod.co.uk, neu drwy’r post i Swyddfa’r Eisteddfod: I Sylw: Mikala Bennion, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, Ffordd yr Abaty, Llangollen, Sir Ddinbych LL20 8SW.
Mae’n rhaid i gynigwyr roi Enw, Cyfeiriad, Rhif Ffôn a/neu gyfeiriad E-bost, yn ogystal â rhif y Lot, gan gynnwys disgrifiad byr, gyda chynnig cychwynnol a chynnig uchaf mewn Punnoedd Sterling. Bydd yr holl gynigion a dderbynnir dros y ffôn, mewn e-bost neu drwy’r post yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol.
Rhaid i’r holl gynigion ddod i law erbyn 5pm ar ddydd Mercher, Mai 18.