Cynnig Unigryw Rheiilfordd Llangollen

Mae gan Reilffordd Llangollen gynnig unigryw a hael i bawb sydd â Thocyn Gŵyl Eisteddfod Llangollen Thocyn Gŵyl wythnos Eisteddfod Llangollen ar gyfer digwyddiad 2019.

Am ddim ond £50 y person, gallwch brofi teithio diderfyn drwy gydol wythnos yr Eisteddfod ar drên treftadaeth Llangollen i Garrog. Mae’r daith 10 milltir yn daith hamddenol ac anhygoel trwy Ddyffryn Dyfrdwy gan stopio yn Berwyn, Glyndyfrdwy a Charrog.

Mae’r lein, sydd wedi’i lleoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn cadw’n agos at ddyfroedd Afon Dyfrdwy ac yn teithio i fyny’r afon o Langollen a dyma’r unig reilffordd dreftadaeth trac safonol yng Ngogledd Cymru.

Mae’r tocyn trên yn ddilys o’r 1af hyd at y 7fed o Orffennaf (yn gynwysedig) a gellir ei ddefnyddio gymaint o weithiau ag y mynnwch drwy gydol yr wythnos. I fanteisio ar y cynnig ac i archebu’r Tocyn Rheilffordd, mae’n rhaid i chi archebu’n uniongyrchol gyda Rheilffordd Llangollen a dangos prawf o’ch Tocyn Gŵyl Eisteddfod. Gallwch weld yr amserlen yma.

Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod Llangollen, tocynnau a rhaglen yr wythnos ewch i www.llangollen.net