Mae un o grwpiau lleisiol enwocaf y byd sydd wedi rhoi rhywfaint o sbarc cerddorol i’r gyfres deledu boblogaidd Sex and the City ar ei ffordd i ogledd Cymru.
Mae grŵp enwog y Swingles wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd ledled y byd ers 1962 a bydd cantorion presennol y grŵp yn ymddangos ar y llwyfan yn ystod cystadleuaeth fawreddog Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf.
Bydd y cantorion acapella yn artistiaid gwadd yn ystod y gystadleuaeth ar gyfer tlws Pavarotti a enwyd i anrhydeddu’r tenor Eidalaidd chwedlonol a ddechreuodd ei yrfa ganu gyda chôr ei dad yn Llangollen yn 1955, gan ddychwelyd fel seren ryngwladol 40 mlynedd yn ddiweddarach a rhoi perfformiad ysgubol ar lwyfan yr ŵyl.
Mae’r Swingles hefyd wedi ymddangos ar nifer o draciau sain rhaglenni teledu a ffilmiau nodedig, gan gynnwys Sex and the City, Glee, Grey’s Anatomy a Milk.”
Ffurfiwyd y Swingles yn wreiddiol ym Mharis yn 1962 gan y canwr Americanaidd a’r cerddor jazz Ward Swingle.
Chwalodd y grŵp Ffrengig yn 1973 a symudodd Ward Swingle i Lundain lle recriwtiodd gantorion newydd a lansio Swingles II cyn newid yr enw i The Swingles.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths: “Mae cystadleuaeth Côr y Byd bob amser yn frwydr ddwys rhwng corau anhygoel o ansawdd arbennig.
“Y llynedd aeth y wobr gyntaf i Weriniaeth Iwerddon am y tro cyntaf wrth i Gôr Prifysgol Maynooth roi perfformiad gwefreiddiol i gipio tlws Pavarotti, ac yn 2014 aeth y brif wobr i Estudio Coral Meridies o’r Ariannin.
“Eleni rydym yn gwybod bod gennym rai corau o safon gwirioneddol uchel yn cystadlu yn Llangollen, gan gynnwys pedwar côr gwahanol iawn o Galiffornia ynghyd â chorau o Awstralia, Seland Newydd, Lithwania, De Affrica, Norwy a gweddill Ewrop ac wrth gwrs Cymru.”
Ychwanegodd: “Mae’n mynd i fod yn noson arbennig ac rwyf wrth fy modd ein bod yn medru croesawu’r Swingles i Langollen, ac rwy’n edrych ymlaen at eu clywed yn perfformio.
“Roedd Ward Swingle yn athrylith cerddorol a fu farw y llynedd ac roedd hynny’n rheswm pam fy mod yn awyddus i wahodd y Swingles i berfformio yma eleni fel teyrnged iddo.”
“Mae’r grŵp o saith canwr acapella sy’n rhan o’r Swingles presennol yn anhygoel, a byddant yn gweddu’n berffaith i gystadleuaeth Côr y Byd. Mae’n addo bod yn noson wych a hudolus na ddylid ei cholli.”
Mae’r tenor uchel Oliver Griffiths, sydd wedi bod gyda’r grŵp ers 2010, yn edrych ymlaen at berfformio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gan fod y grŵp yn hoff iawn o berfformio mewn cyngherddau yng Nghymru.
Dywedodd: “Bydd ymddangos yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Llangollen yn brofiad gwych i’r grŵp cyfan ac mae’n dod ar ddiwedd misoedd reit ddwys.”
“Byddwn bob amser yn perfformio beth fyddai’r gynulleidfa yn disgwyl ei glywed mewn cyngerdd Swingles. Bydd Bach a Debussy bob amser yn rhan bwysig o unrhyw un o’n cyngherddau. Ond rydym hefyd yn mwynhau treulio amser yn cyfansoddi a threfnu ein cerddoriaeth eu hunain.
“Rydym wrth ein boddau yn perfformio i gynulleidfaoedd gwybodus yng Nghymru ac rwy’n siŵr ein bod yn mynd i gael noson wych yn perfformio yn Llangollen, ac rydym i gyd yn awyddus i weld cystadleuaeth Côr y Byd, sydd mor uchel ei pharch ymysg corau o bedwar ban byd.
Mae’n mynd i fod yn noson anhygoel, hwyliog ac yn fwy na dim yn ddathliad o gerddoriaeth hyfryd. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!”
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn y rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.
Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd a seren y West End Kerry Ellis.
Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau gyda’r tenor nodedig o Malta Joseph Calleja. tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd,
Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.
Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, ac i ddilyn hynny bydd y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.
Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.