Snowflakes yn hel atgofion am eu hawr fawr yn Llangollen bron i 70 mlynedd yn ôl

Mae aelodau côr plant o Gaerdydd a enillodd yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn dal i fynd yn gryf wrth i’r 70ain Eisteddfod agosáu.

Yn ôl yn 1947, enillodd y Snowflakes o Gaerdydd galonnau cynulleidfa yr ŵyl gyntaf, a chael eu coroni yn bencampwyr côr plant yr ŵyl a mynd ymlaen i wneud sawl record a mynd ar deithiau canu.

Yn dilyn apêl gan yr Eisteddfod yng Nghaerdydd canfyddwyd bod nifer o aelodau’r côr yn dal i gyfarfod – ac yn dal i ganu – bron i 70 mlynedd yn ddiweddarach.

A hithau bellach yn 82 oed, mae’r cyn-gantores Pauline Lang yn cofio’r cyffro o berfformio yn yr Eisteddfod enwog, sydd ers y dyddiau cynnar hynny wedi rhoi llwyfan i gewri cerddorol fel Pavarotti, Lulu a Status Quo.

Mae hi a’i ffrind a’i chyd-aelod o’r côr Lila Donovan yn dal i gadw mewn cysylltiad ac mae ganddynt atgofion melys o ddyddiau cynnar y digwyddiad eiconig.

Dywedodd Pauline: “Roedd yn brofiad gwych. Roeddwn ychydig yn nerfus, ond roedd pawb yn hyfryd ac roeddwn wrth fy modd yn mynd i fyny i Langollen.

“Roeddem yn y babell fawr ac roedd yn braf allan ar y maes yn cyfarfod â’r holl berfformwyr eraill o bob cwr o’r byd. Doedden ni ddim yn gallu sgwrsio â nhw yn eu hiaith eu hunain ond roedd yn llawer o hwyl ac roedd yna lawer o ddawnsio gwerin a chanu caneuon byrfyfyr.

Snowflakes Caerdydd ar faes yr Eisteddfod yn cael eu harwain gan Eira Novello Williams.

Snowflakes Caerdydd ar faes yr Eisteddfod yn cael eu harwain gan Eira Novello Williams.

“Rwy’n credu ei fod wedi helpu fod gennym dywydd da,” ychwanegodd Pauline sy’n byw yn y Tyllgoed, Caerdydd, gydag Arthur ei gŵr ers 60 mlynedd.

Ffurfiwyd y Snowflakes yn 1926 gan Gwenllian Williams, a parhaodd y côr wedyn dan arweiniad ei merched Eira Novello a Marion Williams.

Ymunodd Pauline â’r cantorion ar ôl awgrym gan ei rhieni a gwnaeth ffrindiau yn syth gyda’r merched eraill yn y côr.

Dywedodd: “Y tro cyntaf i mi gerdded i mewn mi wnes i gyfarfod â rhywun roeddwn wedi bod yn yr ysgol fabanod gyda hi ac rydym yn dal i gadw mewn cysylltiad heddiw, felly mae’n rhaid ein bod wedi bod yn ffrindiau am rywbeth fel 78 mlynedd.

“Aethom yn ôl i’r Eisteddfod yn 1949 gan ennill bryd hynny hefyd ac ar ôl hynny fe aethom ymlaen i wneud tair record gyda label Decca.

“Roeddem yn eithaf llwyddiannus ac roeddem yn arfer teithio a chystadlu ar hyd a lled y wlad yn ogystal â mynd drosodd i Copenhagen am ychydig wythnosau i ganu.”

Er bod Pauline wedi gadael y côr adeg geni’r cyntaf o’i thri o blant, mi ddefnyddiodd sawl aelod eu profiad gyda’r Snowflakes i lansio eu gyrfaoedd, gydag un cyn-Snowflake yn mynd mor bell â Hollywood.

Gadawodd Ira Stevens ei chartref yn Stryd Dogo, Caerdydd, yn 1936 a symud i Los Angeles fel actor cysgodol i Shirley Temple, gan ymddangos mewn nifer o ffilmiau cyn dychwelyd i Gymru yn 1939.

“Rwy’n dal i fwynhau cerddoriaeth,” meddai Pauline, oedd yn gweithio fel teipydd ac sydd erbyn hyn yn nain i chwech o wyrion. “Ond erbyn hyn mae gen i ofn fod fy llais yn rhy gryg i ganu.”

Fodd bynnag, nid yw ei chyd-aelod o’r Snowflakes Lila Donovan, sydd hefyd o Gaerdydd, wedi rhoi’r gorau i ganu fyth ers y cyfnod cynnar yna ar lwyfan yr Eisteddfod.

“Cefais rai blynyddoedd gwych gyda’r Snowflakes,” meddai Lila: “Roedd fy mam a nhad yn gerddorion gyda Byddin yr Iachawdwriaeth felly mi wnaethon nhw awgrymu bod fy chwaer a minnau yn ymuno â chôr hefyd.

“Fedra i ddim diolch digon iddynt am hynny gan ei fod wedi arwain at gymaint o anturiaethau. Mi wnaethon ni deithio dros y lle, hyd yn oed i Ddenmarc, ac rwyf yn gwneud ffrindiau gwych yr wyf wedi cadw mewn cysylltiad â nhw dros y blynyddoedd.

“Fe wnes i fwynhau pob munud o’r Eisteddfod ac rwy’n credu ein bod wedi canu Dychweliad y Gwanwyn bryd hynny, er na allaf fod yn gwbl sicr o hynny, mae’n anodd cofio’r holl fanylion mae mor bell yn ôl.”

Aeth Lila ymlaen i briodi a gweithio fel athrawes, er na chafodd blant ei hun. Erbyn hyn mae’n wraig weddw ac yn dal i dreulio amser yn ei hysgol leol yn gwrando ar y rhai bach yn darllen yn ogystal â pharhau gyda’r hobi sydd wedi aros gyda hi trwy gydol ei bywyd – canu.

“Rwy’n aelod o gymdeithas operatig erbyn hyn ac yn dal i ganu llawer. Mae’n fy nghadw yn eithaf prysur ac rwyf hefyd wrth fy modd yn camu ar y llwyfan. Pethau fel yna sy’n eich cadw i fynd ac mae’n debyg fy mod wedi bod yn canu ar hyd fy mywyd,” ychwanegodd Lila.

Aelodau côr Snowflakes yn cyfarfod â chystadleuydd o Sbaen yn un o'r Eisteddfodau cynnar, mae Marian Hughes ar y dde.

Aelodau côr Snowflakes yn cyfarfod â chystadleuydd o Sbaen yn un o’r Eisteddfodau cynnar, mae Marian Hughes ar y dde.

Un arall o’r gyn-aelodau’r Snowflakes, a ymunodd yn union ar ôl y perfformiad enwog cyntaf yn yr Eisteddfod ond a oedd yno i godi’r goron am yr ail dro yn 1949, oedd Marian Hughes.

Mae Marian, sydd bellach yn wraig weddw 77 oed o’r Eglwys Newydd, Caerdydd, yn cofio’r grŵp a’i dyddiau canu, gan ddweud: “Mae gen i gymaint o atgofion hyfryd o’r cyfnod yna. Ar ôl y perfformiad yn 1949 roedd y byd i gyd wrth ein traed.

“Mi wnaeth pethau dyfu yn sydyn ar ôl hynny. Un funud byddem ar y llwyfan gyda Harry Secombe a’r funud nesaf byddem yn recordio gyda gwasanaeth radio’r BBC yng Nghymru, ac wrth gwrs roedd y daith i Ddenmarc yn rhywbeth cwbl unigryw yn y dyddiau hynny.

“Roeddem yn cynnal cyngherddau dros y lle i gyd – roedd yn eithaf anhygoel. Rwyf wedi bod yn canu fyth ers hynny ac rwyf i, ynghyd â phump cyn-aelod arall o’r Snowflakes, yn dal i fod yn rhan o gôr cymuned leol, felly rydym yn dal i ganu gyda’n gilydd ar fore Sadwrn,” ychwanegodd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths, sy’n byw yng Nghaerdydd: “Mae’n wych bod gan y merched yma atgofion mor wych o Langollen a’u bod yn gallu eu cofio mor glir.

Lluniau Côr Snowflakes Caerdydd a anfonwyd atom gan y cyn-aelod Marian Hughes, o’r Eglwys Newydd, Caerdydd.

Lluniau Côr Snowflakes Caerdydd a anfonwyd atom gan y cyn-aelod Marian Hughes, o’r Eglwys Newydd, Caerdydd.

“Byddem yn falch iawn o’u croesawu nhw ac unrhyw aelodau eraill o’r Snowflakes yn ôl yma eto ac rwy’n siŵr y byddent yn gweld bod y croeso mor gynnes ag erioed.”

Un o nifer o gorau Cymreig yn Eisteddfod gyntaf Llangollen oedd y Snowflakes  ac roedd y corau eraill yn cynnwys Cymdeithas Gorawl Merched Penarth a Chymdeithas Gerdd Merched Canol y Rhondda a fu’n cystadlu yn erbyn corau o ledled y DU, Gwlad Belg, Portiwgal, Yr Eidal, Sbaen, Sweden, y Swistir, Denmarc , yr Iseldiroedd a Hwngari

Bydd Eisteddfod eleni, sy’n cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, yn denu cystadleuwyr o hyd yn oed yn bellach i ffwrdd ac mae tocynnau ar gyfer y cyngherddau’n mynd yn dda, yn enwedig ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn y rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.

Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd a seren y West End Kerry Ellis a’r banc bechgyn clasurol Collabro.

Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau gyda’r tenor nodedig o Malta Joseph Calleja, tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.

Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.

Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.

Mewn newid i’r amserlen bydd y dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.

Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.