Côr enwog wnaeth greu hanes yn talu teyrnged i’r ŵyl a ddechreuodd y cyfan

Mae côr enwog o Sir Gaer sydd wedi creu hanes ac ennill tlws yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol gyntaf erioed yn Llangollen, wedi cael gwahoddiad yn ôl i’r ŵyl enwog wrth iddi ddathlu ei 70ain blwyddyn.

Mae Cymdeithas Gorawl Sale, a enillodd y gystadleuaeth Côr Cymysg yn yr Eisteddfod gyntaf honno yn Llangollen yn 1947 ac a lwyddodd i gyflawi camp dwbl drwy gipio gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr un flwyddyn, wedi cael ei gwahodd i anfon cynrychiolwyr i’r digwyddiad ym mis Gorffennaf eleni.

Mae côr Sale wedi mwynhau cysylltiad cynhyrchiol gyda’r ŵyl eiconig dros y blynyddoedd, gan ennill cymaint â saith tlws yn y dosbarth llais cymysg.

Mae gan aelodau hŷn y côr atgofion melys o’u hymddangosiadau ar lwyfan Llangollen ym mlynyddoedd cynnar yr Eisteddfod, gan gynnwys ymweliad y Frenhines ar ôl ei choroni yn 1953 a pherfformiad cyntaf y Luciano Pavarotti ifanc yn 1955 fel aelod 19 oed o Gorws Rossini, o Modena.

Sylfaenydd Côr Sale Alf Higson.

Yn rhyfeddol, llwyddodd côr Sale i ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwydydn honno hefyd – cystadleuaeth a gyfyngwyd yn ddiweddarach i gorau o Gymru yn unig – a gall y côr ymffrostio bod yr actores a’r seren opera mezzo-soprano rhyngwladol, Anne Howells, yn un o’r cyn-aelodau.

Cafodd y côr o dref Sale, sy’n dal i fynd yn gryf ar ôl 109 o flynyddoedd, ei sefydlu yn 1907 gan yr arweinydd Alfred Higson a bu’n cystadlu ledled y Deyrnas Unedig hyd at 1960 pan ddaeth yn gôr cyngerdd.

Ymunodd Joan Ball, cadeirydd y Gymdeithas Gorawl, fel aelod 17 oed yn 1960 ac mae wedi mwynhau nifer o ymweliadau ag Eisteddfod Llangollen i wylio ac i ganu.

“Hyd at 1960 côr cystadlu oeddem yn bennaf,” meddai’r wraig 73 oed.

“Roeddem yn arfer mynd o amgylch y gwyliau cerdd amrywiol yn Morecambe, Blackpool a’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru ac wedi dod i’r arfer o ennill cystadlaethau. Roedd ein sylfaenydd, Alfred Higson, yn arweinydd penigamp – does dim amheuaeth am hynny.

“Pan lansiwyd gŵyl Llangollen, mi wnaeth y côr fanteisio ar y cyfle newydd, ac roedemd yn un o’r cyntaf i gystadlu yn 1947.

“Rydym wedi cystadlu yn Llangollen sawl gwaith dros y blynyddoedd ac wedi ennill nifer o weithiau yn 1947, 1948, 1951, 1954, 1955, 1957 a 1959, a ddaeth a sylw mawr i ni yn y Deyrnas Unedig.

“Pan fyddwch yn ennill gymaint o weithiau mae gennych stôr fawr o dlysau ac rydym wedi rhoi sawl tlws yn rhodd i leoliadau amrywiol ledled Manceinion – a hyd yn oed mor bell i ffwrdd ag Awstralia.

“Fel cadeirydd, rwyf wedi etifeddu un o’r tlysau hyn gan fy rhagflaenydd ac mae bellach yn cael lle anrhydeddus yn fy nghartref.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths, arweinydd corawl a chyfansoddwr o safon ryngwladol ei hun: “Roedd gan gôr Sale record ryfeddol mewn cystadlaethau, ac un o’r pethau wnaeth y côr a chorau eraill hefyd oedd dod a safon uchel i’r digwyddiad a fu’n help mawr i sefydlu enw da Llangollen.

“Rydym wedi cynnal y safon ryngwladol uchel yna ers hynny, ac mae’n golygu fod Llangollen yn dal ar y blaen o ran cystadlaethau corawl rhyngwladol ac mae Cymdeithas Corawl Sale yn rhan o’r traddodiad cyfoethog yna.”

Dim ond pedwar arweinydd a gafodd y côr, sy’n ymarfer bob nos Fawrth yn Eglwys Fethodistaidd Sale Moor, yng nghanrif ei fodolaeth – ac erbyn hyn mae’n canolbwyntio ar gyngherddau a pherfformiadau carolau yn lleol, gan gyfuno bob hyn a hyn gyda grwpiau canu a bandiau lleol eraill.

Mae’r aelodau ieuengaf yn eu 30au hwyr tra bod yr aelodau hynaf yn eu 90au.

Un o’r aelodau enwocaf oedd y seren opera rhyngwladol Anne Howells a gafodd wersi canu gan Alfred Higson ac a aeth ymlaen i ganu ledled y byd.

Dim ond ugain oedd y cyn-aelod Edna Lawson o Chorlton, Manceinion, pan ymunodd â’r côr gyntaf, a hithau bellach yn 88 oed mae ganddi atgofion melys o gystadlu yng ngŵyl Llangollen yn y 1950au cynnar, gan ennill ddwywaith.

“Roedd yn brofiad hyfryd ac yn deimlad gwych i ennill. Roedd corau’n dod yno o bedwar ban byd ac yn gwisgo eu gwisgoedd cenedlaethol,” meddai’r nain i ddau o wyrion.

“Rwy’n credu bod yno gôr o’r Eidal yno un flwyddyn ac rwy’n siŵr fod Luciano Pavarotti yn aelod, er nad ydw i erioed wedi gallu cadarnhau hynny. Mae’n debyg ei fod wedi mynychu’r ŵyl pan oedd yn fachgen ifanc.

“Mi wnes i fwynhau fy hun yn arw. Ar y pryd, dim ond pabell fawr mewn cae oedd yno, gyda llawer o bobl yn crwydro o gwmpas y babell ac yn mynd i mewn ac allan, gan wrando ar y canu.

Roedd y Pavarotti 19 oed yno yn 1955, fel rhan o Gorws Rossini o dref Modena, a enillodd y brif wobr gorawl a lansio gyrfa ryngwladol y tenor enwog.

Un o funudau mwyaf cofiadwy côr Sale oedd canu yn y Royal Festival Hall yn Llundain dan arweiniad Syr Adrian Boult, ochr yn ochr â’r soprano nodedig o’r Alban y Fonesig Isobel Baillie yn 1953.

Côr Sale hefyd oedd y côr seciwlar cyntaf erioed i ganu yn Abaty Westminster ar ôl perfformio datganiad yno ar 9 Tachwedd 1958.

“Pan oeddem yn dathlu 100 mlynedd mi wnaethon ni alw’r achlysur yn ‘Ein 100 mlynedd cyntaf’,” meddai Joan, sy’n byw yn Sale.

“Rydym yn edrych ymlaen at y 100 mlynedd nesaf ac yn llawn fwriadu dal ati i ganu a mwynhau cerddoriaeth.

“Mae gen i atgofion melys iawn o Eisteddfod Llangollen, fel aelod o’r gynulleidfa ac fel cantores. Mae’r awyrgylch yn wych.

“Yn 1953, roeddwn yno fel hogan ysgol ifanc. Honno oedd blwyddyn ymweliad y Frenhines ac rwy’n cofio eistedd yn y babell fawr a theimlo’r awyrgylch ddisgwylgar yna, yn ddigymell, mi wnaeth rhywun yng nghefn y babell ddechrau canu ‘Come Home Rhondda Boy’.

“Mi wnaeth y gân ysgubo drwy’r dorf. I rywun deg oed roedd y profiad yn un hynod o  emosiynol. Cododd yr organydd y dôn ac yna dechreuodd y canu eto yn y cefn a daeth ton anhygoel o sain drosom ni i gyd. Mae gen i lwmp yn fy ngwddf dim ond wrth gofio am y peth.

“Mi es i nôl yna eto ddwy neu dair blynedd yn ôl, ac roedd yn anhygoel bod yno eto, ac mi wnaeth yr holl atgofion lifo nôl bryd hynny.”

Mi fu Joan, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Ramadeg Altrincham, yn canu mewn corau ysgol iau ond ar ôl cael gwersi piano gan y sylfaenydd ymunodd â’r Gymdeithas Gorawl. Treuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd yn gweithio fel nyrs yn Ysbyty Brenhinol Manceinion ond roedd yn dal i geisio cael amser rhydd i ganu yn y côr.Sale Choral Society

“Rwy’n credu mai’r gwmnïaeth o gyfarfod bob wythnos yw llawer o’r apêl,” meddai.

“Mae’n gyswllt rheolaidd ac mae cyfarfod â phobl a meithrin cyfeillgarwch yn beth braf. Rydym yn trefnu ambell i ddigwyddiad cymdeithasol ac yn cyfuno gyda grwpiau canu eraill yng Ngogledd-orllewin Lloegr ac yn mynd ar deithiau tramor o dro i dro.

“Rydym yn teithio’n rheolaidd i Ynys Manaw i ganu gyda Chorws Gŵyl Manx.”

Mae’r Eisteddfod yn estyn gwahoddiad i Gôr Sale, a fydd yn gobeithio gallu anfon cynrychiolwyr i ddathlu ei hanes gyda Llangollen ym mis Gorffennaf.

Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, eisoes yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ei rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.

Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd a seren y West End Kerry Ellis.

Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau gyda’r tenor nodedig o Malta Joseph Calleja, tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.

Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.

Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.

Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.

Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.