Grŵp Punjabi fu’n dawnsio gyda’r Tywysog Charles i ddod yn Llysgenhadon Eisteddfod Llangollen

Mae dawnswyr Punjabi a ysbrydolodd Dywysog Cymru i ymuno yng nghuriad y Bhangra wedi cael eu penodi yn llysgenhadon anrhydeddus yr ŵyl eiconig.

Cyrhaeddodd Dawnswyr Sheerer Punjabi o Nottingham y tudalennau blaen ledled y byd ar ôl dawnsio gydag etifedd coron Prydain yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yng ngogledd Cymru.

Ni allai arweinydd y grŵp Narinder Singh gredu ei lwc pan ymunodd y Tywysog Charles mewn dawns fyrfyfyr ar ymweliad â’r digwyddiad gyda Duges Cernyw.

Mae ef a’i dawnswyr yn gefnogwyr mawr o’r ŵyl sy’n cynnal ei 70ain Eisteddfod yr haf hwn, o ddydd Mawrth 5 Gorffennaf tan ddydd Sul 10 Gorffennaf a dywed y gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu gysylltu â nhw drwy e-bost i gael yr holl wybodaeth hanfodol.

Dywed Narinder bod y funud frenhinol hudol mor nodweddiadol o’r ysbryd hwyliog a’r cyfeillgarwch rhyngwladol sy’n nodweddu Llangollen a’i fod yn hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad i ledaenu’r gair am y digwyddiad blynyddol i ddarpar gystadleuwyr ac ymwelwyr o Nottingham a Dwyrain Canolbarth Lloegr.

Meddai Narinder: “Rwyf wrth fy modd i fod yn Llysgennad Llangollen a rhoi gwybod i bobl digwyddiad mor wych yw’r Eisteddfod.

“Mi ddes i yma gyntaf fel ymwelydd yn y 1970au ac yna yn ddiweddarach fel cystadleuydd gyda’r grŵp dawns felly rwy’n gwybod pa mor ffantastig o ddigwyddiad yw’r Eisteddfod.

“Rydych yn cyfarfod â phobl o bob cwr o’r byd ac yn dod i ddysgu am eu cerddoriaeth a’u diwylliant. Mae yma awyrgylch gwych drwy gydol wythnos yr ŵyl.

“Rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn wych fod yr ŵyl wedi tyfu a ffynnu ar hyd y blynyddoedd o’r babell wreiddiol i’r adeilad gwych heddiw.

“Peth rhyfeddol arall yw’r ffordd y mae’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr o’r gymuned leol.

“Byddaf yn dod i Eisteddfod eleni gyda’r grŵp dawns ac mae’n siŵr y byddwn yn perfformio i’r cyhoedd nifer o weithiau.

“Gan mai dyma fydd y 70ain Eisteddfod mae’n mynd i fod yn achlysur arbennig iawn na fyddwn am ei cholli, ac mae cael helpu i ddenu pobl o fy ardal i ddod yno fel Llysgennad yn gyfle arbennig.”

Y tro cyntaf i Narinder ymweld â’r Eisteddfod oedd yn 1978 ac mae wedi dychwelyd yn rheolaidd byth ers hynny.

Dywedodd: “Mi ddes i yma ar hap pan oeddwn yn ymweld â gogledd Cymru ar fy mis mêl y flwyddyn honno.

“Dechreuais y grŵp Sheerer ar ôl meithrin diddordeb yn y bhangra, dawns draddodiadol y Punjab i ddathlu’r cynhaeaf, pan oeddwn yn astudio i fod yn fferyllydd ym Mhrifysgol Caerlŷr.

“Mi wnaethon ni gystadlu am y tro cyntaf yn 1980 a dwy flynedd yn ddiweddarach mi wnaethon ni ennill y gystadleuaeth dawnsio gwerin, ac mi wnaethon ni gipio’r wobr gyntaf y flwyddyn ganlynol hefyd.

“Er na wnaethon ni gystadlu eto ar ôl hynny rydym wedi dod yn ôl yn rheolaidd i Langollen bob blwyddyn, naill ai fel grŵp neu unigolion.

“Y llynedd mi wnes i gasglu  wyth aelod o’r grŵp at ei gilydd, a dod draw. Mae gennym gwpl o ddawnswyr a phum cerddor yn chwarae tambwrin ac offeryn traddodiadol o’r enw chimta – dau far dur gyda chlychau ynghlwm.

“Ond wnaethon ni ddim sylweddoli y byddem yn Llangollen ar gyfer ymweliad swyddogol Tywysog Cymru.

“Roeddem yn ddigon ffodus i’w gyfarfod a chael sgwrs ddymunol ag ef wrth iddo gerdded o gwmpas y maes.

“Yna gofynnais iddo a hoffai ymuno â ni a fedrwn i ddim credu’r peth pan ymunodd â ni mewn dawns. Roedd yn glen dros ben ac roedd ganddo wên ar ei wyneb. Roedd yn rhywbeth rhyfeddol wna i byth anghofio.p1306389745-5

“Rwyf bellach wedi bod mor bowld ag ysgrifennu at Clarence House i weld a fyddai’r Frenhines am i ni ddawnsio fel rhan o ddathliadau ei phen-blwydd yn 90 oed yn ystod yr haf ac maen nhw wedi dweud y byddant yn cysylltu nôl â ni, felly rydym yn croesi ein bysedd.”

Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, anfonwch e-bost at Narinder Singh yn mikesingh2000@yahoo.co.uk

Dywedodd Rhys Davies, Cadeirydd Llangollen 2016: “Rydym wrth ein boddau bod Narinder a’i ddawnswyr wedi cytuno i fod yn llysgenhadon i’r ŵyl er mwyn lledaenu’r gair am y digwyddiad gwych yma.

“Byddant yn gallu rhoi gwybod i bobl Sir Nottingham sut brofiad yw bod yma, ble i fynd a beth i’w weld a hyd yn oed sut i gymryd rhan yn y cystadlaethau.

“Yn fwy na dim efallai gall ddweud wrthynt fod Llangollen yn lle mor gyfeillgar a’r awyrgylch carnifal gwych sydd yma wrth i’r dref fach hon groesawu’r byd yma bob mis Gorffennaf.”

Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau  Eisteddfod eleni yn mynd yn dda, yn enwedig ar gyfer y noson agoriadol pan fydd gantores nodedig Katherine Jenkins yn rhoi cychwyn arbennig i bethau drwy ganu Carmen gan Bizet.

Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd.

Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau tra bydd dydd Iau yn gweld coroni Côr Plant y Byd,

Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.

Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.

Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.

Neilltuir dydd Sadwrn i Gorau’r Byd a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.