Mae’r cadeirydd un o wyliau cerdd hynaf a mwyaf eiconig y DU, ac sy’n hoff o chwarae’r sacsoffon yn ei amser hamdden, yn awyddus i ehangu apêl yr ŵyl er mwyn sicrhau ei dyfodol.
Nod y meddyg wedi ymddeol Rhys Davies, yw ymestyn allan ar draws y ffin i ddenu perfformwyr, cystadleuwyr, mynychwyr cyngerdd ac ymwelwyr i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Y mannau y mae am eu targedu yw’r dinasoedd mawr ac ardaloedd poblog sydd o fewn taith dwy awr o’r dref yn Sir Ddinbych lle dechreuodd y digwyddiad yn 1947.
Mi wnaeth Rhys, meddyg yn y dref ers 30 mlynedd, fynychu ei Eisteddfod gyntaf yn 1956 fel baban bach ac yn awr mae am weld yr ŵyl yn ennill calonnau cenhedlaeth newydd.
Meddai: “Mae Cymru yn bwysig i ni, ond os ewch i’r gorllewin o Langollen ychydig gannoedd o filoedd o bobl sy’n byw yno o fewn pellter awr neu ddwy o deithio. Ond ar y llaw arall, os ewch i’r dwyrain mae yno chwech neu saith miliwn o bobl o fenw cyrraedd hwylus i Langollen.
“Eisteddfod Llangollen yw hi ac os yw’r Eisteddfod yn ffynnu yna mae’r dref a’r ardal gyfagos yn ffynnu hefyd, ond rydym yn ŵyl ryngwladol ac mae angen i ni ymestyn allan yn bell ac agos.
“Mae angen i estyn allan at y bobl hynny ar draws y ffin a dangos iddynt bod dod yma yn brofiad gwerth chweil, a bod gennym gymaint i’w gynnig.”
Olynodd Rhys y cadeirydd blaenorol Gethin Davies, gŵr a roddodd wasanaeth hir i’r Eisteddfod Ryngwladol a’r unig berson a fu’n gadeirydd ar yr ŵyl ddwywaith. Mae Rhys yn fab i’r diweddar Dr Jack Davies a fu’n feddyg teulu yn y dref am 30 mlynedd o 1955, ac am nifer o flynyddoedd roedd cartref y teulu ar ymyl maes yr Eisteddfod yn Dolafon Villas, gerllaw yr hen Ysbyty Bwthyn.
Mae gan Rhys a’i wraig Ann, ddau o blant sydd bellach wedi tyfu, ac maent bellach yn byw yn Nhŷ Pentrefelin lle bu ei rieni’n byw, ac meddai: “Ers pan oeddwn yn fachgen bach rwyf wedi gwirfoddoli yn yr ŵyl, fel negesydd, tywysydd a gwerthwr rhaglenni.
“Mi wnaeth mynd i’r Brifysgol a chael swydd olygu fy mod wedi byw i ffwrdd o’r ardal am rai blynyddoedd, ond pan wnes i ddychwelyd i fyw a gweithio yn Llangollen – roeddwn yn bartner hŷn yn y feddygfa leol – mi wnes i ailddechrau fy nghysylltiad gyda’r Eisteddfod.”
Mae’n ddilynwr cerddoriaeth brwd ei hun ac yn chwarae’r sacsoffon – fyth ers i’w wraig brynu offeryn iddo fel anrheg Nadolig 10 mlynedd yn ôl – ac mae ganddo chwaeth eang sy’n cynnwys opera, cerddoriaeth glasurol, jazz a cherddoriaeth roc y Saithdegau.
Byddai Rhys yn hoffi meithrin cysylltiadau â dinasoedd fel Lerpwl, lle hyfforddodd fel meddyg, Manceinion a Birmingham sydd â phoblogaethau mawr a chysylltiadau â Gogledd Cymru.
Dywedodd: “Byddai’n wych cael y Superlambanana yma o Lerpwl ac efallai neilltuo un diwrnod a chyngerdd gyda’r hwyr i arddangos diwylliant dinas fel Lerpwl, Manceinion neu Birmingham.
“Mae ganddynt fywyd diwylliannol bywiog, cerddorfeydd a chorau mawr, cwmnïau dawns clasurol a chyfoes ac mae gennym leoliad gwych a digwyddiad sydd â threftadaeth gyfoethog.”
Ond mae’n ychwanegu ei bod hefyd yn bwysig parhau i estyn allan dramor ac i gydnabod bod y grwpiau sy’n dod yma, yn enwedig o’r Trydydd Byd, yn wynebu rhwystrau ariannol mawr.
Ychwanegodd: “Hoffwn weld digwyddiadau a chyngherddau elusennol Llangollen ar hyd y flwyddyn yn rhoi hwb i’r gronfa bwrsariaeth er mwyn helpu’r grwpiau yma i wneud y daith i Langollen.
“Naws ryngwladol Llangollen sy’n creu lliw ac awyrgylch anhygoel yr Eisteddfod a rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gynnal y traddodiad yna.”
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, eisoes yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ei rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.
Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd a seren y West End Kerry Ellis.
Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau gyda’r tenor nodedig o Malta Joseph Calleja. tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.
Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.
Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.
Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.
Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.