Archifau Tag festival

Treuliwch benwythnos gŵyl gerddoriaeth mewn steil wrth i Glampio ddod i Lanfest

O’r 6ed i’r 8fed o Orffennaf, gall ymwelwyr brofi penwythnos yr ŵyl mewn steil wrth i Glampio ddod i Llanfest am y tro cyntaf. Mewn partneriaeth â’r Red Sky Tent Company, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnig gwersylla moethus dros benwythnos yr ŵyl ar gyfer Llanfest – ei gŵyl gerddoriaeth undydd sy’n cael ei chynnal ar ddydd Sul y 7fed o Orffennaf. Bydd Pentref Gwersylla Boutique newydd sbon Llanfest yn cynnig glampio moethus dafliad carreg o’r holl gyffro ar safle Pafiliwn yr ŵyl yng nghanol Llangollen, Gogledd Cymru.

(rhagor…)

‘Cavern Club’ Lerpwl yn dychwelyd i Langollen

Mae gŵyl haf wythnos o hyd gogledd Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, wedi cyhoeddi y bydd clwb cerddoriaeth enwocaf y byd, sef ‘Cavern Club’ Lerpwl, yn dychwelyd i’r ŵyl eto eleni.

Ar ôl trefnu ei lwyfan dros dro cyntaf erioed yn  Eisteddfod Ryngwladol y llynedd, mae’r clwb o Lerpwl yn dychwelyd i ddiddanu cynulleidfaoedd ym mharti olaf yr ŵyl, Llanfest, ar ddydd Sul y 7ed o Orffennaf.

(rhagor…)

Codi gwydryn o gwrw newydd i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70 oed

Mae bragdy crefft wedi bragu cwrw arbennig i bawb godi gwydryn i gofio pen-blwydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 70 oed y flwyddyn nesaf.

Bydd Ynyr Evans, pennaeth y poblogaidd Fragdy Llangollen yn Llandysilio ychydig i fyny’r ffordd o faes yr Eisteddfod enwog, yn helpu carwyr cwrw i ddweud ‘iechyd da’ wrth yr Eisteddfod wrth lansio’i gwrw yng ngŵyl fwyd Hamper Llangollen eleni.

(rhagor…)

Athrawes o Fryste yn gwneud taith flynyddol i gyflwyno tlws mewn gŵyl enwog

Hawliodd athrawes sydd wedi ymddeol 94 oed o Fryste sylw’r gynulleidfa mewn gŵyl gerddoriaeth byd enwog drwy gyflwyno tlws er cof am ei brawd i gôr buddugol.

Roedd dod i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn Sir Ddinbych fel dod adref i Enid Evans. Canodd y Gymraes o Lanrhaeadr yng Nghinmeirch, ger Dinbych, yn Nyffryn Clwyd, yn yr Eisteddfod gyntaf un ym 1947.

(rhagor…)

Darnau o waith gan Gyfarwyddwyr Cerdd Cyntaf a Chyfredol i’w clywed wrth i’r Eisteddfod ddathlu’r 70.

Bydd darnau o gerddoriaeth wedi eu cyfansoddi gan Gyfarwyddwyr Cerdd cyntaf a Chyfarwyddwr Cerdd cyfredol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael eu perfformio fis nesaf,  fel rhan o arlwy yr ŵyl eiconig hon sydd yn dathlu’r 70 eleni.

Yn y cyngerdd mawreddog ar y nos Iau, bydd Ffanffer fyrlymus wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan y Cyfarwyddwr Cerdd presennol, Eilir Owen Griffiths yn cael ei ddilyn gan berfformiad o gân o waith  W S Gwynne Williams.

Dywedodd Eilir: “Fel teyrnged i W.S Gwynne Williams bydd Bryn Terfel yn canu Tosturi Duw, ac mi fydd perfformiad cyntaf o’m Ffanffer  i’w chlywed , sydd yn ddathliad o’r achlysur arbennig hwn.” (rhagor…)

Cyn-aelod o’r Snowflakes yn ailymweld â lleoliad ei buddugoliaeth yn 1947

Mae aelod o gôrplant o Gaerdydd a enillodd yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed wedi bod yn ymwelydd brwdfrydig â’r 70ain ŵyl.

Mae’r nain Janette Snaith bellach yn byw yn Colchester gyda’i gŵr, Bryan, clerigwr sydd wedi ymddeol, ond yn ôl yn 1947 roedd y ferch 14 oed o Barc Fictoria, Caerdydd, yn aelod o’r côr enwog, Snowflakes. (rhagor…)

Merle a’i marimba!

Mae cael hyd i farimba wedi peri penbleth a thipyn o gur pen i Merle Hunt yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon.

Mae’r marimba yn offeryn MAWR! Offeryn taro ydio sydd yn wyth troedfedd o hyd ac yn pwyso dros 350 pwys.  Cydlynydd y cystadleuwyr tramoryn yr eisteddfod yw Merle, a’r dasg a gafodd oedd dod o hyd i farimba, a lle i gadw’r offeryn yn ystod yr ŵyl.

Mae’n offeryn sydd werth hyd at £10,000, ac roedd gofyn cael un ar gyfer Elise Liu.  Roedd Elise yn un o ddwy y mae’r Hong Kong Schools Music and Speech Association yn eu hanfon eleni i gystadlu yn Llangollen.  Maent yn anfon cystadleuwyr yn flynyddol. (rhagor…)

Croesi ffiniau i’r dyn newydd sy’n arwain gŵyl gerddoriaeth eiconig

Mae’r cadeirydd un o wyliau cerdd hynaf a mwyaf eiconig y DU, ac sy’n hoff o chwarae’r sacsoffon yn ei amser hamdden, yn awyddus i ehangu apêl yr ŵyl er mwyn sicrhau ei dyfodol.

Nod y meddyg wedi ymddeol Rhys Davies, yw ymestyn allan ar draws y ffin i ddenu perfformwyr, cystadleuwyr, mynychwyr cyngerdd ac ymwelwyr i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. (rhagor…)