Merle a’i marimba!

Mae cael hyd i farimba wedi peri penbleth a thipyn o gur pen i Merle Hunt yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon.

Mae’r marimba yn offeryn MAWR! Offeryn taro ydio sydd yn wyth troedfedd o hyd ac yn pwyso dros 350 pwys.  Cydlynydd y cystadleuwyr tramoryn yr eisteddfod yw Merle, a’r dasg a gafodd oedd dod o hyd i farimba, a lle i gadw’r offeryn yn ystod yr ŵyl.

Mae’n offeryn sydd werth hyd at £10,000, ac roedd gofyn cael un ar gyfer Elise Liu.  Roedd Elise yn un o ddwy y mae’r Hong Kong Schools Music and Speech Association yn eu hanfon eleni i gystadlu yn Llangollen.  Maent yn anfon cystadleuwyr yn flynyddol.

Llangollen International Musical Eisteddfod 2016. Merle Hunt with Liu Elise Chi Man and the marimba

Llangollen International Musical Eisteddfod 2016.
Merle Hunt with Liu Elise Chi Man and the marimba

Math o seiloffon anferthol yw’r marimba, ac yn wir erbyn y dydd Mawrth, roedd Merle wedi cael hyd i farimba, ac wedi cael lle i’w gadw mewn rhandy yn agos at Abbey Road lle roedd mam Elise yn aros.

Dechreuodd Merle, sy’n dod o Glynceiriog, gystadlu yn yr Eisteddfod fel aelod o gôr yr ysgol, a dywedodd, “toeddwn i ddim yn sylweddoli ar y pryd y byddai hynny yn arwain at berthynas oes agos iawn gyda’r eisteddfod”

“40 mlynedd yn ddiweddarach, ac mi rydwi’n un o’r fyddin o 1,000 o wirfoddolwyr – dim ond 6 aelod o staff sydd yn cael eu cyflogi – sydd yn dod â’r eisteddfod at ei gilydd – am y 70 tro!.”

Dywedodd  Elise: “cyn cael dod i Langollen i gystadlu roedd yn rhaid i ni ennill mewn cystadleuaeth yn Hong Kong”, oedd yn hynod ddiolchgar.

“Rydwi wedi bod yn chwarae’r marimba ers deng mlynedd, a chyn hynny roeddwn yn chwarae’r piano ac offerynnau taro.  Rwy’n mwynhau chwarae’r marimba – mae iddo sain cyfoethog ac mae cymaint o amrywiaeth o gerddoriaeth y gellir ei chwarae arno.”

Ychwanegodd  Elise,fydd yn cystadlu yn y Gystadleuaeth ar gyfer y Cerddor Ifanc Rhyngwladol “mae Llangollen yn dref hardd iawn a thra rwy’n ymarfer rwyf wrth fy modd yn gwylio’r trenau’n mynd heibio .”

Ei chyd-gystadleuydd o Hong Kong ywSabrina Chen, a fydd yn perfformio ar y sheng – sef offeryn chwyth 21 pibell – offeryn traddodiadol Tseiniaidd.  Dywedodd ei bod yn mwynhau y bwyd gan nodi pysgod a sglodion a lasagne fel ffefrynnau”

Dechreuodd Merle wirfoddoli yn Llangollen ar ôl dychwelyd i Gymru yn dilyn cyfnod yn gweithio yng Nghanolbarth Lloegr.  Dechreuodd trwy wahodd cystadleuwyr o dramor i aros yn ei chartref yng Nglyn Ceiriog, ac yn ddiweddarach bu’n cynorthwyo gyda threfniadau llety ar gyfer ymwelwyr mewn cartrefi lleol.

Mae bellach yn gweithio gyda thȋm arbennig sydd yn trefnu cludiant o feysydd awyr, llety, cludiant dyddiol, ac wrth gwrs cyllideb ar gyfer dros 2,000 o ymwelwyr tramor.

Dywedodd “Mae llawer o’r ymwelwyr tramor wedi goresgyn heriau anferthol er mwyn cyrraedd yr eisteddfod.  Cymerodd ddwy flynedd o godi arian er mwyn i grwp o ddawnswyr ifanc o Simbabwe i godi digon o arian.  Llwyddwyd i godi’r arian trwy gynnal cyngherddau a gwerthu lemoned cartref.”

Mae’n mwynhau’r perfformiadau ar y pryd sydd yn cael eu hysbrydoli gan y digwyddiad.  “Rwy’n cofio gweld grwp o ddawnswyr Gwyddelig yn ymarfer ym mhabell y cystadleuwyr, ac yn sydyn ymunodd grwp o ddawnswyr o’r India gyda hwy.

“Un flwyddyn bu grwp o ddawnswyr o Georgia yn aros yn y pentref.  Toedden ni ddim yn medru Rwseg, a toedd ganddyn nhw ddim Saesneg, ond fe gawson ni lawer iawn o hwyl yn gwisgo eu dillad ac yn dysgu eu dawnsfeydd, a hwythau yn tynnu ein lluniau ac yn mwynhau yn arw.

“Y llynedd, bu ond y dim i un grŵp o blant oedd wedi bwriadu dod draw i ddawnsio fethu a chyrraedd oherwydd y daeargryn yn Nepal, ond bu caredigrwydd pobl yn arbennig, rhai beirniaid yn rhoi eu ffioedd er mwyn cynorthwyo’r plant, clybiau Rotari a Lions yn rhoi cyfraniadau, busnesau lleol yn darparu bwyd  a llwyddwyd i godi digon o arian nid yn unig i dalu eu costau, ond llwyddwyd i gyfrannu dros £2,000 tuag at gronfa’r drychineb ei hun hefyd.

“Yn y diwedd, cyrhaeddodd pedwar cerddor a dau blentyn, ac yno i’w croesawu oedd côr yn canu ‘Calon Lan’.  Roedd yn brofiad emosiynol iawn.

“Rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli, ac mae’n rhyfeddol sut y mae’r holl waith tȋm yn llwyddo i roi darnau’r jigso eisteddfodol at ei gilydd.  Mae’r berthynas a’r gwaith tȋm yn rhywbeth arbennig iawn.”