Mae cael hyd i farimba wedi peri penbleth a thipyn o gur pen i Merle Hunt yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon.
Mae’r marimba yn offeryn MAWR! Offeryn taro ydio sydd yn wyth troedfedd o hyd ac yn pwyso dros 350 pwys. Cydlynydd y cystadleuwyr tramoryn yr eisteddfod yw Merle, a’r dasg a gafodd oedd dod o hyd i farimba, a lle i gadw’r offeryn yn ystod yr ŵyl.
Mae’n offeryn sydd werth hyd at £10,000, ac roedd gofyn cael un ar gyfer Elise Liu. Roedd Elise yn un o ddwy y mae’r Hong Kong Schools Music and Speech Association yn eu hanfon eleni i gystadlu yn Llangollen. Maent yn anfon cystadleuwyr yn flynyddol. (rhagor…)