Hawliodd athrawes sydd wedi ymddeol 94 oed o Fryste sylw’r gynulleidfa mewn gŵyl gerddoriaeth byd enwog drwy gyflwyno tlws er cof am ei brawd i gôr buddugol.
Roedd dod i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn Sir Ddinbych fel dod adref i Enid Evans. Canodd y Gymraes o Lanrhaeadr yng Nghinmeirch, ger Dinbych, yn Nyffryn Clwyd, yn yr Eisteddfod gyntaf un ym 1947.
Dyma oedd y 70ain tro i’r Eisteddfod gael ei chynnal ac ers iddi gael ei sefydlu mae wedi denu artistiaid o ragoriaeth fel Luciano Pavarotti, a gystadlodd yno fel gŵr anadnabyddus 19 mlwydd oed ym 1955 fel aelod o’r Corws Rossini o Modena.
Fe’i sefydlwyd i hybu heddwch a chytgord yn dilyn yr Ail Ryfel Byd ac mae’n parhau i ddenu hyd at 4,000 o gystadleuwyr, dros 1,000 o dramor, a hyd at 40,000 o ymwelwyr yn flynyddol.
Eleni roedd yr ŵyl chwe diwrnod yn cynnwys cyngherddau gan y bas-bariton Cymreig enwog Bryn Terfel a’r athrylith ar yr allweddellau Jools Holland ond roedd Enid, sy’n byw yn Longwell Green, Bryste, yno i gyflwyno tlws i Gôr Plant Iau y Byd.
Rhodd Enid dlws a siec ar gyfer £500 er cof am ei brawd diweddar ac yn addas iawn côr o’r gogledd a ddaeth i’r brig wrth i Gôr Ieuenctid Môn ennill y tlws yn dilyn cystadleuaeth anodd yn cynnwys wyth côr o ledled Cymru a Lloegr.
Wylodd cyfarwyddwr cerddorol ac arweinydd y côr, Mari Lloyd Pritchard, ddagrau o lawenydd wrth iddi gasglu’r tlws rhyngwladol a siec ar gyfer £500 oddi wrth Enid er cof am ei brawd, H Wyn Davies MBE a’i wraig Muriel.
Un neu ddwy Eisteddfod yn unig y mae Enid wedi eu colli dros y 70 mlynedd diwethaf. Canodd yn yr Eisteddfod gyntaf un yn Llangollen, ac er ei bod hi’n byw ym Mryste ers 60 mlynedd â i Langollen bob Gorffennaf os yw’n bosib.
Dywedodd: “Rwy’ bob tro’n mwynhau ymweld â’r Eisteddfod ac yn edrych ymlaen at glywed y corau plant yn canu yn bennaf.
“Eleni roedd y gystadleuaeth yn ardderchog ac roedd Côr Ieuenctid Môn yn enillwyr teilwng.
“Rwy’n noddi’r wobr oherwydd roedd fy mrawd annwyl, H Wyn Davies, a’i wraig Muriel, yn gefnogwyr ffyddlon i’r Eisteddfod am flynyddoedd.”
Canmolwyd perfformiad Côr Ieuenctid Môn gan y cyfansoddwr brenhinol Paul Mealor, a oedd yn un o feirniaid y gystadleuaeth.
Dywedodd: “Roedd hi’n gystadleuaeth anodd iawn gyda rhai corau plant ffantastig yn cystadlu. Fodd bynnag, roedd Côr Ieuenctid Môn yn rhagori oherwydd eu hegni a’u hynganiad da. Roedd y gerddoriaeth a’r canu yn dod yn ddwfn o’u heneidiau.”
Ychwanegodd Enid: “Roeddwn i’n ffodus iawn i gael fy magu mewn teulu cerddorol iawn ac roeddwn i yn y digwyddiad cyntaf un ym 1947, gyda fy rhieni a’m brodyr.
“Rwyf wedi mynychu’n flynyddol ers hynny ac mae gen i lawer o atgofion o bobl a pherfformiadau arbennig y byddaf yn eu trysori am byth.”