Treuliwch benwythnos gŵyl gerddoriaeth mewn steil wrth i Glampio ddod i Lanfest

O’r 6ed i’r 8fed o Orffennaf, gall ymwelwyr brofi penwythnos yr ŵyl mewn steil wrth i Glampio ddod i Llanfest am y tro cyntaf. Mewn partneriaeth â’r Red Sky Tent Company, mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnig gwersylla moethus dros benwythnos yr ŵyl ar gyfer Llanfest – ei gŵyl gerddoriaeth undydd sy’n cael ei chynnal ar ddydd Sul y 7fed o Orffennaf. Bydd Pentref Gwersylla Boutique newydd sbon Llanfest yn cynnig glampio moethus dafliad carreg o’r holl gyffro ar safle Pafiliwn yr ŵyl yng nghanol Llangollen, Gogledd Cymru.

Dywedodd Cadeirydd yr Ŵyl, Dr Rhys Davies, “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gyflwyno’r llety newydd hwn ar gyfer ymwelwyr sydd wedi’i leoli’n hwylus ac agos at galon yr ŵyl. Mae hyn yn ymwneud â chynnig profiad cyfan. Felly gall ymwelwyr Llanfest aros a gwerthfawrogi ein digwyddiad unigryw ac ymgolli mwy fyth yn harddwch ac awyrgylch yr Eisteddfod Ryngwladol. ”

Dywedodd Brendan Fitzpatrick, Perchennog cwmni pebyll Red Sky, “Rydym wrth ein boddau ein bod yn cynnal y pentref glampio boutique cyntaf erioed yn Llanfest. Mae pob un o’n pebyll cloch 5 medr moethus wedi’u dodrefnu’n llawn gyda charpedi, gwelyau, dillad gwely a chyfleusterau pentref gan gynnwys cawodydd poeth, bar a chaffi. Rydym am i westeion ddod draw yma ddiwrnod yn gynnar, ymlacio a threulio eu noson gyda ni.”

Ar ddydd Sadwrn y 6ed o Orffennaf o 2yp ymlaen, gall ‘Glampwyr Llanfest’ fynd i ysbryd yr ŵyl wrth i’r Pentref Glampio gynnal parti barbeciw am ddim ar gyfer gwesteion sy’n dod draw yn gynnar cyn yr ŵyl gerddoriaeth ar ddydd Sul. Yna ar ddydd Sul am 2yp, bydd y rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw yn dechrau cyn i’r prif artistiaid gamu ar y llwyfan mawr gyda’r nos.

Mae rhaglen Llanfest yn ystod y dydd yn cyflwyno bandiau a cherddorion o bob rhan o Swydd Gaer, Glannau Mersi a Gogledd Cymru ar y chwe llwyfan allanol: Llwyfan y Byd, Y Llwyfan Rhyngwladol, Llwyfan yr Amffitheatr, Sesiynau Acwstig yn y Neuadd Fwyd, Llan Jam ac Ardal Rewind DJ.

Bydd un o uchafbwyntiau’r llwyfannau awyr agored yn gweld The Cavern Club yn meddiannu Llwyfan yr Amffitheatr. Roedd clwb cerddoriaeth byd-enwog Lerpwl yn boblogaidd iawn gyda mynchwyr gŵyl Llanfest y llynedd, a bydd band Tony Skeggs yn mynd ar daith gerddorol o’r Beatles i’r Arctic Monkeys a llawer mwy. Bydd Richard Batty yn dychwelyd gyda’i sioe acwstig a bydd Jonny Parry yn clymu’r diwrnod ac yn perfformio set acwstig hefyd.

Bydd Llwyfan y Byd yn cynnwys roc, indie-pop gyda harmoniau lleisiol, y profiad o brit-pop anhygoel a chlasuron ska a ffefrynau ar eu newydd wedd mewn arddull ska gan artistiaid fydd yn cynnwys Sawbones (Lerpwl/Manceinion), Kidsmoke (Wrecsam), Marblehead Johnson (Llangollen) a Skaburst (Telford).

Bydd y Llwyfan Rhyngwladol yn cynnwys roc amgen, roc, pop ac indie melodaidd gan gyflwyno llawer o glasuron ond hefyd ambell i syrpreis mewn perfformiadau gan The Montagues (Gogledd Cymru), Seprona (Lerpwl), Before the Storm (Wrecsam) a The Droogs (Wrecsam)

 Bydd sesiynau acwstig Llan Jam yn cyflwyno caneuon clasurol o soul, roc a phop o’r 50au, 60au a’r 70au gan gynnwys caneuon serch, hen fferfrynnau, cerddoriaeth gan Misschief (Swydd Gaer) Fay and Deon, Inkonsoulable, Gareth Heesom (Gogledd Orllewin Lloegr). Gan gynnwys cyfuniad gwych o’r holl artistiaid yn canu gyda’i gilydd.

Bydd Sesiynau Acwstig yn y Neuadd Fwyd yn cyflwyno roc a phop, blues indie, canu gwlad, canu gwerin, hen fferfrynnau a chaneuon gwreiddiol gan Lucy Mayhew (Cilgwri), The GOGS (Wrecsam), Dave Grasshopper (Llangollen) a Jude Lane (Gogledd Cymru). Yna, yn Ardal Rewind DJ, bydd Dave Boss yn chwarae pop indie, Ska, a chlasuron roc drwy’r dydd.

Daw’r ŵyl i ben gyda phrif artisitiaid Llanfest eleni – bandiau roc eiconig o Brydain, The Fratellis and The Coral, ac yn ymuno â nhw ar y noson bydd y rocwyr indie Platinwm, Pigeon Detectives, a’r triawd pop roc pwerus o’r 90au, Dodgy.

I gael cyfle i gysgu mewn steil ym mhentref glampio cyntaf Llanfest, gall gwesteion archebu lle yn redskytentco.org/llanfest/ (prisiau pabell yn dechrau o £80).

Er mwyn gweld rhaglen lawn gŵyl gerddoriaeth Llanfest neu i archebu tocynnau ewch i llangollen.net (Tocynnau Gŵyl yn dechrau o £39).