Bydd Dodgy yn chwarae eu halbwm HOMEGROWN yn llawn a chaneuon enwog eraill ar daith enfawr o’r DU yn 2019 i ddathlu 25 mlynedd ers rhyddhau eu hail albwm. Byddant yn chwarae’r albwm yn llawn ynghyd â’u caneuon enwocaf a ffefrynnau eraill byw.
Bu Dodgy gyda’i gilydd am saith mlynedd yn y 90au, gan ryddhau tair albwm a werthodd dros filiwn o gopïau ledled y byd. Mae ‘Homegrown’ eu halbwm o 1994 yn cynnwys y sengl ‘Staying Out for the Summer’, cân gyntaf y band i gyrraedd yr 20 Uchaf. Dilynwyd hon yn 1996 gydag albwm rhif tri, sef ‘Free Peace Sweet’ oedd yn cynnwys y senglau poblogaidd ‘In a Room’, ‘Good Enough’ (un o’r traciau sydd wedi’i chwarae amlaf ar y radio ym Mhrydain yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf) ac ‘If You’re Thinking of Me’.
Mae eu caneuon enwog yn cynnwys:
Good Enough
Staying Out for the Summer
If You’re Thinking of Me
In A Room
Found You