‘Cavern Club’ Lerpwl yn dychwelyd i Langollen

Mae gŵyl haf wythnos o hyd gogledd Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, wedi cyhoeddi y bydd clwb cerddoriaeth enwocaf y byd, sef ‘Cavern Club’ Lerpwl, yn dychwelyd i’r ŵyl eto eleni.

Ar ôl trefnu ei lwyfan dros dro cyntaf erioed yn  Eisteddfod Ryngwladol y llynedd, mae’r clwb o Lerpwl yn dychwelyd i ddiddanu cynulleidfaoedd ym mharti olaf yr ŵyl, Llanfest, ar ddydd Sul y 7ed o Orffennaf.

Dywedodd Jon Keats, Cyfarwyddwr y ‘Cavern Club’: “Rydym wrth ein boddau i weithio gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am yr ail flwyddyn, yn dilyn y derbyniad anhygoel a gawsom yn 2018.

“Mae’r egni a’r awyrgylch unigryw yr ŵyl yn wych ac yn rhywbeth rydym wrth ein boddau galllu bod yn rhan ohono eto.”

Mae Llanfest yn ychwanegiad cymharol newydd i’r ŵyl ac fe’i cyflwynwyd er mwyn estyn allan at gynulleidfaoedd newydd ac i ddenu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad. Bydd llwyfan y ‘Cavern Club’ yn adlewyrchu awyrgylch parti hwyliog Llanfest gyda pherfformiadau egnïol o ganeuon gan artistiaid enwog gan gynnwys The Kinks, The Rolling Stones, The Who, Stevie Wonder, Queen, Oasis a Travis.

Bydd y ‘Cavern Club’ yn helpu torfeydd yr ŵyl i fynd i hwyliau parti cyn i’r prif artistiaid gamu ar brif lwyfan y Pafiliwn. Y prif berfformwyr eleni fydd y band roc o’r Alban, The Fratellis, a hoff fand roc Glannau Merswy, The Coral, sy’n dilyn llwyddiant ysgubol y rocwyr indie enwog, Kaiser Chiefs, a gododd do’r Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn Llanfest y llynedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Edward-Rhys Harry: “Nod Eisteddfod Llangollen yw uno cymunedau o bob cwr o’r byd trwy gerddoriaeth a dawns, mewn ysbryd o ewyllys da, cyfeillgarwch a heddwch rhyngwladol.

“Bydd presenoldeb rhyngwladol y ‘Cavern Club’ yn lledaenu’r neges hon ymhellach fyth ac ni allem fod yn fwy balch o gydweithio â nhw am yr ail flwyddyn yn olynol. Rydym wrth ein boddau gallu profi genre cerddorol mwy cyfoes yn yr ŵyl, gan asio hynny gyda neges graidd, draddodiadol yr Eisteddfod.”

Bydd llwyfan dros dro y ‘Cavern Club’ yn Llanfest, Llangollen ar ddydd Sul 7 Gorffennaf 2019 o 2yp ymlaen. Tocynnau ar gael yn Llangollen.net neu 01978 862001.