
Mae gŵyl haf wythnos o hyd gogledd Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, wedi cyhoeddi y bydd clwb cerddoriaeth enwocaf y byd, sef ‘Cavern Club’ Lerpwl, yn dychwelyd i’r ŵyl eto eleni.
Ar ôl trefnu ei lwyfan dros dro cyntaf erioed yn Eisteddfod Ryngwladol y llynedd, mae’r clwb o Lerpwl yn dychwelyd i ddiddanu cynulleidfaoedd ym mharti olaf yr ŵyl, Llanfest, ar ddydd Sul y 7ed o Orffennaf.