The Coral

Ffurfiwyd The Coral yn 1996 yn Hoylake ar Benrhyn Cilgwri, ac adlewyrchir eu poblogrwydd yn y ffaith iddynt werthu dros filiwn o albymau yn y DU ers rhyddhau eu EP cyntaf yn 2001, gyda phump o’r rhain wedi mynd i frig y deg uchaf, gan gynnwys yr enwog “Magic and Medicine” (2003). Mae wyth o’u senglau wedi cyrraedd y 40 uchaf gan gynnwys ‘Dreaming Of You’, ‘In The Morning’, ‘Pass it On’, a ‘Don’t Think You’re The First’.

Heb edrych nôl o gwbl, mae James Skelly (llais / gitâr), Ian Skelly (drymiau / offerynnau taro / llais), Nick Power (allweddellau / llais), Paul Duffy (bas / allweddellau / llais) a Paul Molloy (gitarau ) wedi camu ymlaen i’r dyfodol gan atgyfnerthu eu lle unigryw mewn cerddoriaeth fodern.

Nid oes unrhyw benllanw i stori The Coral, cafodd “Move Through the Dawn”, eu halbwm diweddaraf, ei ryddhau ar 17 Awst 2018, blwyddyn brysur i’r grŵp sydd wedi cefnogi’r Manic Street Preachers yn ogystal ag ymddangos mewn rhai gwyliau arbennig gan gynnwys Llanfest ar 7 Gorffennaf 2019.

Mae eu caneuon adnabyddus yn cynnwys:

Dreaming Of You

In The Morning

Pass It On