Mae’r band platinwm o Leeds The Pigeon Detectives yn ôl gyda ‘Lose Control’ eu sengl newydd o’u pumed albwm ‘Broken Glances‘.
Ffurfiwyd The Pigeon Detectives yn 2002 gyda Matt Bowman fel prif leisydd, Oliver Main a Ryan Wilson ar gitârau, Dave Best ar y gitâr fas, a Jimmi Naylor ar y drymiau. Roedd y pump yn ffrindiau ysgol ac wedi adnabod ei gilydd ers pan oedden nhw’n 12 oed, ac mae’r band wedi tyfu’n syfrdanol mewn poblogrwydd, gan gychwyn yn Leeds gyda’r label lleol Dance to the Radio, a dod i amlygrwydd sȋn Gerddorol y DU wrth i’w record gyntaf ‘Wait for Me’ werthu dros hanner miliwn o gopïau, gan arwain at fod y prif fand mewn nosweithiau yn Alexandra Palace, Llundain ac Arena Sgwâr y Mileniwm yn Leeds flwyddyn ar ôl ei ryddhau.
Mae eu caneuon enwog yn cynnwys:
I Found Out
Take Her Back
I’m Not Sorry
This is an Emergency
Romantic Type