Darnau o waith gan Gyfarwyddwyr Cerdd Cyntaf a Chyfredol i’w clywed wrth i’r Eisteddfod ddathlu’r 70.

Bydd darnau o gerddoriaeth wedi eu cyfansoddi gan Gyfarwyddwyr Cerdd cyntaf a Chyfarwyddwr Cerdd cyfredol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael eu perfformio fis nesaf,  fel rhan o arlwy yr ŵyl eiconig hon sydd yn dathlu’r 70 eleni.

Yn y cyngerdd mawreddog ar y nos Iau, bydd Ffanffer fyrlymus wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan y Cyfarwyddwr Cerdd presennol, Eilir Owen Griffiths yn cael ei ddilyn gan berfformiad o gân o waith  W S Gwynne Williams.

Dywedodd Eilir: “Fel teyrnged i W.S Gwynne Williams bydd Bryn Terfel yn canu Tosturi Duw, ac mi fydd perfformiad cyntaf o’m Ffanffer  i’w chlywed , sydd yn ddathliad o’r achlysur arbennig hwn.”

Roedd y diweddar William Sydney Gwynne Williams OBE yn angerddol am gerddoriaeth.  Fe’i ganwyd yn Llangollen yn 1896, ac efo oedd Cyfarwyddwr Cerdd cyntaf yr ŵyl arbennig hon, a bu yn y swydd hyd 1977 – sef blwyddyn cyn ei farwolaeth.

Roedd wedi dechrau cyfansoddi yn ei arddegau; aeth ymlaen i sefydlu Cymdeithas y Cerddorion Cymreig yn1923.  Bu hefyd yn weithgar iawn gyda Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru o 1933 ymlaen.

Bu’n Gyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod am 30 mlynedd cyn ymddeol yn 1977.  Bu farw y flwyddyn ganlynol.

Sefydlodd Gwmni Cyhoeddi Gwynn fu’n allweddol yn cyhoeddi a chynhyrchu llawer o gerddoriaeth unawdol a chorawl, yn ogystal â threfnianau o gerddoriaeth o wahanol wledydd,  oedd, wrth reswm yn bwysig iawn ar gyfer lawnsio’r Eisteddfod Ryngwladol yn 1947.

Roedd ei gyfansoddiadau mwyaf poblogaidd yn cynnwys “Gweddi’r Orsedd” a “My Little Welsh Home”.

Yn ôl Eilir Owen Griffiths, y Cyfarwyddwr Cerdd presennol, “cafodd  W.S Gwynne Williams ei ddisgrifio fel y llysgennad cerddorol mwyaf a welodd Cymru erioed, gyda’i ddylanwad yn bellgyrhaeddol, ac mae hynny yn sicr yn wir.

“Gyda’r ŵyl yn dathlu ei phenblwydd yn 70 oed, roedd yn gwbl briodol i ni ei gofio a’i anrhydeddu fel un o sefydlwyr Eisteddfod Llangollen.

“Mae Tosturi Duw yn gân hyfryd, a fydd yn cael ei pherfformio gan Bryn”.

Llangollen International Musical Eisteddfod 2016. Thursday evening concert. Bryn Terfel celebrates the 70th Llangollen International Musical Festival with good friend Maltese Joseph Calleja and joined on stage by the Eisteddfod’s 2014 Voice of the Future competition winner, mezzo soprano Eirlys Myfanwy Davies alongside the Sinfonia Cymru Orchestra conducted by Gareth Jones.

Llangollen International Musical Eisteddfod 2016.
Thursday evening concert. Bryn Terfel celebrates the 70th Llangollen International Musical Festival with good friend Maltese Joseph Calleja and joined on stage by the Eisteddfod’s 2014 Voice of the Future competition winner, mezzo soprano Eirlys Myfanwy Davies alongside the Sinfonia Cymru Orchestra conducted by Gareth Jones.

“Y tenor o Malta Joseph Calleja fydd ein perfformiwr gwadd arall yn y cyngerdd, a bydd ef yn perfformio un arall o ganeuon enwog  W.S Gwynne Williams, “Little Welsh Home”- un arall o’i ganeuon enwog.

“Bydd y cyngerdd yn agor gyda pherfformiad  cyntaf byd eang o’r ffanffer yr wyf wedi ei gyfansoddi yn arbennig ar gyfer yr achlysur.  Bydd “Ffanffer Heddwch” i’w glywed yn gyhoeddus am y tro cyntaf.”

“Mae’n ddarn newydd sbon, ac fe fydd yn cael ei berfformio gan gerddorfa llawn.  Mae mewn tair rhan, ac yn agor gydag adran fawreddog i’r offerynnau taro, yn cael ei ddilyn gan adran ganol, llonydd ei naws, ac yna adran glo fawreddog i orffen.

“Rydwi wedi cyfansoddi sawl ffanffer yn y gorffennol, ond hon yw’r ffanffer cyntaf i mi ei chyfansoddi ar gyfer cerddorfa lawn, ac rwyf wedi bod yn gweithio ar y darn am beth amser.  Rydwi’n edrych ymlaen i’w glywed yn gyhoeddus am y tro cyntaf”.

Mae Eilir wedi ennill sawl gwobr am gyfansoddi , gan gynnwys Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae wedi cael pleser mawr o glywed ei weithiau yn cael eu perfformio gan gantorion opera enwog.

“Mae gennyf atgofion melys o glywed Bryn Terfel a’r tenor o Gymru Wynne Evans yn canu gorffwysgan a gyfansoddais mewn cyngerdd yng Ngerddi Aberglasne i nodi sefydlu Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2011”, dywedodd.

“Ers i mi ddod yn Gyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod yn Llangollen, rydwi wedi ceisio ysgrifennu darn ar gyfer yr ŵyl, boed yn drefniant neu gyfansoddiad gwreiddiol.

“Ar gyfer fy Eisteddfod cyntaf fel Cyfarwyddwr Cerdd yn 2012, cyfansoddais ddarn o’r enw Ave Verum Corpus a berfformiwyd yng nghyngerdd clo’r Eisteddfod gan Wynne Evans.  Rwyf hefyd wedi cyfansoddi trefniant o’r emyn dôn Calon Lân ar gyfer Noah Stewart.

“Bydd cynnwys rhaglen y cyngerdd ar y nos Iau eleni yn rhoi cyfle gwych inni gael clywed y cantorion ar eu gorau.

“Mae’n rhaglen amrywiol iawn sydd yn cynnwys darnau clasurol o waith Wagner, Verdi a Bizet. Bydd Bryn yn canu “Pe bawn i’n gyfoethog” allan o’r sioe gerdd ‘Fiddler on the Roof’, a bydd  Joseph yn ymuno gydag o i ganu’r gân ‘Anything You Can Do’ allan o ‘Annie Get Your Gun’.

“Bydd y cyngerdd cael ei gyflwyno i’r Eisteddfod a’i holl wirfoddolwyr, sydd yn ymroi yn flynyddol i sicrhau llwyddiant yr ŵyl.”

Mae gwerthiant tocynnau ar gyfer cyngherddau’r flwyddyn hon, sydd yn cychwyn ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf yn mynd yn dda, yn arbennig felly y tocynnau ar gyfer y cyngerdd agoriadol, fydd yn cychwyn gyda pherfformiad  Katherine Jenkins o Carmen gan Bizet.

Diwrnod Rhyngwladol y Plant yw’r dydd Mercher, lle bydd cystadlaethau corawl a dawns. Eleni hefyd mae cystadleuaeth newydd – unawd o dan 16 oed.  Gyda’r hwyr byddwn yn clywed Lleisiau’r Sioeau Cerdd.

Bryn Terfel fydd yn arwain y Cyngerdd Gala 70 ar y nos Iau, a hynny yn dilyn dathlu enillwyr Côr Plant y Byd.

Bydd y dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd, gyda gwledd o gerddoriaeth a dawns yn cael ei gyflwyno gan y cystadleuwyr rhyngwladol.  Uchafbwynt y diwrnod fydd cystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd yn y cyngerdd fin nos.

Bydd y cyngerdd yn agor gyda dathliad Carnifal y Caribi, yn cael ei ddilyn gan Neges Heddwch Ryngwladol, fydd eleni yn cael ei gyflwyno gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.

Bydd newid i’r drefn ar gyfer y dydd Gwener, pan welir Gorymdaith y Cenhedloedd, fydd yn cael ei arwain gan Lywydd yr Eisteddfod Terry Waite.  Mae’r newid hwn yn y gobaith y bydd mwy o bobl a chystadleuwyr yn bresennol.

Mae’r dydd Sadwrn yn cael ei neilltuo ar gyfer y corau arobryn, gan gloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd, gyda’r corau yn ymgiprys am Dlws Pavarotti.  Dydd Sul bydd cyfle i bawb ymlacio yn Llanfest cyn y cyngerdd clo mawreddog.

Er mwyn archebu tocynnau ac am fwy o wybodaeth am ŵyl 2016, ewch i’r wefan www.international-eisteddfod.co.uk