Bydd darnau o gerddoriaeth wedi eu cyfansoddi gan Gyfarwyddwyr Cerdd cyntaf a Chyfarwyddwr Cerdd cyfredol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael eu perfformio fis nesaf, fel rhan o arlwy yr ŵyl eiconig hon sydd yn dathlu’r 70 eleni.
Yn y cyngerdd mawreddog ar y nos Iau, bydd Ffanffer fyrlymus wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan y Cyfarwyddwr Cerdd presennol, Eilir Owen Griffiths yn cael ei ddilyn gan berfformiad o gân o waith W S Gwynne Williams.
Dywedodd Eilir: “Fel teyrnged i W.S Gwynne Williams bydd Bryn Terfel yn canu Tosturi Duw, ac mi fydd perfformiad cyntaf o’m Ffanffer i’w chlywed , sydd yn ddathliad o’r achlysur arbennig hwn.” (rhagor…)