Yng ngoleuni’r frwydr fyd-eang barhaus yn erbyn y Coronafeirws, rydym yn gweithio ar gynlluniau i addasu fformat Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar gyfer Gorffennaf 2021.
Mae ansicrwydd sylweddol yn parhau ynghylch y posibilrwydd o gynnal digwyddiadau torfol yng Nghymru yn ystod haf 2021, rydym hefyd yn cydnabod y byddai’r cyfyngiadau Covid-19 sydd mewn grym ledled y byd yn cael effaith fawr ar y grwpiau o gorau a dawnswyr a fyddai fel arfer yn mynychu ein digwyddiad. Mae’r amgylchiadau hyn yn golygu ein bod wedi penderfynu atal yr elfennau cystadlu byw traddodiadol ar gyfer Llangollen 2021, ac ailddychmygu ein digwyddiad mewn ffordd y gellir ei chyflwyno’n ddiogel ond a fydd yn dal i gyfleu hud yr Eisteddfod ryngwladol.
Rydym yn gweithio’n galed i greu fformat ar gyfer Llangollen 2021 sy’n cynnwys opsiynau digidol a digwyddiad hybrid ar benwythnos a fydd yn cynnwys artistiaid o ŵyl 2020. Cadarnheir y manylion erbyn diwedd y Gwanwyn pan ddisgwylir gwybodaeth bellach am ganllawiau’r llywodraeth a phan fydd gennym eglurder ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin yma.
Cwestiynau Cyffredin Cwsmeriaid
A fydd Eisteddfod yn cael ei chynnal yn 2021?
Ni fydd yr Eisteddfod arferol yn cael ei chynnal yn anffodus, ond ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer Llangollen 2021 sy’n cael eu haddasu yng ngoleuni’r pandemig Coronafeirws. Yn anffodus, ni fydd cystadlaethau byw na rhaglen yn ystod y dydd yn 2021, ond rydym yn ystyried fformatau amgen gan gynnwys digwyddiad hybrid dros benwythnos ac opsiynau digidol.
Beth yw’r dyddiadau ar gyfer Llangollen 2021?
Gan ein bod yn dal i weithio ar gynlluniau ar gyfer fformat a hyd Llangollen 2021 nid ydym mewn sefyllfa i gadarnhau union ddyddiadau’r ŵyl eto. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl y bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng y 6ed – 11eg Gorffennaf 2021.
Rwyf wedi cadw fy nhocynnau o 2020 – sut fydd hyn yn effeithio arnaf?
Bydd ein Swyddfa Docynnau yn cysylltu â deiliaid Tocynnau Gŵyl a chwsmeriaid sydd â thocynnau ar gyfer ein rhaglen yn ystod y dydd neu gyngherddau nos Fercher, nos Iau a nos Sadwrn i gadarnhau eu hopsiynau tocynnau.
Nid yw cwsmeriaid sydd â thocynnau ar gyfer Aled Jones a Russell Watson neu Llanfest yn cael eu heffeithio a dylent gadw eu tocynnau.
Pryd fydd newyddion pellach am y rhaglen ar gyfer Llangollen 2021?
Cadarnheir y manylion ddiwedd y Gwanwyn pan ddisgwylir gwybodaeth bellach am ganllawiau’r Llywodraeth a bydd gennym fwy o eglurder ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni.
Sut mae cael diweddariadau rheolaidd am Llangollen 2021?
Gallwch gofrestru i fod ar ein rhestr bostio, a fydd yn sicrhau eich bod chi’n cael ein diweddariadau ar y cyfle cyntaf. Defnyddiwch y cyfleuster cofrestru ar waelod tudalen Hafan y wefan hon i danysgrifio i’r rhestr. Bydd gwybodaeth bellach hefyd yn cael ei phostio ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.
Os na allaf fod yn bresennol ar y dyddiad aildrefnu yn 2021, a oes gennyf hawl i gael ad-daliad llawn?
Mae gennych hawl i gael ad-daliad tocyn llawn yn ôl i’ch dull talu gwreiddiol (ar gyfer arian parod, siec neu gerdyn sydd wedi dod i ben byddwn yn cysylltu â chi i drefnu opsiynau talu amgen). Fodd bynnag, nodwch, bydd yr ad-daliad am bris y tocyn yn unig gan nad oes modd ad-dalu unrhyw gostau ychwanegol fel tâl postio a ffioedd comisiwn. Mae hyn oherwydd ein bod eisoes wedi talu’r taliadau a godwyd trwy brosesu eich archeb wreiddiol neu bostio eich tocynnau atoch.
Mae gen i docynnau wedi’u harchebu trwy asiant tocynnau (Ticketmaster, Gigantic). Gyda phwy ddylwn i gysylltu os ydwyf angen ad-daliad neu gyfnewid tocyn?
Yr asiant tocynnau fydd yn delio’n uniongyrchol â’r holl docynnau a brynir trwyddynt. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid asiant a byddwn yn eu diweddaru yn llawn ar ddatblygiadau gyda Llangollen 2021.
Rwy’n awyddus i gefnogi Llangollen yn ystod y cyfnod anodd hwn. Sut alla i wneud hyn?
Os ydych mewn sefyllfa i’n cefnogi a’n helpu dros y misoedd nesaf, ewch i’r dudalen Rhoddion https://international-eisteddfod.co.uk/make-a-donation/. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gefnogaeth.
Chwilio am wybodaeth am gymryd rhan yn Llangollen? Ewch i’n gwefan ‘Cyfranogwyr’ https://eisteddfodcompetitions.co.uk/