Seren y Sitar Anouskha Shankar yn cyd-fynd â neges heddwch yr ŵyl

Bydd sŵn cyfareddol y sitar yn creu cyffro mewn gŵyl ryngwladol pan fydd Anoushka Shankar, sydd wedi cael ei enwebu am saith gwobr Grammy, yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.
Bydd Shankar yn cymryd rhan yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am 8pm nos Wener, Gorffennaf 8, ac mae tocynnau ar werth yn awr wrth i’r digwyddiad baratoi i ddathlu ei 75 mlwyddiant.
Dysgwyd hi sut i chwarae’r offeryn gan ei thad, y cerddor chwedlonol Ravi Shankar, a fu’n perfformio gyda’r Beatles.
Bu’r tad a’r ferch yn gweithio gyda George Harrison i greu’r albwm nodedig, Chants of India, ond mae Anoushka wedi cael gyrfa ryfeddol ym myd cerddoriaeth byd yn ei rhinwedd ei hun.
Mae’r cerddor Saesneg-Indiaidd-Americanaidd wedi cydweithio ag artistiaid gan gynnwys Sting, Herbie Hancock, Jeff Beck a’i hanner chwaer, Norah Jones.
Mae hi wedi perfformio yn y BBC Proms a Glastonbury ac wedi ennill llu o ddilynwyr ledled y byd, ond Eisteddfod Llangollen yw ei hymddangosiad cyntaf erioed yng Nghymru a dywed ei bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at berfformio yn yr ŵyl.
Y syniad gwreiddiol ar gyfer sefydlu Eisteddfod Llangollen ar ôl yr Ail Ryfel Byd, oedd cynnal digwyddiad cerddorol a allai hybu addysg a heddwch rhyngwladol ac ewyllys da ac mae’r rhain yn bethau sy’n agos iawn at galon Shankar.
Meddai: “Roedd fy nhad, Ravi Shankar, yn credu’n gryf yn y cysyniad o heddwch trwy gerddoriaeth ac ers fy mhlentyndod rwyf wedi profi ansawdd trawsnewidiol cerddoriaeth.
“Mae’n teimlo fel y gall cymdeithas gyfan anghofio sut mae buddsoddi amser, ymdrech, arian ac egni yn y celfyddydau mewn gwirionedd yn gallu ‘codi’ cymdeithas gyfan a dod i gysylltiad â heddwch.”
Mae Shankar ei hun wedi perfformio’n aml mewn cyngherddau dyngarol ac yn 2018 cychwynnodd ar daith fer o’r Unol Daleithiau er mwyn helpu i godi arian ar gyfer y sefydliad dielw, Help Refugees.
Yn fwy diweddar, mae hi wedi troi ei doniau sylweddol at ysgrifennu sgorau ffilm, gan gynnwys y gerddoriaeth ar gyfer y gyfres, A Suitable Boy, a addaswyd o nofel Vikram Seth, a arweiniodd at enwebiad am wobr Ivor Novello.
“Rwy’n gweld y syniad o gyfansoddi ar gyfer cyfryngau gweledol yn fwy diddorol ar ôl degawdau o deithio ac ysgrifennu albymau,” meddai.
“Mae’n sicr yn denu cynulleidfa newydd a gwahanol ond mae hefyd yn gofyn am rywbeth gwahanol gennyf i fel cerddor sy’n heriol ac yn rhoi boddhad i mi.”
Mae gŵyl Llangollen wedi ennill ei phlwyf fel cyrchfan i berfformwyr cerddoriaeth byd, felly mae ymddangosiad Shankar yn gweddu’n naturiol.
Mae’r rhaglen gyda’r hwyr yn dathlu etifeddiaeth ei thad, yn ogystal â chynnwys trefniannau cerddorfaol o waith eclectig Anoushka ei hun.
Bydd hi’n ymuno â’r offerynnwr taro, y chwaraewr Hang a’r cyfansoddwr o Awstria Manu Delago. sydd wedi cydweithio gyda Björk, ynghyd â llinynnau’r Britten Sinfonia, am noson sy’n addo mynd â’r gynulleidfa ar daith wyllt a chyfriniol.
“Rwy’n hoff iawn o gydweithio gyda Manu,” meddai Shankar. “Mae’n gerddor gwych a hefyd fe wnaethon ni ysgrifennu llawer o ganeuon gyda’n gilydd dros y blynyddoedd, felly mae cael eu perfformio eto gydag ef, flynyddoedd ar ôl i ni eu chwarae gyda’n gilydd am y tro cyntaf, yn bleser pur.”
Dywed fod ei cherddoriaeth bob amser yn esblygu a gall y gynulleidfa yn Llangollen ddisgwyl rhai dehongliadau newydd ar gyfer ei pherfformiad cyntaf yng Nghymru.
“Mae’n anodd dewis ffefrynnau ond yng nghyd-destun trefniadau hyfryd Jules Buckley ar gyfer cerddorfa rwyf wrth fy modd yn clywed y fersiwn hon o ‘Land of Gold’ yn dod yn fyw,” ychwanegodd Shankar.
“Mae’n anhygoel clywed cân a ddechreuodd fel deuawd, yna cân, yn tyfu ar draws tannau cerddorfaol.”
Bu’n rhaid canslo’r ŵyl, a helpodd i lansio gyrfaoedd y sêr opera Luciano Pavarotti a Syr Bryn Terfel, yn 2020 am yr unig dro ers ei sefydlu oherwydd y pandemig coronafeirws.
Yn 2021 llwyfannwyd yr ŵyl ar ffurf rithwir, gyda pherfformiadau’n cael eu ffrydio ar-lein, ond eleni mae’r wledd o gerddoriaeth a dawns yn ôl yn y dref lle mae “Cymru’n croesawu’r byd”.
Mae paratoadau eisoes ar y gweill ar gyfer gŵyl eleni, sy’n dechrau ar ddydd Iau, Gorffennaf 7 ac yn gorffen gyda Llanfest ar ddydd Sul, Gorffennaf 10, pan fydd yr eisteddfod yn ymuno â Gŵyl Ymylol Llangollen.
Yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod, bydd llu o atyniadau a gweithgareddau newydd ar y safle awyr agored ar ei newydd wedd, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, sgyrsiau, comedi, bwyd, diod, siopa, gweithdai ac adloniant pop-yp.
Bydd y cystadlaethau’n cyrraedd uchafbwynt ar y nos Sadwrn gyda Chôr y Byd, a chystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, sy’n cynnwys cantorion ifanc gorau’r byd.