Mae cyfle ‘euraid’ wedi codi i bobl sy’n mwynhau cerddoriaeth fwynhau Chwe Chyngerdd Craidd Eisteddfod Llangollen mewn steil yr haf hwn.
Bydd Wythnos Graidd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn agor eleni ar Ddydd Mawrth Gorffennaf yr 2il gyda phrif set gan yr arwr cerddorol Tom Jones, sy’n cychwyn y chwe diwrnod o gyngherddau gyda’r nos, a bydd y mezzo-soprano Katherine Jenkins yn cloi’r wythnos ar Ddydd Sul Gorffennaf y 7fed.
Rhwng y dyddiadau hyn, gall cynulleidfaoedd fwynhau amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau gyda’r nos, yn cynnwys y band gwerin arobryn Calan, y delynores frenhinol Alis Huws, ffefrynnau Britain’s Got Talent Côr Dynion John’s Boys, sêr y West End a Broadway Kerry Ellis a John-Owen Jones, a’r seren jazz arobryn sydd wedi ennill GRAMMY ddwywaith, Gregory Porter.
Ac yn awr, mae cefnogwyr yn cael eu hannog i gael gafael ar Docyn Tymor Aur+, a fydd yn rhoi cyfle i gefnogwyr yr ŵyl heddwch ryngwladol fwynhau amrywiaeth o bethau ychydig yn arbennig, yn cynnwys:
- Seddi unigryw yn agos at flaen y llwyfan, am bris llawer is na phrynu tocynnau i’r chwe chyngerdd yn unigol
- Rhaglen swfenîr am ddim
- Dim ffi comisiwn ar docynnau
- Te a choffi am ddim
I sicrhau eich Tocyn Tymor Aur+ ffoniwch 01978 862001
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Llangollen, Dave Danford: “Mae ein Tocynnau Tymor AUR+ yn wirioneddol euraid – rhain, heb os nac oni bai, yw’r tocynnau mwyaf gwerthfawr i’w cael yr haf hwn!
“Bydd y rhain yn rhoi profiad cyflawn Wythnos Graidd yr Eisteddfod i chi ym Mhafiliwn clodfawr Llangollen, gyda sedd unigryw yn agosach at flaen y prif lwyfan, lle bu’r diweddar Luciano Pavarotti gwych yn canu set fythgofiadwy yn 1995, a lle gwefreiddiwyd cynulleidfaoedd gan y canwr Alfie Boe yr haf diwethaf.
“Bydd AUR+ yn eich galluogi chi i wylio eich hoff seren byd-enwog a’u gweld nhw’n glir mewn lleoliad unigryw. Mae hyn yn cynnwys ein cyngerdd agoriadol gyda Tom Jones ar Ddydd Mawrth 2 Gorffennaf, yr holl ffordd tan y cyngerdd i gloi gyda Katherine Jenkins ar Nos Sul 7 Gorffennaf.
“Rhwng y dyddiadau hyn, mae gennym wythnos sy’n orlawn ag adloniant o’r radd flaenaf, yn cynnwys perfformiadau gan y sêr gwerin Cymreig Calan, ffefrynnau Britain’s Got Talent Côr Dynion John’s Boys, y delynores frenhinol Alis Huws, a’r seren jazz gwych Gregory Porter. Rydym hefyd yn dod â dau o sêr mwyaf theatr gerdd i Llangollen, gyda noson yng nghwmni Kerry Ellis a John-Owen Jones.
“Ochr yn ochr â’r enwau mawrion hyn, rydym wedi ei gwneud hi’n flaenoriaeth i gadw’n driw i’n treftadaeth Eisteddfodol, gyda’n cystadlaethau poblogaidd yn ystod y dydd yn cynnwys amrywiaeth o gystadleuwyr rhyngwladol, oll yn teithio i Llangollen i ddathlu heddwch, cerddoriaeth a’n diwylliannau cyfoethog ac amrywiol.
“Bydd rowndiau terfynol rhai o’r cystadlaethau hyn wedi eu cynnwys yn y cyngherddau ar y nos Fercher a’r nos Iau am y tro cyntaf, ac mae ein cystadleuaeth Côr y Byd ar y nos Sadwrn yn nodi diweddglo ein hamserlen gystadlaethau.
“Rydym wedi cynyddu’r ystod o Docynnau Tymor eleni, i roi mwy o ddewis i’n cynulleidfaoedd ffyddlon ac i sicrhau bod opsiynau fforddiadwy ar gael i bawb hefyd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu torfeydd o bobl sy’n caru cerddoriaeth yn ôl i Llangollen yr haf hwn.”
* I archebu eich Tocynnau Tymor AUR+, neu unrhyw rai o’n Tocynnau Tymor eraill ac i gael rhagor o wybodaeth am gyngherddau’r Wythnos Eisteddfod Graidd a’n hamrywiaeth lawn orau erioed o berfformiadau’r haf, cysylltwch â’r:
Swyddfa Docynnau ar 01978 862001