Y sêr roc indie Amber Run yn ymuno â jamborî llawen i ddathlu 100 mlynedd o gerddoriaeth

Bydd y sȇr roc indie byd-enwog Amber Run a’r pwerdy blues Elles Bailey ymhlith y perfformwyr wrth i ogledd Cymru baratoi ar gyfer un o’i gwyliau gorau erioed.

Byddant yn camu ar lwyfan enwog y pafiliwn ar gyfer “jamborî llawen, hwyliog i’r teulu cyfan” wrth i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddychwelyd fel digwyddiad byw am y tro cyntaf ers 2019.

Ddydd Sul, Gorffennaf 10, bydd gŵyl-o-fewn-gŵyl eleni, Llanfest, yn cael ei chynnal mewn ffurf hollol newydd.

Mae’r Eisteddfod Ryngwladol wedi partneru â Gŵyl Ymylol Llangollen wrth i’r ddwy ŵyl nodi cyfanswm o 100 mlynedd o lwyfannu gwyliau arbennig.

Mae’r Eisteddfod yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed ac mae’r Ŵyl Ymylol yn nodi 25 mlynedd o fodolaeth.

Yn ogystal ag Amber Run ac Elles Bailey, bydd setiau gan y cynhyrchydd cerddoriaeth Minas o Gaerdydd, a’r gantores gyfansoddwraig o Bajan-Cymraeg, Kizzy Crawford sydd wedi bod yn creu argraff ar y sin gwyliau rhyngwladol ac ar radio’r BBC.

Mewn cyd-ddigwyddiad hapus bydd chwaer Kizzy, Eädyth – y mae ei llais hefyd yn prysur ddod yn gyfarwydd i wrandawyr radio – yn perfformio ar lwyfan gwahanol.

Dywedodd Cynhyrchydd Gweithredol yr Eisteddfod, Camilla King: “Mae’r bwrlwm yn bendant yn yr awyr wrth i’r cyffro gynyddu ar gyfer math gwahanol o brofiad. Mae’n mynd i fod yn ddathliad diwedd Eisteddfod hwyliog a chyfeillgar i’r teulu cyfan.

“M gwneud i hyn ddigwydd wedi bod yn brofiad gwerth chweil yn ystod blwyddyn wirioneddol bwysig i’r ddau ddigwyddiad. Does dim ffordd well i ddathlu dwy garreg filltir mor arwyddocaol.”
Mae trefnydd rhaglen a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Ymylol Llangollen Neal Thompson yr un mor frwd.

Meddai: “Mae’r diwrnod hwn yn bendant yn un na ddylid ei golli. Rydym wedi bod yn son am y posibilrwydd ers tro ond nid yw wedi digwydd erioed o’r blaen , felly mae cyffro go iawn yn yr awyr, ymdeimlad enfawr bod rhywbeth arbennig iawn ar fin digwydd yma.

“Mae’n anhygoel pan fyddwch chi’n meddwl am y peth ein bod y ddwy ŵyl wedi cyrraedd pen-blwyddi mor arwyddocaol yn yr un flwyddyn. Dyna ganrif lawn o gerddoriaeth rhyngom ni, sydd wedi gwneud Llangollen yn un o’r trefi bach mwyaf arbennig yn y byd.”

Yn ychwanegu at frwdfrydedd yr achlysur mae ymdeimlad ehangach hefyd o gynwysoldeb yn rhaglen yr Eisteddfod sydd eisoes yn adnabyddus am ei hethos o gytgord ac undod.

Mae’n rhedeg o ddydd Iau, Gorffennaf 7 tan ddydd Sul, Gorffennaf 10 gan gychwyn gyda’r Diwrnod Ysgolion a’r Wobr Heddychwyr Ifanc.

Dros y pedwar diwrnod bydd llu o atyniadau a gweithgareddau newydd ar y safle awyr agored ar ei newydd wedd, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, sgyrsiau, comedi, bwyd, diod, siopa, gweithdai ac adloniant pop-yp.

Gyda’r nos bydd cyngherddau yn cynnwys perfformiadau gan Aled Jones a Russell Watson, Anoushka Shankar, y chwaraewr sitar Prydeinig-Indiaidd-Americanaidd, a’r cynhyrchydd, cyfansoddwr ffilm ac actifydd sy’n hanner chwaer i’r gantores Norah Jones.

Bydd y cystadlu yn cyrraedd uchafbwynt ar y nos Sadwrn gyda chystadlaethau Côr y Byd a Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, yn cynnwys y cantorion ifanc gorau o bedwar ban byd ar y llwyfan lle mae Placido Domingo, Kiri Te Kanawa, Elaine Paige, Michael Ball, Syr Bryn Terfel a Luciano Pavarotti wedi perfformio.

Dywedodd Camilla: “Mae gennym ni rywbeth at ddant pawb eleni gan gynnwys hoelion wyth yr ŵyl, cystadleuwyr, ymwelwyr tramor, teuluoedd ifanc, a’r gymuned ehangach. Mae’n bwysig i mi ein bod ni’n ddigwyddiad gwirioneddol gynhwysol.”

Gyda thocynnau eisoes ar werth, cynghorir cynulleidfaoedd i fynd ar-lein i archebu lle ar gyfer yr hyn a allai fod yn un o’r dyddiau mwyaf cofiadwy yn hanes yr Eisteddfod.

Ychwanegodd: “ Mae Llanfest wedi bod ychydig yn fwy hamddenol erioed, gyda’r cystadlu drosodd a phawb yn mwynhau’r bwrlwm o gyfarfod ar ddydd Sul a rhannu amgylchedd gwych Llangollen.

“Ar yr un pryd bydd cyfle i edrych ymlaen, ymdeimlad o adfywiad, o obaith ac optimistiaeth at y dyfodol, wrth i’r perfformwyr ifanc a bywiog yr Ŵyl Ymylol chwistrellu eu brwdfrydedd a’u hegni eu hunain i’r achlysur.”

Yn ôl Neal, mae rhaglen Llanfest yn cwmpasu rhai bandiau sydd wedi bod yn ffefrynnau cadarn o Ŵyl Ymylol y gorffennol yn ogystal ag enwau newydd ar sîn gerddoriaeth gyfoes fywiog Cymru a’r DU.

Meddai: “Heb os, yr uchafbwynt fydd enwau mawr fel Amber Run a’r arbennig Kizzy Crawford. Ond fel erioed mae gennym hefyd gyfoeth o dalent fandiau mwy lleol.”

Mae’r rhain yn cynnwys Baby Brave, band pop-sŵn newydd o Wrecsam sy’n rhyddhau eu EP diweddaraf, Sunny Days in Dark Rooms, ym mis Gorffennaf ar May 68 Records.

Bydd y band pedwar aelod Alpha Chino o ogledd Cymru yno hefyd cyn rhyddhau eu EP, The Last Astronaut, ym mis Awst.

Yn ychwanegu amrywiaeth cerddorol ychwanegol bydd 25 aelod y Chester Big Band sy’n chwarae cymysgedd o ffync, soul a phop, tra bod sain unigryw Band Pres Llareggub yn cyfuno hip hop y Bronx yn Efrog Newydd gyda phop Cymraeg.

Hefyd ar y rhaglen mae deuawd o Wrecsam Igloo Hearts, a Paperchase, band aml-genhedlaeth o artistiaid sesiwn dan arweiniad Andy Hickie o ddiweddglo’r Eisteddfod â rhagflas o Ŵyl Ymylol Llangollen 2022 sy’n rhedeg o 22-30 Gorffennaf.