Chwedl Jazz a seren Strictly i oleuo Eisteddfod Llangollen

Bydd seren jazz a chwaraeodd gyda’r chwedlonol Frank Sinatra yn ymuno â llais Strictly Come Dancing am noson i’w chofio yng ngogledd Cymru. 

Bydd y canwr, Tommy Blaize, yn ymuno â Guy Barker a’i Fand Mawr ar gyfer “perfformiad pwerus” mewn cyngerdd llawn sêr yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am 8pm nos Wener, Gorffennaf 7. 

Dyma’r trydydd ymweliad â Llangollen i Guy, sydd hefyd wedi rhannu’r llwyfan gyda sêr eraill gan gynnwys George Michael, Sting, Van Morrison, Elvis Costello, Phil Collins, Sammy Davis Jr a Liza Minnelli ymhlith llawer o rai eraill. 

Roedd y cyntaf o ddau ymddangosiad blaenorol Guy yn Eisteddfod Llangollen yn 2003, yn cefnogi’r ddeuawd gŵr a gwraig eiconig Johnny Dankworth a Cleo Laine, ac yna dychwelodd i chwarae gyda’r bas-bariton Syr Willard White yn 2009. 

Y tro hwn bydd yn arwain ei fand 15 darn ei hun ynghyd â phrif leisydd Strictly Come Dancing, Tommy Blaize, yn ogystal â’r cantorion Clare Teal a Vanessa Haynes a’r chwaraewr sacs Giacomo Smith. 

Mae gan Guy, 65 oed, atgofion melys o berfformio yn Llangollen ac meddai: “Chwaraeais gyda Willard White pan roddodd deyrnged i Paul Robeson a chyn hynny roeddwn yno gyda John Dankworth a Cleo Laine. 

“Rwy’n cofio’r llwyfan a’r ardal gefn llwyfan yn dda ac roedd y gynulleidfa mor frwd. Mae’n lle gwych i chwarae.” 

Cafodd Guy ei fagu ym myd adloniant a pherfformio. Ei fam yw’r actores Barbara Barker, sydd bellach yn 95 oed, a ymddangosodd yn saith pennod gyntaf Coronation Street ac yn ddiweddarach yn Z Cars ac Emmerdale Farm ac roedd ei ddiweddar dad, Ken, yn actor ac yn ddyn styntiau. 

“Yn olygfa agoriadol The Fall and Rise of Reginald Perrin, fy nhad yw’r un sy’n rhedeg yn noeth i’r môr ar y traeth,” meddai Guy: “Roedd hi’n chwech o’r gloch y bore ac roedd hi’n rhewi. 

“Roedd fy nhad wrth ei fodd â’r cyfnod Swing a dysgodd chwarae’r clarinet ac fe wnaeth fy annog i chwarae’r trwmped er mwyn i ni allu gwneud deuawdau ac ef hefyd wnaeth brynu fy nwy albwm cyntaf erioed i mi, un gan y trwmpedwr Louis Armstrong. 

“Cerddoriaeth oedd popeth roeddwn i’n ei wybod a dydw i erioed wedi gwneud dim byd arall.” 

Mae’r bobl y mae Guy wedi chwarae gyda nhw yn darllen fel pwy yw pwy o fyd cerdd ac un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd cefnogi Sinatra o flaen 45,000 o’i ddilynwyr yn yr Eidal. 

Mae hefyd wedi recordio wyth albwm unigol, dau ohonynt wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury, ac ers 2008 mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd ac yn drefnydd cyngerdd blynyddol Jazz Voice yn y Barbican, sy’n agor Gŵyl Jazz Llundain a bu ganddo gysylltiad agos ers blynyddoedd gyda Gŵyl Jazz Cheltenham. 

Guy wnaeth drefnu’r gerddoriaeth ar gyfer ffilmiau The Talented Mr Ripley a The No 1 Ladies’ Detective Agency gan y cyfarwyddwr ffilm Anthony Minghella a ddywedodd amdano: “Guy Barker yw’r peth prin hwnnw – unawdydd disglair, arweinydd naturiol a chyfeilydd hael. Mae e’n medru chwarae i dorri dy galon neu i wnedu dy ben i droi.” 

Dywedodd cynhyrchydd gweithredol Eisteddfod Llangollen, Camilla King: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gallu denu Guy Barker yn ôl i Langollen ar gyfer yr hyn a fydd yn noson wirioneddol gofiadwy. 

“Gall y gynulleidfa ddisgwyl sain pres bachog, enaid New Orleans a thaith drwy hanes canu jazz, yn cynnwys y clasuron a threfniannau newydd annisgwyl, gan gynnwys un o ganeuon Tom Waits wedi’i hail-ddychmygu. 

“Mae’n mynd i fod yn set wych, bythgofiadwy, wedi’i thynnu ynghyd gan ddawn ddihafal Guy o adrodd straeon trwy gerddoriaeth.” 

Bydd Band Mawr Guy Barker yn camu i’r llwyfan yn Llangollen fel rhan o gyfres o gyngherddau o safon uchel sy’n cychwyn ar y nos Fawrth, Gorffennaf 4, gyda ffefryn yr Eisteddfod, Alfie Boe fydd yn ymuno â’r grŵp theatr gerdd, Welsh of the West End. 

Ddydd Mercher bydd Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, cyngerdd i goffau’r rhai a fu farw yn Sarajevo ac Wcráin, yn cynnwys cerddorfa NEW Sinfonia gydag unawdwyr o Bosnia, Cymru ac Wcráin, gyda gweithiau’n cynnwys detholiadau o The Armed Man gan Karl Jenkins gan ddiweddu gyda neges draddodiadol yr Eisteddfod o heddwch a gobaith ar gyfer dyfodol yr holl genhedloedd. 

Bydd yr orymdaith boblogaidd o gyfranogwyr rhyngwladol a dathliad o heddwch yn digwydd ar y dydd Iau, ac yna Hedfan, gwaith theatrig newydd gan artistiaid gweledigaethol Propellor Ensemble, wedi’i ysbrydoli gan batrymau mudo o fyd natur a dynoliaeth. 

Mae dydd Sadwrn yn cynnwys y digwyddiad rhuban glas, cystadleuaeth nodedig Côr y Byd ar gyfer Tlws Pavarotti, a hefyd Pencampwyr Dawns a Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine 2023. 

Mae gwedd newydd i ddiwrnod olaf yr Eisteddfod ar y dydd Sul gyda rownd derfynol fyw newydd sbon lle bydd sêr lleisiol yn brwydro i hawlio’r teitl Llais Theatr Gerdd, a chystadleuaeth ysgrifennu caneuon newydd ar gyfer lleisiau sy’n dod i’r amlwg yn y byd cerddoriaeth poblogaidd cyfoes. 

Ar y Maes, bydd bandiau pres, arian a chwythbrennau a bandiau cymunedol yn cystadlu, a gall cynulleidfaoedd ddewis eu henillydd ar gyfer Ymryson Dawns newydd yr Eisteddfod. 

Yn ogystal â’r cyngherddau, mae pob dydd yn cynnwys rhaglen lawn o gystadlaethau yn y Pafiliwn a rhestr o stondinau ac arddangosfeydd ar y Maes ynghyd â chystadleuwyr o bedwar ban byd, nifer ohonynt mewn gwisgoedd lliwgar tra bod tri llwyfan awyr agored a nifer o berfformiadau byw cyffrous. 

Bob blwyddyn mae tua 4,000 o gyfranogwyr yn cymryd rhan gyda thua 25,000 o ymwelwyr yn mynychu’r Eisteddfod Ryngwladol. 

Bydd llawer o adloniant hefyd ar y Maes gan gynnwys gweithdai, sgyrsiau, arddangosiadau rhyngwladol, perfformiadau theatr awyr agored a sgiliau syrcas. 

Tocynnau & Llangollen 2023: www.international-eisteddfod.co.uk/cy/whats-on/