Gwobr fawr yn denu cantorion ifanc gorau’r byd i ogledd Cymru

Voice of the Future

Bydd pedwar ar hugain o gantorion ifanc gorau’r byd yn cystadlu am wobr ryngwladol fawreddog mewn gŵyl arbennig yng ngogledd Cymru.

Bydd cystadleuwyr o bedwar ban byd gan gynnwys Tsieina, America, Sbaen, Latfia ac Estonia yn brwydro am wobr Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Bydd y gystadleuaeth yn un o uchafbwyntiau’r digwyddiad i ddathlu 75 mlwyddiant yr Eisteddfod ar ddydd Iau, Gorffennaf 7.

Bu’n rhaid canslo’r ŵyl boblogaidd yn 2020 am yr unig dro ers ei sefydlu yn 1947 oherwydd effaith pandemig y Coronafeirws.

Yn 2021 cynhaliwyd yr ŵyl ar ffurf rhithwir gyda pherfformiadau’n cael eu ffrydio ar-lein ond eleni mae’r wledd liwgar o gerddoriaeth a dawns yn ôl yn y dref lle mae “Cymru’n croesawu’r byd”.
Cafodd y trefnwyr eu “syfrdanu” gan safon eithriadol y ceisiadau yng nghystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, a noddir gan grŵp gofal Parc Pendine trwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine (PACT) sy’n cefnogi gweithgareddau celfyddydol a chymunedol.

Roedd y 38 o gystadleuwyr a anfonodd gais i gystadlu gyda’r nifer uchaf erioed ac erbyn hyn mae’r rhestr perfformwyr wedi ei chwtogi i 24 o gantorion a fydd yn gorfod mynd trwy ddwy rownd ragarweiniol a rownd gynderfynol cyn i’r tri chanwr yn y rownd derfynol gystadlu ar lwyfan enwog y Pafiliwn Rhyngwladol ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 9.

Mae gofyn i gystadleuwyr berfformio rhaglen gyferbyniol hyd at saith munud o hyd yn y rhagbrawf a hyd at 10 munud o hyd yn y rownd derfynol.
Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws Pendine, plât arian solet, a siec o £3,000 yn ogystal â chael y cyfle i berfformio mewn cyngherddau yn yr Eisteddfod a lleoliadau eraill. Yn y cyfamser, bydd y cystadleuydd sy’n dod yn ail yn derbyn £1,500.

Dywedodd perchennog Parc Pendine, Mario Kreft MBE: “Mae ethos yr Eisteddfod yn cyd-fynd yn berffaith â gwerthoedd fy ngwraig, Gill, a minnau ym Mharc Pendine wrth feithrin doniau ifanc.
“Rydym yn credu’n gryf yn y rhan hanfodol y mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn ei chwarae mewn gofal cymdeithasol ac fel rhan o’n rhaglen gyfoethogi ar gyfer pobl â dementia.
“Rhodd garedig gan y diweddar Tony Kaye o Kaye’s Jewellers yw Tlws Pendine, sy’n arian Edwardaidd solet gyda dilysnod Chester. Mae’n dlws trawiadol a hardd.

“Mae’n wych, ar ôl hunllef y ddwy flynedd ddiwethaf, fod yr ŵyl wych hon yn cael ei llwyfannu unwaith eto, a chystadleuwyr yn dychwelyd i Langollen am y tro cyntaf ers 2019.
Ychwanegodd: “Sefydlwyd Eisteddfod Llangollen fel fflam o obaith yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
“Mae’r neges am bwysigrwydd heddwch a chytgord mor berthnasol heddiw ag y bu erioed, yn enwedig gyda rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin.”

Dywedodd cynhyrchydd gweithredol yr ŵyl, Camilla King: “Mae safon y cystadleuwyr eleni yn hollol anhygoel. Mae’r dewis mor anodd i’r beirniaid gan fod y cantorion i gyd mor hynod o ddawnus.
“Roeddwn i’n arfer bod yn rheolwr castio gydag Opera Cenedlaethol Lloegr (ENO) felly rydw i wedi cael llawer o brofiad yn eistedd i mewn ar glyweliadau lleisiol dros y blynyddoedd a gallaf ddweud yn bendant fod gennym rai cystadleuwyr gwirioneddol wych ymhlith ein cystadleuwyr yn 2022. Mae nifer ohonyn nhw yn sicr o fod yn sêr mewn blynyddoedd i ddod.”

Y soprano Erin Rossington, 25 oed, gipiodd y wobr yn 2019 a dywedodd fod ennill y wobr wedi bod yn hwb enfawr i’w gyrfa fel cantores.
Mae Erin, sy’n wreiddiol o Lanfairtalhaiarn, ger Abergele, bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain.
Meddai: “Mae ennill cystadleuaeth Llais y Dyfodol Pendine wedi mynd yn bell iawn tuag at fy helpu i wireddu fy mreuddwyd o ddod yn gantores opera broffesiynol.
“Mi wnaeth y wobr ariannol fy ngalluogi i gymryd y cam pwysig hwnnw o fynd i fyw i Lundain a gweithio fy ffordd drwy’r ysgol gerdd.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi mynd heibio ar gyfer holl gystadlaethau’r Eisteddfod ac mae’r trefnwyr wrth eu boddau bod y niferoedd yn fwy na’r disgwyl o ystyried yr anawsterau a wynebwyd gan artistiaid perfformio dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae disgwyl perfformwyr o hyd at 25 o wledydd gwahanol, gyda thua 30 o grwpiau tramor a 23 o unawdwyr tramor, ynghyd â 31 o grwpiau a 45 o unawdwyr Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd Camilla King: “O gofio popeth sydd wedi digwydd gyda’r pandemig, costau byw ac argyfyngau economaidd, ymosodiad Rwsia ar Wcráin a chyfyngiadau teithio mewn gwahanol rannau o’r byd, mae’n rhyfeddol meddwl bod niferoedd ein cystadleuwyr ym mhob categori mor uchel eleni.

“Rydym yn mynd i gael gwledd o gerddoriaeth. Yn wir, mae gennym obeithion mawr y bydd 2022 yn un o’n heisteddfodau gorau erioed gyda’r gobaith o berfformiadau gwirioneddol gofiadwy i ddod.”