Bariton ifanc a ddisgrifiwyd fel y Bryn Terfel newydd ar ben y byd

Mae bariton 25 oed o’r Bontnewydd sydd wedi cael ei ddisgrifio fel y Bryn Terfel newydd wedi’i goroni’n ganwr ifanc gorau’r byd.

Rhoddodd Emyr Lloyd Jones, 25 oed, berfformiad cyffrous i gipio teitl Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn 75ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Yn dilyn canu gwefreiddiol, gyda’i rieni a’i ddyweddi balch yn y gynulleidfa, cyflwynwyd Tlws Pendine iddo – llestr arian solet, a gwobr o £3,000 gan Mario Kreft MBE, perchennog y sefydliad gofal sydd ag ymlyniad mawr i’r celfyddydau, Parc Pendine, sy’n noddi’r gystadleuaeth.

Daw’r wobr gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine sy’n cefnogi mentrau diwylliannol a chymunedol ledled Cymru.

Yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan y beirniaid fel penderfyniad hynod agos, cipiodd Emyr y brif wobr gyda’r soprano hynod dalentog Oksana Lepska, o Latfia yn ail agos.

Roedd y ddau bencampwr wedi brwydro trwy rowndiau rhagbrofol yn cynnwys mwy nag 20 o gystadleuwyr o wledydd mor bell i ffwrdd â Tsieina ac UDA.

Dim ond chwe chanwr a gyrhaeddodd y rowndiau cynderfynol a gynhaliwyd ar ddiwrnodau agoriadol yr Eisteddfod lle buont yn cystadlu am y ddau le olaf i berfformio ar noson uchafbwynt y cystadlu ar lwyfan y pafiliwn enwog.

Daw Emyr o bentref Bontnewydd, ger Gwynedd, sydd lai na 10 milltir i ffwrdd o’r man lle magwyd Bryn Terfel ym Mhantglas.

Dywedodd ei fod “wrth ei fodd” i ennill gwobr mor nodedig yn enwedig ym mlwyddyn 75 mlwyddiant yr Eisteddfod.

Dywedodd: “Mae’n anrhydedd anferth. Mae cymaint o berfformiadau eithriadol wedi bod yn y gystadleuaeth eleni, ac roedd llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol wedi fy syfrdanu.

“Mae’n achlysur sy’n agos iawn at fy nghalon. Rwyf wedi bod yn cystadlu ac yn ymweld â’r Eisteddfod Ryngwladol gyda chorau ers pan oeddwn i’n blentyn ifanc felly roedd cael llwyddiant fel hyn yn y pafiliwn rwyf mor hoff ohono. Roedd yn brofiad anhygoel a dweud y gwir.”

Gwnaeth Emyr argraff ar feirniaid yr Eisteddfod gyda’i berfformiadau swynol o ‘Hai gia vinta la causa’, o Briodas Figaro gan Mozart; The Cloths of Heaven, wedi’i gymryd o gerdd gan WB Yeats ac Y Cymro gan Meirion Williams.

Dywedodd cynhyrchydd gweithredol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Camilla King, fod ei lais yn atgoffa rhywun o’r seren opera Syr Bryn Terfel yn ei flynyddoedd cynnar.

Meddai: “Mae ganddo’r un timbre, mae’n gyfoethog, yn angerddol, yn ysgafn ac amryddawn. Nid dim ond canu mae o ond mae ei lais yn mynd â chi ar daith.

“Rwy’n credu bod gan Emyr y ddawn i ddod yn seren y dyfodol o’r un statws â Syr Bryn. Yn wir, mae’r ddau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dalentau eithriadol a does gen i ddim amheuaeth y byddwn ni’n gweld a chlywed llawer mwy gan y ddau ohonynt mewn blynyddoedd i ddod.”

Ar ôl astudio am chwe blynedd yn y Royal Northern College of Music ym Manceinion, lle cyfarfu â’i ddyweddi, ei gyd-gantores Rhiannon Ashley, mae gyrfa Emyr eisoes yn symud yn ei blaen yn gyflym. Bydd yn treulio’r ddwy flynedd nesaf yn astudio yn Ysgol Gerdd enwog y Guildhall yn Llundain lle bu Bryn Terfel hefyd yn fyfyriwr.

Dywed ei fod yn teimlo’n gyffrous iawn ei fod wedi cael ei dderbyn gan y Guildhall ond mae’r symud i Lundain yn gam chwerwfelys gan ei fod yn golygu y bydd yn gorfod treulio cyfnod ar wahân oddi wrth Rhiannon am flwyddyn.

Mae hi ar ei ffordd i ddysgu yn y Wladfa ym Mhatagonia yn yr Ariannin.

Dywedodd Emyr: “Dim ond ychydig dros fis yn ôl wnaethon ni ddyweddïo ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at wneud bywyd gyda’n gilydd ond ar yr un pryd mae gan y ddau ohonom uchelgeisiau i’w gwireddu. Bydd yn anodd bod ar wahân ond mae gennym gynlluniau eisoes i mi fynd draw i ymweld â Phatagonia ym mis Rhagfyr.”

Roedd Rhiannon, 25 oed, sy’n hanu o Gastell Newydd Emlyn, wrth ei bodd i fod yn y gynulleidfa gyda rhieni balch Emyr, Derek a Gillian Jones, yn ei wylio’n perfformio yn rownd derfynol Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine.

Meddai: “Roedden ni ar flaen ein seddi, ac rydym wrth ein boddau drosto. Roeddem yn gwybod y gallai wneud hyn ac fe ganodd yn wych. Mae hi wedi bod yn noson arbennig.”

Breuddwyd Emyr yw dod yn ganwr opera proffesiynol a chael cyfle i berfformio ar rai o lwyfannau mawr y byd fel y New York Met, La Scala ym Milan a’r Tŷ Opera Brenhinol.

Byddai hefyd wrth ei fodd yn perfformio gyda phob un o gwmnïau opera cenedlaethol Prydain.

Ychwanegodd Mario Kreft: “Mae ethos yr Eisteddfod yn cyd-fynd yn berffaith â gwerthoedd fy ngwraig, Gill, a minnau ym Mharc Pendine wrth feithrin doniau ifanc.

“Rydym yn credu’n gryf yn y rôl hanfodol y mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn ei chwarae mewn gofal cymdeithasol ac fel rhan o’n rhaglen gyfoethogi ar gyfer pobl â dementia.

“Rhodd garedig gan y diweddar Tony Kaye o Kaye’s Jewellers yw Tlws Pendine, sydd wedi’i wneud o arian Edwardaidd solet gyda dilysnod Chester. Mae’n dlws trawiadol a hardd.

“Yn sicr rwy’n meddwl heno ein bod wedi clywed rhai o gantorion enwog y dyfodol ar y llwyfan opera rhyngwladol. Mae gan y ddau gystadleuydd leisiau rhyfeddol ac fe wnaethon nhw swyno’r gynulleidfa gyda’u perfformiadau gwahanol.

“Mae llwyddo i gael cystadleuaeth o safon mor uchel, yn enwedig yn y flwyddyn hon – y flwyddyn gyntaf o berfformiadau byw yn dilyn cyfnod anodd, torcalonnus y pandemig – yn galonogol iawn. Mae’n dangos y cyfoeth o dalent sydd gan ein cenhedlaeth iau o gerddorion.

“Mae Emyr yn glod i’w bentref genedigol, Bontnewydd ac yn ysbrydoliaeth i ddarpar-gantorion ifanc eraill o ogledd Cymru a thu hwnt. Ein gobaith yw y bydd y gystadleuaeth hon yn cynnig carreg gamu i dalentau ifanc eithriadol fel Emyr ac Oksana i fynd ymlaen a datblygu eu gyrfaoedd.”

Dywedodd Emyr y bydd y wobr ariannol yn gymorth enfawr tuag at ei gostau byw yn Llundain, yn ogystal â helpu i brynu deunyddiau hanfodol a chyfrannu at ffioedd dysgu ychwanegol.

Dywedodd: “Ar wahân i’r pleser o ennill y gystadleuaeth mae hwn yn hwb aruthrol ar lefel ymarferol a bydd yn bendant yn fy helpu i fforddio byw yn Llundain, yn enwedig ar adeg pan fo costau ym mhobman yn cynyddu. Ni allaf ddiolch digon i Mario a Pendine.”

Dywedodd cadeirydd yr Eisteddfod Dr Rhys Davies y byddai’r trefnwyr wrth eu boddau yn croesawu’r cystadleuwyr yn ôl i Langollen.

Meddai: “Mae wedi bod yn noson hyfryd, emosiynol a chalonogol. Rydym wedi cael ein syfrdanu gan safon y perfformiadau. Roedd hon yn ffordd wych i ddathlu pen-blwydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 75 oed.”