Archifau Categori: ‘Pabell’ Archif

Bob blwyddyn, mi fydd ein Pabell Archif yn amlwg ar y maes – trysorfa o lyfrau, rhaglenni, ffotograffau, toriadau papur newydd, posteri, darnau ffilm a recordiadau sain. Ar gyfer Llangollen Arlein, mae ein Pwyllgor Archifau wedi bod yn gweithio’n galed i rannu peth o’r deunydd sydd gennym yn ein casgliad archifau ar ffurf blog dyddiol yn ystod Wythnos yr Eisteddfod.

Syr Bryn a Phrif Weinidog Cymru yn anfon negeseuon pen-blwydd hapus yn 75 oed i ŵyl heddwch eiconig

Bryn Terfel

Mae’r seren opera Syr Bryn Terfel a’r Prif Weinidog Mark Drakeford ymysg llu o bobl sydd wedi llongyfarch gŵyl eiconig ar gyrraedd ei phen-blwydd yn 75 oed.
Hefyd ymhlith y rhai sydd wedi anfon eu dymuniadau gorau i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y mae’r canwr a’r cyflwynydd teledu poblogaidd, Aled Jones, a fydd yn perfformio yn y digwyddiad eleni. (rhagor…)

Moira, hen-nain 92 oed, yn chwilio am gystadleuwyr gŵyl heddwch 1947

Mae hen nain 92 oed sy’n hoff o gerddoriaeth yn arwain ymgyrch i ddod o hyd i bobl wnaeth gystadlu yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn 1947.
Roedd yr athrawes wedi ymddeol, Moira Humphreys, yn aelod o Gôr Ieuenctid Coedpoeth a fu’n canu ar lwyfan yr ŵyl gyntaf un, a sefydlwyd i hybu heddwch yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r trefnwyr yn bwriadu cyflwyno medalau coffa i Moira a’i chyd-gystadleuwyr o’r eisteddfod gyntaf hanesyddol honno er mwyn nodi 75 mlynedd ers y digwyddiad. (rhagor…)

Llyfr Nodiadau Dylan Thomas Llangollen 1953

(English) There are few stories from the 75 years of the Llangollen International Musical Eisteddfod which excite supporters more than the visit of Dylan Thomas in July 1953. He described his visit a few weeks later in a 15 minute broadcast for the BBC Home Service, and generated verbal images of the early Eisteddfod whose power resonates to this day.

Archif Llyfr Fflip

Mae’r casgliad hwn o bosteri a ddangosir ym Mhabell Archif yr Eisteddfod rhwng 2016 a 2019 yn rhoi hanes ffeithiol cryno o’r ŵyl. Mae’n seiliedig ar gofnodion sydd wedi’u gwirio. Eleni rydym wedi eu troi’n llyfr fflip y gellir ei weld YMA neu ei lawrlwytho o AMAZON.

Fe welwch linell amser yn adrodd ar y prif newidiadau y mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi mynd drwyddynt, a’r rhesymau am y newidiadau hynny: o fraslun cyntaf y syniad hyd at fyd gwahanol iawn yr 21ain ganrif. Mae’n dweud wrthych am ychydig o’r pynciau y mae’r Eisteddfod yn enwog amdanynt, fel ei harddangosfeydd blodau. Mae’n cynnwys ychydig o’r hyn y mae pobl eraill wedi’i ysgrifennu am yr ŵyl, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Gallwch ddeall newid mawr a fu yn sefyllfa ariannol yr Eisteddfod yn ystod chwyddiant a chyni economaidd y 1970au. Ac mae’n llawn ffotograffau hyfryd.

(rhagor…)

Yr Eisteddfod Ryngwladol Gyntaf 1947: ffilm newyddion Movietone

Mae wyth munud ac ugain eiliad y ffilm hon yn gofnod clyweledol unigryw o’r ŵyl gyntaf yn 1947. Ynddi mi fyddwch yn gweld a chlywed y corau buddugol. Byddwch yn rhannu’r cyffro gyda’r gynulleidfa sy’n llenwi’r babell fawr, a wnaed o gynfas dros ben o’r rhyfel gyda 6000 o seddi wedi’u benthyg o ystafelloedd ysgol, capeli a llefydd eraill o’r ardal. Mae’r Llywydd cyntaf, Mr W. Clayton Russon, yn egluro cysyniad sylfaenol yr Eisteddfod o sut y gall cystadleuaeth gerddorol ryngwladol helpu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth a chysylltiadau cyfeillgar rhwng pobl o wahanol genhedloedd. Mae’r cyflwynwyr ar y llwyfan, a fenthycwyd yn 1947 gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn brysur a di-lol, yn union fel y maen nhw yn ein dyddiau ni. (rhagor…)

Cyfarwyddwr a enillodd Oscar yn gwneud ffilm am Eisteddfod Llangollen

Mae “The World Still Sings” yn ffilm ddogfen o Eisteddfod Ryngwladol 1964, ac fe’i cyfarwyddwyd gan Jack Howells a’i chynhyrchu ar y cyd gan gwmni Howells ei hun a Chwmni Esso Petroleum, Ltd. Yn 1962 enillodd Howells wobr Oscar am ei raglen ddogfen ar Dylan Thomas, ac ar adeg ffilm yr Eisteddfod roedd yn gweithio i ITV ar ffilm am Aneurin Bevan. Trwy ddewis ffilmio Eisteddfod Llangollen gosododd yr ŵyl yn gadarn ym mhantheon digwyddiadau eiconig Cymru.

Mae’r teitl yn ymateb i linellau o ddarllediad radio Dylan Thomas ym 1953 am ŵyl Llangollen:

“Are you surprised that people still can dance and sing in a world on its head? The only surprising thing about miracles, however small, is that they sometimes happen.”

(rhagor…)

Yr Archif Sain

Mae recordiadau sain wedi cael eu gwneud o Eisteddfod Llangollen ers yr ŵyl gyntaf un yn 1947. Yn y rhan o’n Archif sydd ar hyn o bryd yn cael ei gadw ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol, mae gennym recordiad o Gôr Ieuenctid Coedpoeth yn canu ‘Robin Ddiog’ yn ystod Eisteddfod 1947. Nid yw ansawdd y sain yn wych, ond am ychydig dros funud, gallwn fynd yn ôl mewn amser, a gwrando ar y grŵp ifanc hwn yn diddanu eu cynulleidfa, sy’n rhoi cymeradwyaeth fyddarol iddynt ar ddiwedd y gân. (rhagor…)

Archifo’r Gorffennol

Roeddem yn edrych ymlaen at eich cyfarfod chi i gyd yn Eisteddfod eleni a rhannu ein gweledigaeth ar gyfer y prosiect Archifo’r Gorffennol. Gan nad yw hynny’n bosibl yn anffodus, rydym wedi ysgrifennu nifer o flogiau er mwyn creu Pabell Archif rithwir eleni i sôn mwy wrthych am y prosiect.

(rhagor…)