Mae “The World Still Sings” yn ffilm ddogfen o Eisteddfod Ryngwladol 1964, ac fe’i cyfarwyddwyd gan Jack Howells a’i chynhyrchu ar y cyd gan gwmni Howells ei hun a Chwmni Esso Petroleum, Ltd. Yn 1962 enillodd Howells wobr Oscar am ei raglen ddogfen ar Dylan Thomas, ac ar adeg ffilm yr Eisteddfod roedd yn gweithio i ITV ar ffilm am Aneurin Bevan. Trwy ddewis ffilmio Eisteddfod Llangollen gosododd yr ŵyl yn gadarn ym mhantheon digwyddiadau eiconig Cymru.
Mae’r teitl yn ymateb i linellau o ddarllediad radio Dylan Thomas ym 1953 am ŵyl Llangollen:
“Are you surprised that people still can dance and sing in a world on its head? The only surprising thing about miracles, however small, is that they sometimes happen.”
Mae’r ffilm o 18fed Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 1964 yn cyfleu’r ŵyl ar anterth y cyfnod cynnar hynod lwyddiannus. Mae ei ffocws ar y cystadleuwyr, fel yr oedd yr holl sylw mewn papurau newydd a darllediadau. Roedd cystadleuwyr o 17 gwlad yn ychwanegol i wledydd y Deyrnas Unedig, a thua 20 o grwpiau corawl neu ddawns yn cymryd rhan ym mhob un o’r prif gystadlaethau. Daeth yr enillwyr o Orllewin yr Almaen, Lloegr, yr Eidal, yr Wcrain (cymuned alltud o drigolion y wlad oedd yn byw ar y pryd ym Manceinion), Portiwgal a Sweden.
Mae rhywun yn cael cipolwg yn y ffilm o’r bri oedd ynghlwm wrth y digwyddiad yn y cyfnod. Cafwyd ymweliad brenhinol (y Dywysoges Margaret a’r Arglwydd Snowdon). Mynychwyd yr ŵyl hefyd gan Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, James Griffiths. Rhoddwyd sylw i’r digwyddiad ar y teledu ledled y Deyrnas Unedig, ac roedd y darllediadau’n cael eu harwain gan gyflwynwyr blaenllaw a dreuliodd yr wythnos gyfan yn Llangollen. Daeth gohebwyr a ffotograffwyr o’r holl brif bapurau newydd ac asiantaethau newyddion draw i’r Eisteddfod. Roedd y maes dan ei sang bob dydd. Hefyd yn amlwg o’r ffilm yw’r ffordd y mae’r ŵyl yn ymledu trwy’r dref, sy’n ddim syndod o gofio bod llawer o’r cystadleuwyr yn aros yn lleol. Roedd canu a dawnsio digymell yn hwyr y nos yn llenwi’r cartrefi a’r gwestai a’r tafarndai.
Yn wahanol i heddiw, ychydig o gyhoeddusrwydd a gafodd y cyngherddau. Fe’u llanwyd gyda’r cystadleuwyr yn perfformio darnau arbennig. Roedd y perfformwyr proffesiynol yn cynnwys: Telynor Sbaenaidd; a Geraint Evans, y bariton poblogaidd o Gymru. Cyflwynodd y cyngerdd agoriadol Bale Cenedlaethol Tsiecoslofacia; a daeth yr wythnos i ben gyda llu o fandiau pres yn chwarae.
Edrychwch yn agos ar y ffilm a’r hyn sy’n eich taro yw’r cyfraniad a wneir ym mhobman gan wirfoddolwyr, a chan absenoldeb masnacheiddio. Ar wahân i ychydig o stondinau bwyd, nid oes consesiynau ar y maes. Mae gan y pebyll bach ethos iwtilitaraidd cryf, sy’n nodweddiadol o’r ŵyl: swyddfa bost, Bwrdd Croeso Cymru, papurau newydd, banciau, sefydliadau sy’n hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol. Er gwaethaf ei bolisi o gadw prisiau tocynnau mor isel â phosibl i annog presenoldeb, roedd yr Eisteddfod yn llwyddo fwy neu lai i sicrhau cyllideb gytbwys; defnyddiwyd grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn ddiweddarach gan awdurdodau lleol ar gyfer gwelliannau, nid i dalu costau rhedeg.
Edrychwch yn agosach fyth ac mi welwch chi’r Cadeirydd presennol Rhys Davies yn fachgen ifanc angylaidd.
Yn olaf, mae gwreiddiau’r ffilm yn dipyn o ddirgelwch. Daeth y syniad am y fenter gan Esso, a gysylltodd gyda Jack Howells, ond nid oes papurau am y ffilm yn archif Jack Howells yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ni allai Exxon Mobil daflu unrhyw oleuni pellach chwaith. Mae’n berthnasol efallai bod y cwmnïau olew mawr ar y pryd yn hyrwyddo twristiaeth fel ffordd o gynyddu gwerthiant petrol. Serch hynny, roedd dewis Jack Howells fel cyfarwyddwr yn ysbrydoledig. Roedd ei raglen ddogfen ar Dylan Thomas wedi ennill Oscar yn 1962, yr unig ffilm Gymreig erioed i wneud hynny, ac roedd ganddo ffordd dda gyda phynciau Cymreig. Llwyddodd i lunio portread cofiadwy o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mewn blwyddyn dda.
Mwynhewch!
Chris
Chris Adams
Bwyllgor Archifau’r Eisteddfod