Moira, hen-nain 92 oed, yn chwilio am gystadleuwyr gŵyl heddwch 1947

Mae hen nain 92 oed sy’n hoff o gerddoriaeth yn arwain ymgyrch i ddod o hyd i bobl wnaeth gystadlu yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn 1947.
Roedd yr athrawes wedi ymddeol, Moira Humphreys, yn aelod o Gôr Ieuenctid Coedpoeth a fu’n canu ar lwyfan yr ŵyl gyntaf un, a sefydlwyd i hybu heddwch yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r trefnwyr yn bwriadu cyflwyno medalau coffa i Moira a’i chyd-gystadleuwyr o’r eisteddfod gyntaf hanesyddol honno er mwyn nodi 75 mlynedd ers y digwyddiad.
Yn 2020 bu’n rhaid canslo’r ŵyl boblogaidd, a fu’n gychwyn gyrfa i sêr opera fel Luciano Pavarotti a Syr Bryn Terfel, am yr unig dro ers ei sefydlu oherwydd y pandemig Coronafeirws.
Yn 2021 cynhaliwyd yr ŵyl ar ffurf rithwir gyda pherfformiadau’n cael eu ffrydio ar-lein ond eleni mae’r wledd o gerddoriaeth a dawns yn ôl yn y dref lle mae “Cymru’n croesawu’r byd”.
Mae paratoadau yn mynd rhagddynt yn dda ar gyfer gŵyl eleni sy’n dechrau ar ddydd Iau, Gorffennaf 7, ac yn gorffen gyda Llanfest ar ddydd Sul, Gorffennaf 10, pan fydd yr eisteddfod yn ymuno â Gŵyl Ymylol Llangollen.
Yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod o hyd, bydd llu o atyniadau a gweithgareddau newydd ar y safle awyr agored ar ei newydd wedd, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, sgyrsiau, comedi, bwyd, diod, siopa, gweithdai ac adloniant pop-yp.
Gyda’r nos bydd cyngherddau yn cynnwys perfformiadau gan Aled Jones a Russell Watson, Anoushka Shankar, y chwaraewr sitar Prydeinig-Indiaidd-Americanaidd, a’r cynhyrchydd, cyfansoddwr ffilm ac actifydd sy’n hanner chwaer i’r gantores Norah Jones.
Bydd y cystadlu yn cyrraedd uchafbwynt ar y nos Sadwrn gyda chystadlaethau Côr y Byd a Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, gyda chantorion ifanc gorau’r byd yn ymgiprys am y wobr fawr.
Roedd y newyddion bod yr Eisteddfod yn dychwelyd i’r safle yn Llangollen eleni yn fiwsig i glustiau Moira Humphreys, o Goedpoeth, ger Wrecsam, sydd ag atgofion byw o’r ŵyl gyntaf erioed.
Merch yn ei harddegau oedd hi bryd hynny ond dros y saith degawd dilynol parhaodd Moira i fynychu’r Eisteddfod, gan ymuno â’r fyddin o wirfoddolwyr y tu ol i’r llenni a gweithio gyda’r tîm lletygarwch i ddod o hyd i lety lleol i gystadleuwyr tramor, ac yn fwy diweddar bu’n helpu i groesawu ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd y Maes.

Yn ôl Moira, mae ganddi atgofion “anhygoel o amseroedd da” yn yr Eisteddfod ac mae wedi gweld llawer o newidiadau ers yr achlysur cyntaf hwnnw pan ganodd gyda Chôr Ieuenctid Coedpoeth, a dod yn drydydd yn y gystadleuaeth gorawl.
Dywedodd Moira sydd â dwy ferch sydd bellach yn oedolion, Helen a Mari, a nifer o wyrion a gor-wyres: “Byddai’n braf gwybod bod yna hen gystadleuwyr fel fi dal allan yna. Mae’n syniad mor braf eu cydnabod ym mlwyddyn y dathliad yma.”
Mae’n falch hefyd iddi gael adnabod arloeswyr cynnar yr ŵyl gan gynnwys cadeirydd Côr Ieuenctid Coedpoeth, Harold Tudor, a gafodd y syniad o gynnal eisteddfod ryngwladol.
“Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf,” meddai, “yn 1947 ond roedd llawer o waith caled yn cael ei wneud yn y blynyddoedd yn arwain at hynny, pethau fel codi arian yn lleol a chynllunio a threfnu. Ac mi waneth y cyfan gyfrannu at wneud yr Eisteddfod y llwyddiant a welwn ni heddiw.”
Teithiodd perfformwyr o saith gwlad dramor i Langollen ar gyfer yr ŵyl agoriadol, gyda thua 27 o gorau o Gymru, Lloegr, a’r Alban. Ddegawdau’n ddiweddarach mae mwy na 400,000 o gystadleuwyr o 140 o genhedloedd wedi perfformio ar y llwyfan byd enwog, tra bod rhai o berfformwyr amlycaf byd cerddoriaeth glasurol a phoblogaidd wedi serennu yng nghyngherddau amrywiol yr Eisteddfod. Yn eu plith Placido Domingo, Kiri Te Kanawa, Yehudi Menuhin, Margot Fonteyn, Elaine Paige a Michael Ball – heb sôn am Syr Bryn Terfel a Luciano Pavarotti a fu’n cystadlu ar lwyfan y pafiliwn enwog fel cantorion ifanc.
Mae gan Moira gasgliad mawr o eitemau cofiadwy gan gynnwys rhaglenni o’r gorffennol a thoriadau papur newydd y mae’n edrych arnynt yn aml i’w hatgoffa am eisteddfodau’r gorffennol.
Roedd hi wrth ei bodd o weld y diweddar Luciano Pavarotti, yr eicon opera, yn cerdded o amgylch maes yr eisteddfod yn hollol gartrefol pan ddychwelodd i’r ŵyl ar lannau’r Ddyfrdwy yn 1995, ac yntau’n seren ryngwladol erbyn hynny.
Meddai Camilla King, cynhyrchydd gweithredol Eisteddfod Llangollen: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Moira am helpu ein hymdrechion i ddod o hyd i’r rhai fu’n cystadlu yn yr ŵyl gyntaf yn 1947.
“Yn amlwg, bydd eu niferoedd wedi lleihau dros y blynyddoedd ond, gan ein bod yn dathlu carreg filltir mor bwysig, hoffem ddathlu’r rhan allweddol a chwaraewyd ganddynt wrth greu hanes a chreu gobaith newydd ar adeg pan oedd y byd yn dal i ddioddef effeithiau’r rhyfel.
“Rydym yn teimlo ei bod yn bwysig anrhydeddu’r arloeswyr heddwch hyn a helpodd i osod y seiliau ar gyfer y trysor rhyngwladol hwn.
“Un peth sydd wedi aros yn ddigyfnewid yw’r ethos o gytgord a chyfeillgarwch a fu wrth galon yr eisteddfod gyntaf un, gyda’r nod o hybu heddwch a gwella clwyfau’r Ail Ryfel Byd.
“Mae ein hathroniaeth mor bwysig ag erioed o gofio’r rhyfel yn Wcráin a materion cythryblus eraill sy’n effeithio ar y byd heddiw.
“Dyna pam rydym wrth ein boddau i allu croesawu cystadleuwyr rhyngwladol yn ôl i Langollen fel y gallwn ddod â phobl ynghyd mewn ysbryd o gyfeillgarwch a harmoni ym mhob ystyr o’r gair.”