Archif Llyfr Fflip

Mae’r casgliad hwn o bosteri a ddangosir ym Mhabell Archif yr Eisteddfod rhwng 2016 a 2019 yn rhoi hanes ffeithiol cryno o’r ŵyl. Mae’n seiliedig ar gofnodion sydd wedi’u gwirio. Eleni rydym wedi eu troi’n llyfr fflip y gellir ei weld YMA neu ei lawrlwytho o AMAZON.

Fe welwch linell amser yn adrodd ar y prif newidiadau y mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi mynd drwyddynt, a’r rhesymau am y newidiadau hynny: o fraslun cyntaf y syniad hyd at fyd gwahanol iawn yr 21ain ganrif. Mae’n dweud wrthych am ychydig o’r pynciau y mae’r Eisteddfod yn enwog amdanynt, fel ei harddangosfeydd blodau. Mae’n cynnwys ychydig o’r hyn y mae pobl eraill wedi’i ysgrifennu am yr ŵyl, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar. Gallwch ddeall newid mawr a fu yn sefyllfa ariannol yr Eisteddfod yn ystod chwyddiant a chyni economaidd y 1970au. Ac mae’n llawn ffotograffau hyfryd.

Dyma sut y datblygwyd y syniad o lyfr fflip

Am bron i ddau ddegawd mae’r grŵp bach ymroddedig o wirfoddolwyr yr Eisteddfod yn y Pwyllgor Archifau wedi bod yn casglu a threfnu llu o ddeunyddiau am yr Eisteddfod: papurau, gohebiaeth, papurau newydd, ffotograffau, eitemau cofiadwy, atgofion ysgrifenedig ac ar dâp, ffilmiau, fideos a cherddoriaeth wedi’i recordio.

Yn 2016 mi wnaethon ni benderfynu defnyddio’r casgliad i adrodd ac egluro hanes yr Eisteddfod Ryngwladol. Cawsom ddeunydd gweledol, clywedol a chlyweledol ardderchog, a llawer o wrthrychau diddorol, gan gynnwys anrhegion anhygoel a roddwyd gan gystadleuwyr, bathodynnau gwirfoddolwyr, tocynnau, cloriau diwrnod cyntaf, rhaglenni, cylchlythyrau, enghreifftiau o bopeth cysylltiedig â byd Llangollen. Roeddem yn ffodus i gael pabell wych, wedi’i llenwi â naw cabinet arddangos, deg poster, a chyfres barhaus o hen ffilmiau yn cael eu dangos, oedd yn darlunio’r newidiadau mewn arddulliau perfformio dros y saith degawd. Rhoddwyd cynnig ar adrodd hanes oedd yn seiliedig ar wrthrychau. Cafwyd llawer o ymwelwyr brwd. Addaswyd yr arddangosfa bob blwyddyn hyd at 2019. Gan nad oedd unrhyw bosibilrwydd o lwyfannu arddangosfa gorfforol eleni, roedd ceisio gwneud rhywbeth ar y we yn gam amlwg.

Roeddem am helpu cenedlaethau newydd o wirfoddolwyr i ddeall yr ŵyl yr oeddent yn gweithio mor galed drosti. Roeddem hefyd eisiau i ymwelwyr newydd gael cipolwg ar y 70 mlynedd o ymdrechion a oedd yn sail i’w mwynhad. Mae ein llyfr ymwelwyr yn dweud wrthym ein bod wedi cyflawni’r amcanion hyn, ond daeth y Babell Archif hefyd yn atyniad i bobl fu’n mynychu’r Eisteddfod ers blynyddoedd, ac a oedd am gyfarfod a hel atgofion.

Dros 70 mlynedd ei bodolaeth bu gan yr Eisteddfod lawer i ymfalchïo ynddo. Ond mae’r stori’n gymhleth, fel yr unigolion eu hunain fu’n rhan annatod o’r stori honno. Cymhelliant arall, felly, oedd cyflwyno hanes ffeithiol o’r ŵyl, yn seiliedig ar ffynonellau dibynadwy, wedi’u dogfennu’n dda. Rhoi pethau ar gof a chadw mewn ffordd wrthrychol, ac efallai herio rhai o’r chwedlau a’r mythau amlwg. Fel archifwyr rydym yn casglu popeth, ac yn ceisio gwneud y cyfan yn ddiogel ac yn hygyrch. Fel haneswyr rydym yn ceisio cyflwyno hanes ffeithiol sy’n ymdrin â phob agwedd o’r ŵyl mewn ffordd sy’n gwneud cyfiawnder â’r fenter Gymreig ryfeddol hon.

Gobeithio y cewch werth a mwynhad o’r dull hwn o ymdrin â stori Eisteddfod.

Barrie

Barrie Potter
Bwyllgor Archifau’r Eisteddfod