Ysgrifenna’r Athro Chris Adams, Y Pwyllgor Archifau:
Un o’r straeon o 75 mlynedd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen sy’n cyffroi cefnogwyr fwyaf yw’r un am ymweliad Dylan Thomas â’r ŵyl ym mis Gorffennaf 1953. Disgrifiodd ei ymweliad ychydig wythnosau’n ddiweddarach mewn darllediad 15 munud ar gyfer Gwasanaeth Cartref y BBC, a lluniodd ddelweddau llafar o’r Eisteddfod gynnar sydd yr un mor bwerus heddiw. Nid oes unrhyw recordiadau hysbys o’r darllediad, ac felly bu’n rhaid i ni wneud y tro â’r testun, a argraffwyd yng nghasgliad 1953 “Quite Early One Morning”, er bod sawl rhaglen deledu am yr ŵyl wedi defnyddio geiriau Thomas, wedi’u lleisio gan actorion o Gymru.
Hyd at ychydig fisoedd yn ôl nid oeddem yn gwybod dim am ymweliad y bardd â Llangollen, heblaw am destun y sgwrs, y ffaith bod y BBC wedi talu 20 gini iddo, ac atgofion pobl leol o siarad ag ef yn ystod ei ymweliadau â bar Gwesty’r Wynnstay (a elwir bellach yn “The Three Eagles”). Mae pethau wedi newid. Mae archif gynhwysfawr o waith llenyddol a bywyd y bardd wedi cael ei ddigideiddio mewn prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Austin yn Texas, Prifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Dylan Thomas. Daeth yr archif ar gael ar-lein ym mis Mai 2021.
Y llawenydd i gefnogwyr yr Eisteddfod yw bod y deunydd ar-lein yn cynnwys tair eitem yn ymwneud â’i ymweliad â Llangollen yn 1953. Mae yna ddrafft mewn llawysgrifen a hefyd teipysgrif o’r sgwrs radio; mae’r ddau yn cynnwys llawer o addasiadau a newidiadau sy’n dangos sut y datblygodd y stori a’r ieithwedd. Y peth trawiadol, fodd bynnag, yw sgan o’r llyfr nodiadau a gadwodd Thomas yn ystod ychydig ddyddiau ei ymweliad; defnyddir llai na 30 tudalen o’r llyfr arian parod bychan â gorchudd glas, ond mae bron pob tudalen yn cynnwys gemau sy’n dangos ymateb emosiynol uniongyrchol y bardd i brofiad Llangollen.
Mae’n amlwg iddo werthfawrogi negeseuon dynol dwfn y caneuon a’r dawnsfeydd; er enghraifft, Mae yna nifer o gyfeiriadau at y merched tlws – o wlad Tsiec, Iwgoslafia, Sbaen – a welodd yn y corau gwerin a’r grwpiau dawns, a’r edrychiad ‘tyrd yma’ yn iaith y dawnsfeydd caru (“come-hither looks in every dance language”). Fe’i hudwyd yn arbennig gan berfformiad grŵp dawns ffermwyr o’r Iseldiroedd, wyth pâr priod, yn ifanc a hen, gyda dwy ddawns o’r enw “Tafla’r wraig allan” a “Wnei di ddim fy nal i”. Mae hefyd yn cofnodi sut nad oedd dawnsfeydd Bwrgwyn yn dathlu’r cynhaeaf grawnwin a’i drawsnewid yn win yn apelio at aelodau mwy sarrug (“grimmer”) y gynulleidfa, oherwydd bod yfed yn cael ei ddangos ar y llwyfan. Ond mae hefyd yn adrodd am frwdfrydedd y gwrandawyr hynny a safodd y tu allan i’r babell fawr yn wlyb at eu crwyn yn y glaw i wrando ar Canteras de Madrid.
Gallwn ddarllen y defnydd cyntaf petrus o’r trosiad ar gyfer y babell fawr a ddaeth yn y pen draw yn “ship of a tent”. Yn anffodus, nid yw’r llyfr nodiadau yn cofnodi unrhyw beth am ei ymateb i gôr Obernkirchen, sef y “pigtailed angels” enwog. Codwyd ei chwilfryddedd gan hel llofnodion, a bu’n dyfalu ynghylch cyfraddau cyfnewid llofnodion – llofnod tri Wcraniad am lofnod un o drigolion Jafa (“three Ukranians for one Javanese”). Cynigiodd mai “nid dawnsio a cherddoriaeth yn unig oedd yr Eisteddfod – mae’n ffyrdd o fyw (sic) yn y dyffryn gwyrdd hwn yng Nghymru” (“not just dancing and music – it’s ways of lives (sic) meeting in this green vale of Wales“); roedd ganddo awgrym hefyd yn cyd-fynd â hyn y dylai Eisteddfodau yn y dyfodol gynnwys caffis o’r holl wledydd oedd yn cystadlu.
Mae yna grynodeb taclus o’i ymateb cyffredinol i’r ŵyl: “Y peth gorau sydd wedi digwydd yng Nghymru” meddai. Ychwanegodd y gair “ers” yn ddiweddarach. Fel pe bai’n methu dod o hyd i gymhariaeth addas.
Mae’r papurau hefyd yn datgelu gwybodaeth ddiddorol am un o’r dyfyniadau enwocaf y darllediad radio. “Are you surprised that people still can dance and sing in a world on its head? The only surprising thing about miracles, however small, is that they sometimes happen.” Yn y llawysgrif gyntaf mae’r testun yn darllen “however humble”, ond mae wedi’i ddiwygio yn y fersiwn derfynol i “however small”, sy’n ddisgrifiad llai gwerthusol.
Yn olaf, cawn syniad o drefniadau ymarferol yr ymweliad. Ei gynhyrchydd yn y BBC oedd Aneirin Talfan Davies, a oedd hefyd yn fardd Cymraeg o fri ei hun. Mi wnaeth y ddau aros yn nhafarn y Boot Inn yn Whittington. Mae’r llyfr nodiadau yn cynnwys amseroedd trên ar gyfer y daith o Whittington i Langollen.
Gallwch ei weld drosoch eich hun! Mae sgan o’r llyfr nodiadau ar gael ar-lein yn https://hrc.contentdm.oclc.org/digital/collection/p15878coll98/id/1899
Medi 10, 2021
© 2021 Chris Adams
Credyd llun Dylan Thomas: CPA Media Pte Ltd / Alamy Stock Photo