Mae’r seren opera Syr Bryn Terfel a’r Prif Weinidog Mark Drakeford ymysg llu o bobl sydd wedi llongyfarch gŵyl eiconig ar gyrraedd ei phen-blwydd yn 75 oed.
Hefyd ymhlith y rhai sydd wedi anfon eu dymuniadau gorau i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y mae’r canwr a’r cyflwynydd teledu poblogaidd, Aled Jones, a fydd yn perfformio yn y digwyddiad eleni.
Ar ôl absenoldeb oherwydd Covid, mae cystadleuwyr yn dychwelyd i Langollen mewn pryd i nodi’r garreg filltir bwysig eleni.
Sefydlwyd yr ŵyl yn 1947 o dan gysgod tywyll yr Ail Ryfel Byd fel ffordd o hybu heddwch trwy harmoni cerddorol a dawns.
Ers hynny mae cannoedd o filoedd o gystadleuwyr o bob rhan o’r byd wedi gwneud eu ffordd i’r dref brydferth yn Nyffryn Dyfrdwy lle mae Cymru’n croesawu’r byd.
Rhoddodd y pandemig stop dros dro i’r ŵyl fel digwyddiad corfforol a chynhaliwyd yr Eisteddfod ar ffurf rithwir y llynedd, gyda pherfformiadau’n cael eu ffrydio ar-lein.
Ond mae paratoadau ar y gweill i’r Eisteddfod ddychwelyd eleni, gan ddechrau ar nos Iau, Gorffennaf 7 a gorffen gyda Llanfest ar ddydd Sul, Gorffennaf 10, pan fydd yr Eisteddfod yn ymuno â Gŵyl Ymylol Llangollen.
Dros y blynyddoedd mae’r ŵyl wedi helpu i lansio gyrfaoedd sêr byd-enwog fel Luciano Pavarotti.
Ar ôl cystadlu ar lwyfan y pafiliwn enwog fel bariton ifanc o Bantglas yng Ngwynedd, aeth Syr Bryn ymlaen i greu gyrfa nodedig i’w hun fel un o gantorion opera gorau’r byd.
Mewn neges fideo a recordiwyd yn arbennig, dywedodd Syr Bryn: “Rwy’n anfon fy llongyfarchiadau gwresog i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 75 oed.
“Mae gen i atgofion gwych o Langollen fel artist ifanc yn cystadlu yno a dychwelyd wedyn i berfformio yn y cyngherddau gyda’r nos – wedi fy ysbrydoli bob amser gan y ffaith fy mod i’n dilyn yn ôl troed artistiaid gwirioneddol wych.
“Dychwelais fy hun i’r pafiliwn ar gyfer perfformiadau o Tosca gan Puccini a Sweeney Todd gan Stephen Sondheim.
“Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad cwbl unigryw sy’n cael ei ganmol fel trysor rhyngwladol – y bobl, y llwyfan, y cynulleidfaoedd, hyd yn oed yr holl flodau hardd sydd ar flaen y llwyfan gan greu profiad mor gofiadwy ac unigryw.
“Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd yn Llangollen a chariwch ymlaen.”
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd yn gefnogwr mawr o’r digwyddiad a’r hyn y mae’n ei gynrychioli.
Yn ei fideo, dywedodd: “ Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn eicon gwirioneddol o’r dirwedd ddiwylliannol Gymreig, ac mae’n arbennig o gyffrous gallu croesawu mynychwyr yn bersonol yn ôl i’r digwyddiad ac yn ôl i Gymru eleni.
“Mae gan gymaint ohonom atgofion o fynychu’r eisteddfod ryngwladol yn ei lleoliad prydferth yng ngogledd Cymru ar wahanol adegau yn ein bywydau.
“Bydd hyd yn oed y rhai sydd eto i ymweld yn ymwybodol o’r cyfoeth o ddelweddau ysbrydoledig sydd i’w gweld bob haf wrth i Langollen groesawu gwesteion diwylliannol o bedwar ban byd.
“Mae llawer o’r perfformwyr tramor hyn yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf ac rydyn ni’n gwybod cymaint o argraff y mae cynhesrwydd y croeso yn ei gael arnyn nhw.
“Mae’r Eisteddfod mor berthnasol heddiw â phan gafodd ei sefydlu gyntaf yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Prif neges yr Eisteddfod Ryngwladol yw cytgord a chydweithrediad rhyngwladol ac mae’n rhoi cyfle blynyddol i ni fyfyrio ar y blaenoriaethau hollbwysig hyn.
“Ac yn fwy na dim mae Llangollen yn rhoi darlun ymarferol i ni o ba mor effeithiol y gall profiad diwylliannol a gaiff ei rannu gyfrannu at y nodau hynny o gydweithio rhyngwladol. Boed i hynny barhau.
“Yn olaf, gadewch i mi ychwanegu fy niolch personol a nodyn o werthfawrogiad am yr holl lwyddiannau hynny dros y 75 mlynedd diwethaf.
“Rwy’n dymuno pob lwc i bawb sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad eleni ac am ddathliad pen-blwydd arbennig iawn Llangollen.”
Mae Aelod Senedd De Clwyd, Ken Skates, yn gefnogwr selog i’r Eisteddfod ers blynyddoedd.
Dywedodd: “Dyma’r tro cyntaf ers 2019 i’r digwyddiad gael ei gynnal yn gorfforol oherwydd y pandemig ac yn fy marn i mae’r Eisteddfod Ryngwladol yr un mor berthnasol heddiw ag y bu erioed.
“Heddiw gyda’r hyn sy’n digwydd o gwmpas y byd ac yn enwedig yn Wcráin mae’n gwneud yr Eisteddfod Ryngwladol yr un mor bwysig ac yr un mor berthnasol ag yn ôl yn 1947. Felly mae’r Eisteddfod wedi cael cymorth dros y blynyddoedd gan nifer o unigolion a llawer o sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi cefnogaeth ariannol i’r ŵyl yn ystod rhai cyfnodau anodd a heriol.
“Ac mae Eisteddfod Llangollen sydd wedi’i lleoli yn nyffryn godidog Dyffryn Dyfrdwy yn nhref hardd Llangollen bob amser yn fawr ei chroeso i bobl o bedwar ban byd a gwn y bydd eleni mor groesawgar ag erioed, diolch.”
Dros y pedwar diwrnod bydd llu o atyniadau a gweithgareddau newydd ar y safle awyr agored ar ei newydd wedd, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, sgyrsiau, comedi, bwyd, diod, siopa, gweithdai ac adloniant pop-yp.
Gyda’r nos bydd cyngherddau yn cynnwys perfformiadau gan Aled Jones a Russell Watson, Anoushka Shankar, y chwaraewr sitar Prydeinig-Indiaidd-Americanaidd, a’r cynhyrchydd, cyfansoddwr ffilm ac actifydd sy’n hanner chwaer i’r gantores Norah Jones.
Yn ei neges fideo, dywedodd Aled: “Dim ond eisiau dweud llongyfarchiadau mawr i Langollen ar ei phen-blwydd yn 75 oed. Rwyf mor falch o fod yn rhan o ddigwyddiad anhygoel eleni. Llongyfarchiadau.”
Bydd y cystadlu yn cyrraedd uchafbwynt ar y nos Sadwrn gyda chystadlaethau Côr y Byd a Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, yn cynnwys y cantorion ifanc gorau o bedwar ban byd ar y llwyfan lle mae Placido Domingo, Kiri Te Kanawa, Elaine Paige, Michael Ball, Syr Bryn Terfel a Luciano Pavarotti wedi perfformio.
Mae’r Eisteddfod eleni yn fersiwn fyrrach o’r blynyddoedd cynt ond bydd yn dal i fod yn llawn dop gyda rhaglen lawn o gystadlu yn y Pafiliwn gan gychwyn ar y dydd Iau gyda’r Diwrnod Ysgolion a Gwobrau’r Heddychwyr Ifanc.
Dydd Sul bydd yr Eisteddfod yn gadael ei gwallt i lawr ar gyfer Llanfest cyn uchafbwynt y cyngerdd olaf a fydd yn cynnwys y sȇr roc indie byd-enwog Amber Run a’r pwerdy blues Elles Bailey a’r gantores-gyfansoddwraig o Cymreig-Bajan, Kizzy Crawford