Byd gwyn fydd byd a gano. Gwaraidd fydd ei gerddi fo
Blessed is a world that sings. Gentle are its Songs
Y geiriau uchod yw arwyddair Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Fe’u hysgrifennwyd gan T. Gwynn Jones yn 1946, ac fe’u comisiynwyd fel disgrifiad barddonol o’n pwrpas ac maent wedi gwasanaethu’r sefydliad yn rhagorol ers 75 mlynedd. Mae’r geiriau’n rhan arwyddocaol o’n hanes ac mae’r arwyddair i’w weld yn addurno ein gwaith celf, tlysau ein cystadlaethau a’n cartref, y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein sefydliad cyfan i sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir gan y Comisiwn Elusennau, ein cyrff ariannu cyhoeddus a’n cynulleidfaoedd. Mae rhan o’r broses hon yn cynnwys ystyried pwy ydym ni heddiw, pwy ydym am fod yn y dyfodol, a sut ydym yn cyfathrebu hyn. Ar ôl rhannu esiamplau o ‘ddelwedd newydd’ gyda nifer o randdeiliaid yn ystod proses adborth, ac fel rhan o’n gwaith adnewyddu parhaus cawsom gyngor gan bartneriaid allanol dibynadwy sy’n gweithio’n rheolaidd yn y Gymraeg, y dylem fod yn ymwybodol o gamddehongli posibl wrth gyfieithu ein harwyddair o’r Gymraeg i ieithoedd eraill.
Bydd llawer o Gymry Cymraeg yn gwybod mai yng nghyd-destun cwpled T. Gwynn Jones, bod y geiriau ‘byd gwyn’ yn golygu ‘blessed’ yn Saesneg, ac yn dod o ‘Gwyn eu byd’, geiriau agoriadol y Gwynfydau yn Efengyl Sant Mathew yn y Beibl. Fodd bynnag, cyfieithiad llythrennol (gan gynnwys y rhai a ddarperir gan offer cyfieithu ar-lein ac apiau) i’r Saesneg yw ‘white world’. Ar ôl i hyn gael ei ddwyn i’n sylw, roeddem yn teimlo ei fod yn gyfrifoldeb i ni ymchwilio ac ymgynghori ymhellach i gael eglurder ar y mater hwn ac ystyried ffyrdd posibl ymlaen. Roedd hyn yn cynnwys siarad â nifer o siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, arbenigwyr ac ymgynghorwyr ar y Gymraeg, o fewn a thu allan i’n sefydliad, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd, a’n cyllidwyr. Eu cyngor unfrydol oedd bod yr arwyddair yn brydferth o’i ddarllen gyda dealltwriaeth o’r Gymraeg, ond i’r di-Gymraeg a chenedlaethau newydd o gynulleidfaoedd ac yn wir rhai Cymry Cymraeg, nid yw’r ystyr a fwriadwyd yn ddigon clir.
Mae geiriau T. Gwynn Jones wedi teithio o Langollen o amgylch y byd, gan ledaenu’r neges Gymreig o heddwch, ac mae ein harwyddair wedi ein gwasanaethu’n aruthrol o dda ers 75 mlynedd; rydym yn gwbl falch ohono yn ei ystyr a’i gyfieithiad gwreiddiol. Wrth i Eisteddfod Llangollen barhau ar lwybr pwysig o adnewyddu ein pwrpas mewn byd modern, mae’r Bwrdd wedi cytuno bod hyn yn rhoi cyfle creadigol cyfoethog i ystyried y Gymraeg fel iaith fyw ac esblygol.
Bydd ein harwyddair presennol a’n tarian boblogaidd yn parhau’n rhan o hunaniaeth weledol yr Eisteddfod yn 2023, a bydd y Bwrdd yn treulio’r 5 mis nesaf mewn ymgynghoriad â’n rhanddeiliaid ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer 2024 a thu hwnt.
Mewn ymateb i’r adolygiad hwn sydd wedi cael sylw gan y cyfryngau ac unigolion ar gyfryngau cymdeithasol, rydym am ddarparu rhywfaint o gyd-destun ychwanegol sydd wedi’i gamddeall neu wedi’i gamliwio. Rydym am ddatgan yn glir nad ydym wedi awgrymu unrhyw hiliaeth ar unrhyw adeg. Mae’r Eisteddfod wedi bod erioed, yn batrwm ar gyfer undod, ac mae’n parhau i fod felly. Dymunwn bwysleisio hefyd ein bod yn deall yn iawn nad yw mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn darllen y geiriau ‘byd gwyn’ yng nghyd-destun yr arwyddair fel unrhyw beth heblaw ‘blessed’. Mater o gyfieithu yw hyn drwy’r dull sydd fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio gan gynulleidfaoedd di-Gymraeg ledled y byd. Ac yn olaf, ni allwn ddatgan digon ein bod yn parhau i arddel teimlad y geiriau fel y’u bwriadwyd gan T. Gwynn Jones.
O ran eglurder ynghylch rhai o’r pwyntiau yn llythyr yr Athro Gruffydd Aled Williams i’r Western Mail ar 22 Mawrth 2023, hoffem ei gwneud yn glir na chynghorodd Cyngor Celfyddydau Cymru yr Eisteddfod i roi’r gorau i ddefnyddio ein harwyddair presennol. Roedd y cyngor a gynigiwyd ar y pwnc hwn yng nghyd-destun sgwrs anffurfiol am yr ymgynghoriad ar frand newydd. Roeddent yn cytuno â ni fod trafod yr arwyddair, a naws ac effaith geiriau ac iaith mewn cyd-destun rhyngwladol, yn rhan o broses archwilio hunaniaeth brand newydd. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn annibynnol ar Gyngor Celfyddydau Cymru ac nid ydym yn un o’r sefydliadau sy’n derbyn cyllid refeniw gan Gyngor y Celfyddydau. Rydym wedi derbyn dau grant diweddar gan Gyngor y Celfyddydau: ‘Adeiladu pontydd ar draws y byd’ – i gefnogi man cyfarfod yn Llangollen 2023 i berfformwyr o bedwar ban byd brofi traddodiadau gwyliau Cymreig, a ‘Lleisiau Newydd Cymru’, prosiect newydd sy’n archwilio natur amlddiwylliannol ac amlieithog y Gymru fodern.
Bydd ein tîm bychan o staff a’n grŵp amhrisiadwy o wirfoddolwyr yn awr yn canolbwyntio ar gyflwyno Eisteddfod eithriadol 2023 y mae ein cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.
Ar ran Bwrdd Ymddiriedolwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, 15.03.23 (diweddarwyd 28.03.23)