Os ydych chi’n darllen y stori hon efallai eich bod wedi sylwi bod ein gwefan wedi cael adfywiad lliwgar! Mae’r wedd newydd hon yn cynrychioli ein brand newydd, a ddyluniwyd gan yr asiantaeth ddylunio o ogledd Cymru View Creative.
Wedi’i lansio ym mis Mai 2023, mae’r ailfrandio wedi bod yn un rhan o broses adolygu strategol sydd wedi mynd rhagddi ers 2019, gan sicrhau ein bod yn diweddaru pob maes o’n busnes i fod yn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi bod yn gweithio ar yr ail-frandio ers mis Medi 2022 ac mae nifer o staff, aelodau bwrdd, gwirfoddolwyr, cyllidwyr a llu o ffrindiau a chydweithwyr eraill wedi ymwneud â’r gwaith yma.
Fel gyda phob maes o’n gwaith, rydym yn parhau’n ymrwymedig i’n hegwyddorion sylfaenol: defnyddio’r traddodiad eisteddfodol, cystadlaethau cyfeillgar a rhoi llwyfan i’r celfyddydau a diwylliant, fel modd o hybu heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol. Gobeithiwn y bydd ein gwedd newydd ffres yn ein helpu i gyflawni hyn wrth ddenu cynulleidfaoedd a chefnogwyr newydd, a’n cydweddu â gwyliau rhyngwladol blaenllaw eraill.
Gobeithio mai un o’r pethau cyntaf y bydd pobl yn sylwi arno am y brandio newydd yw’r palet lliw bywiog. Mae hyn wedi’i gyfosod drwy adolygu ein harchif ffotograffig, a’i ysbrydoli gan liwiau gwisgoedd, baneri a gorymdeithiau rhyngwladol dros y 76 mlynedd diwethaf. Mae ein hymwelwyr yn dweud wrthym yn aml fod bywiogrwydd gweledol a chynlluniau lliw beiddgar ein digwyddiadau yn aros yn eu cof.
Tynnwyd ysbrydoliaeth hefyd o’n tref anhygoel a’r cyffiniau, gan edrych ar siapiau a sut y gellir trosi’r rhain yn deipograffeg a graffeg. Mae siapiau wedi’u hysbrydoli gan nodweddion naturiol eiconig a gwaith pobl Llangollen, y logo gwreiddiol a’r arddangosfeydd blodau godidog sy’n agwedd mor unigryw o’r Eisteddfod. Yn ogystal, mae’n bwysig hefyd bod y brand yn gweithio mewn dwy iaith, gan amlygu ein lle yng Nghymru a’r byd ehangach.
Mae’r brand newydd yn gwneud defnydd o’r llythyren Gymraeg LL sydd yn gwneud i lawer feddwl am y Gymraeg a llefydd yng Nghymru. Deugraff yw Ll (fersiwn priflythyren: LL) (dau symbol sy’n cyfrif fel un llythyren), hon yw 16eg llythyren yr wyddor Gymraeg, ac mae’n llythyren gyntaf dros 400 o enwau lleoedd ledled y wlad, gan gynnwys wrth gwrs y dref ddihafal sy’n gartref i’n gŵyl.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ddigwyddiad blynyddol gwirioneddol unigryw ac anhygoel. Cynhelir gŵyl 2023 o ddydd Mawrth y 4ydd o Orffennaf tan ddydd Sul y 9fed o Orffennaf ac mae’n cynnwys safle awyr agored bywiog, cyfres o gyngherddau gyda’r nos o’r radd flaenaf, a chymysgedd amrywiol o gystadlaethau cerddoriaeth a dawns traddodiadol a chyfoes. Gallwch ddarganfod mwy a gweld yr holl ddigwyddiadau yma.