Alfie Boe yn ‘yn methu aros’ am ddychwelyd i ogledd Cymru ochr yn ochr â sêr Cymry’r West End 

Mae’r tenor enwog Alfie Boe yn dweud ei fod “yn methu aros” i ddychwelyd i ogledd Cymru wrth iddo baratoi i fod yn un o brif sȇr yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn. Bydd y canwr a’r actor enwog o Loegr yn agor y digwyddiad ochr yn ochr â pherfformwyr dawnus Welsh of the West End, a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent, mewn cyngerdd gyda’r nos mawreddog ar nos Fawrth, Gorffennaf 4. 

Dywedodd Alfie, sydd wedi ymddangos yn yr ŵyl ddiwylliannol ar sawl achlysur, y bydd y gynulleidfa yn cael “cerddoriaeth uffernol o wych” gyda rhaglen wedi’i dewis yn bwrpasol ar gyfer Llangollen. 

Wedi’i gefnogi gan Welsh of the West End – sy’n cynnwys rhai o dalentau gorau Cymru – dywedodd Alfie y dylai’r gynulleidfa fod yn barod am noson wych. 

Wrth siarad am ddychwelyd i’r dref, dywedodd: “Mae perfformio yn Llangollen yn gyffrous iawn oherwydd mae’n wefr wirioneddol. Mae yna awyrgylch cerddorol gwych – mae pawb yna o bob rhan o’r byd yn dathlu cerddoriaeth a diwylliant ac mae’n beth gwych i fod yn rhan ohono. Yr ychydig droeon diwethaf rydw i wedi bod yno, rydw i wedi caru pob munud. A phan fyddwch chi’n cael perfformio ar y prif lwyfan ac os oes gennych ddiwrnod i’ch hun, mae’n well byth, fedra i ddim aros.” 

Dywedodd Alfie, sydd wedi cydweithio â nifer o gorau yn ystod ei yrfa, ei fod yn edrych ymlaen at ymuno â Welsh of the West End – y grŵp theatr gerdd a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent. 

Wrth sôn am yr hyn y gall y gynulleidfa ei ddisgwyl, dywedodd Alfie: “Cerddoriaeth uffernol o wych – cyngerdd da, llawer o hwyl a chwerthin. Fy nod yw cyflwyno sioe dda gyda llawer o gerddoriaeth wahanol. Mae bob amser yn braf rhoi cynnig ar ganeuon newydd gyda thorf yr ŵyl.” 

Archebwch docynnau yma

Dywedodd Alfie, sy’n paratoi ar gyfer ei daith ar hyd y DU ym mis Medi eleni, fod ganddo lawer ar y gweill i’w gefnogwyr ffyddlon gan gynnwys llyfr ac albwm newydd. “Rydw i eisiau parhau i feddwl am syniadau, parhau i weithio a gwneud y gorau y gallaf. Rwy’n ceisio troi fy llaw ar rai caneuon gwreiddiol hefyd felly byddaf yn eu cyflwyno’n raddol i’r cyhoedd.” 

Dywedodd y Cymro sy’n seren yn y West End, Steffan Hughes o Langwyfan ger Dinbych, sydd wedi bod yn Llysgennad Ieuenctid i Eisteddfod Llangollen ac sydd hefyd wedi cyflwyno darllediadau S4C o’r ŵyl yn 2019, fod ymddangos yn yr ŵyl gydag Alfie yn “foment cwblhau’r cylch” go iawn gan iddo gystadlu yn y digwyddiad am flynyddoedd lawer pan oedd yn iau. 

Meddai: “Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dal lle annwyl yn fy nghalon. Gŵyl hollol unigryw, y cefais y fraint o’i chynrychioli fel llysgennad ieuenctid yn fy arddegau. Treuliais nifer o flynyddoedd yn cystadlu ar y llwyfan gwych hwn a mwynhau’r cyngherddau mwyaf amrywiol ac o safon uchel hefyd. Rydw i mor gyffrous i ddod â Welsh of the West End i Langollen. Fe wnaethon ni gynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol trwy ein hymddangosiad ar Britain’s Got Talent, ond does unman yn debyg i gartref mewn gwirionedd – ac fel bachgen o Sir Ddinbych fy hun, rydw i wrth fy modd i fod yn canu fy hoff ganeuon o fyd y theatr gerdd a ffilm yn fy milltir sgwâr.” 

 Ychwanegodd Steffan: “Rhannu’r llwyfan gyda’r bendigedig Alfie Boe yw’r eisin ar y gacen. Roedden ni’n berfformwyr gwadd ar ei daith o amgylch y DU gyda Michael Ball y llynedd, felly rydyn ni’n gyffrous iawn i ailymuno efo fo unwaith eto.” 

Dywedodd ei gyd-aelodau, Jade Davies o Ddinbych, chwaer enillydd Love Island Amber Davies, a Mared Williams o Lanefydd, a fynychodd yr un ysgol â Steffan i Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy eu bod hefyd yn gyffrous am y digwyddiad. 

Dywedodd Jade, sydd wedi perfformio mewn sioeau fel Les Miserables a Phantom of the Opera: “Gwireddu breuddwyd yw rhannu’r llwyfan gydag Alfie Boe – rhywun rydw i’n ei edmygu’n fawr. Bydd yn bleser perfformio ar lwyfan eiconig Llangollen.” 

Dywedodd Mared, sy’n gyn-enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol Theatr Gerddorol yn Eisteddfod Llangollen: “Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i ganu yn yr Eisteddfod Ryngwladol unwaith eto. Wedi tyfu i fyny yn cystadlu ac ymweld â’r Eisteddfod, mae’n deimlad hyfryd dod yn ôl i berfformio gyda phrofiad theatr gerdd proffesiynol y tu ôl i mi.” 

Archebwch docynnau yma

Bydd yr Eisteddfod yn ôl am ei 76ain blwyddyn yr haf hwn – yr ŵyl lawn gyntaf i’w chynnal ers y pandemig coronafeirws. Ac eleni, bydd Gorymdaith y Cenhedloedd yn ôl am y tro cyntaf ers 2019. 

Dywedodd cynhyrchydd gweithredol Eisteddfod Llangollen, Camilla King: “Roedd llawer o gyffro y llynedd pan ddaethon ni’n ôl am y tro cyntaf ers 2019 ond roedd pobl bryd hynny’n dal yn wyliadwrus ynglŷn â chovid a theithio, ond eleni, mae pawb yn barod i ddod yn ôl at ei gilydd i ddathlu. 

“Gall pobl ddisgwyl gweld llawer o’r pethau y mae’r ŵyl wedi ennill enw da amdanynt – artistiaid byd enwog gwych, cystadlaethau sy’n rhoi llwyfan i berfformwyr o bedwar ban byd, rowndiau terfynol byw cyffrous fel Côr y Byd, Pencampwyr Dawns a Llais y Dyfodol – lle ceir cyfle i weld rhai o’r corau, grwpiau dawns ac unawdwyr operatig gorau. 

“Bydd yna hefyd gyngherddau rhyngwladol rhagorol sy’n dod â llawer o berfformwyr gwahanol ynghyd gan gynnwys Blodau Gwyn sy’n gweld llu o berfformwyr o Gymru, Bosnia ac Wcráin. Rydym hefyd wrth ein bodd bod enillydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine 2022, Emyr Lloyd Jones, yn ymuno â ni ar y llwyfan fel unawdydd ar gyfer y cyngerdd hwn. 

Yn ogystal, fel rhan o arlwy’r Eisteddfod bydd y perfformiwr a’r arweinydd jazz adnabyddus, Guy Barker gyda’i Fand Mawr, yn cydweithio ag unawdwyr o fri fel Tommy Blaze, prif leisydd Strictly Come Dancing, gyda cherddorion soul a jazz, Clare Teal, Giacomo Smith a Vanessa Haynes hefyd yn perfformio setiau arbennig. 

“Mae’n mynd i fod yn barti hirddydd haf go iawn – os ydych chi’n hoff o jazz ac yn hoffi sŵn band mawr Sinatra yna, dyma’r noson allan i chi,” meddai Camilla. Wrth sôn am ddychweliad Alfie Boe i Langollen, ychwanegodd Camilla: “Mae rhai blynyddoedd ers i Alfie fod yn yr Eisteddfod ond mae’n ffefryn go iawn gyda’n cynulleidfa. Mae hefyd yn arddangosfa wych i Gymry’r West End – sêr ifanc dawnus theatr gerdd Cymru.” 

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 4 a 9, ac yn cynnwys cyfuniad o gystadlu a pherfformiad gyda chorau yn cystadlu am deitl nodedig Côr y Byd a Thlws Pavarotti. Bob blwyddyn mae tua 4,000 o gyfranogwyr yn cymryd rhan gyda thua 25,000 o ymwelwyr yn mynychu. Bydd llawer o adloniant hefyd ar y Maes gan gynnwys gweithdai, sgyrsiau, arddangosiadau rhyngwladol, perfformiadau theatr awyr agored a sgiliau syrcas. Bydd yr Eisteddfod hefyd yn coroni pencampwyr dawns 2023 gyda Thlws Lucille Armstrong, yn ogystal â digwyddiad Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine. 

Archebwch docynnau yma neu drwy ffonio 01978 862001.