Llangollen 2024: 2-7 Gorffennaf
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi manylion am sut i gystadlu neu gymryd rhan yn Llangollen 2024. Ar draws 29 o gategorïau, gan gynnwys naw cystadleuaeth newydd, bydd rhai o dalentau cerddoriaeth a dawns gorau’r byd yn teithio i’r ŵyl heddwch eiconig yng ngogledd Cymru; lle mae Cymru’n croesawu’r byd.
Mae gwefan benodol ar gyfer Cyfranogwyr, a rhestr cystadlaethau, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth ar sut i wneud cais, categorïau cystadlu, trefnu llety a mwy…
https://eisteddfodcompetitions.co.uk/
Mae’r cystadlaethau yn parhau i fod yn rhan ganolog o Eisteddfod Llangollen. Byddant yn cael eu cynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod o Ddydd Mawrth 2 Gorffennaf tan Ddydd Sul 7 Gorffennaf 2024. Mae cyfleoedd a gwobrau gwych ar gael i gystadleuwyr yn y dathliad gwirioneddol ryngwladol hwn o bopeth o fyd dawns a cherddoriaeth. Y cyntaf i agor ar gyfer ceisiadau cystadlu yw’r categorïau grŵp, gyda’r categorïau unigol i ddilyn yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Llangollen Sarah Ecob,
“Rydym yn falch iawn o agor ceisiadau ar gyfer rhai o’r cystadlaethau diwylliannol mwyaf uchel eu parch ac enwocaf y byd. Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys neb llai na Pavarotti. Yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen rydym yn dathlu rhagoriaeth gerddorol a bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf yn parhau â’r traddodiad hwnnw. Eleni, rydym wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod yr Eisteddfod nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Fodd bynnag, mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod ein gŵyl arferol yn parhau gan sicrhau bod cefnogwyr yn dal i allu mwynhau rhan draddodiadol, gystadleuol Eisteddfod Llangollen.”
Fel ffordd o ddathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc, bwriedir cyflwyno cystadleuaeth newydd Côr Ifanc y Byd. Ar gyfer 2024 bydd y côr buddugol yn ymddangos ar y prif lwyfan yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn ystod cyngerdd nos Fercher 3 Gorffennaf.
Bydd cantorion unigol hefyd yn cael cyfle gwych i berfformio mewn cyngerdd gyda’r nos. Bydd Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn rhan o’r cyngerdd ar nos Sadwrn 6 Gorffennaf ac, am y tro cyntaf erioed, bydd rownd derfynol Llais Rhyngwladol Theatr Gerdd yn perfformio gyda band byw yn y cyngerdd ar nos Iau 4 Gorffennaf (digwyddiad na ddylid ei golli!).
Mae ychwanegiadau newydd eraill yn cynnwys categori Dawns Agored (Unawd, Deuawd a Thrio) ar gyfer plant dan 11 oed, 12-17 oed, a 18 oed a throsodd, categori Corau Plant Agored, a Corau Cân Werin Oedolion a Chorau Siambr, Ensemble Offerynnol, Unawd Gwerin Lleisiol ac Offerynnol.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi’i lleoli yn nhref hardd Llangollen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Cynhelir y prif gystadlaethau ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol sydd â lle gynulleidfa o 4000. Yn 2024, y naill ochr i wythnos yr Eisteddfod (2-7 Gorffennaf), llwyfennir sioeau ychwanegol – gan gynnwys cyngerdd gyda’r Manic Street Preachers a Suede (Dydd Gwener 28 Mehefin), a Paloma Faith (Dydd Gwener 21 Mehefin).
Llyfryn cystadlaethau y gellir ei lawrlwytho, ffurflenni cais a gwybodaeth arall i gystadleuwyr ar gael ar wefan bwrpasol: https://eisteddfodcompetitions.co.uk/