EISTEDDFOD I DDOD A CHYMUNED LLANGOLLEN GYDA’I GILYDD ETO

Bydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cynnal cyfarfod cymunedol arall ddydd Llun 4 Rhagfyr 2023 yn Neuadd Gymunedol Sant Collen am 7yp. Mi fydd y sesiwn hybrid yn gyfle i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen cyngherddau 2024, ateb cwestiynau am eu cynlluniau ar gyfer yr haf nesaf, ac i wahodd trigolion i ymuno â’r tîm cynyddol o wirfoddolwyr.

Cynhelir y cyfarfod cymunedol ar yr un diwrnod ag y bydd yr Eisteddfod yn cyhoeddi ei chyngherddau nos ar gyfer wythnos sylfaenol yr Eisteddfod, a gynhelir o ddydd Mawrth 2 tan ddydd Sul 7 Gorffennaf 2024. Mae’r Eisteddfod wedi bod yn un o uchafbwyntiau calendr diwylliannol prysur Gymru ers iddi gael ei lansio yn 1947 i hyrwyddo heddwch trwy gân a dawns.

Ers i’r Eisteddfod gyhoeddi’r bartneriaeth gyda Cuffe a Taylor, maent wedi cyhoeddi nifer o gigs cyn ac ar ôl wythnos yr Eisteddfod ei hun, a fydd yn gweld pobl fel Manic Street Preachers, Suede, Paloma Faith, Nile Rodgers, Jess Glynne a Kaiser Chiefs yn teithio i Ogledd Cymru’r haf nesaf. Bydd y trefnwyr yn cyhoeddi eu cyfres cyngherddau llawn ar gyfer 2024 ddydd Llun 4 Rhagfyr, cyn dod â’r gymuned ynghyd ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus.

Dywedodd Is-gadeirydd yr Eisteddfod, Chris Adams: “Mae’n hanfodol ein bod yn cyfathrebu ar bob lefel gyda Llangollen a’r gymuned ehangach. Mae ymdeimlad gwirioneddol o gyffro am yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf felly beth am ddod â’n cymuned at ei gilydd ar y diwrnod y byddwn yn cyhoeddi ein rhaglen gyngherddau. Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi hyrwyddo heddwch trwy gerddoriaeth a dawns ers 1947. Fel unrhyw Eisteddfod arall, bu’n rhaid i ni addasu i heriau a dyna pam rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Cuffe a Taylor. Mae nodau ac ethos ein Heisteddfod unigryw yn parhau ac ni allwn aros am yr haf. Mae’n bwysig i ni fod trigolion yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i ni a manteisio ar eu cyfle i neidio’r ciw i brynu’r tocynnau poethaf yng Ngogledd Cymru’r haf hwn.”