YR ARWYR INDIE KAISER CHIEFS YN TREFNU GIG GYDAG EISTEDDFOD GERDDOROL RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Mae’r arwyr indie Kaiser Chiefs yn teithio i ogledd Cymru yr haf nesaf ar gyfer sioe sy’n addo bod yn un syfrdanol.

Bydd y band sydd wedi ennill sawl gwobr yn dychwelyd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar nos Sadwrn 29 Mehefin.

Bydd tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd am 9am ddydd Gwener 17 Tachwedd o llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk

 Mae’r cyhoeddiad yn dilyn y newyddion y bydd Kaiser Chiefs yn rhyddhau eu halbwm stiwdio newydd sbon, sydd wedi’i enwi – yn addas ddigon – Kaiser Chiefs’ Easy Eighth Album, ar y 1af o Fawrth 2024. Wedi’i gynhyrchu gan Amir Amor (Rudimental),  mae Easy Eighth Album yn  gweld y band yn dychwelyd gyda sain newydd ffres a beiddgar. O’r sengl newydd ‘Feeling Alright‘, a ysgrifennwyd ar cyd gyda Nile Rogers, i gyffro gwyllt ‘Beautiful Girl‘, adlais o’r hen Kaiser Chiefs yn  ‘Job Centre Shuffle’ ac ergydion teimladwy ‘Jealousy’, mae’r 10 trac hyn yn ddatganiad o fwriad go iawn gan fand sy’n parhau i daro deuddeg dro ar ôl tro.

Mae’r albwm yn cyrraedd ar gefn llwyddiant ysgubol diweddar traciau fel ‘Jealousy‘  a ‘How 2 Dance’, yn ogystal â thaith fawr yn yr arena yn y DU ddiwedd y llynedd.

Os oedd Duck 2019 yn pontio ewfforia Northern-Soul a’i wrthbwynt ar ddechrau’r 190au, bydd 2024 yn gweld y Kaiser Chiefs yn camu i fyd newydd; byd llawn riffiau bachog lle mae Ricky Wilson, Andrew “Whitey” White (gitâr), Simon Rix (bas), Peanut ar yr allweddellau a’r drymiwr Vijay Mistry, yn dod at ei gilydd i greu’r hyn maen nhw’n ei wneud orau; creu caneuon arloesol ar gyfer llawr dawns y byd.

A chyda band sydd wedi bod yn perfformio ers bron i ddau ddegawd, wedi’u harfogi ag ôl-gatalog helaeth o anthemau stadiwm, a llwyddiant ysgubol, gall dilynwyr y band ym Mhafiliwn Llangollen baratoi ar gyfer noson sy’n llawn caneuon anthemig fel  ‘Oh My God’, ‘I Predict A Riot’, ‘Everyday I Love You Less and Less‘ a Ruby’.

Y prif sioe yw’r ddiweddaraf i’w chyhoeddi fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng hyrwyddwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe & Taylor.

Mae’r Kaiser Chiefs yn ymuno â’r sêr indie Manic Street Preachers a Suede, yr artist arobryn BRIT, Paloma Faith  a’r sêr disgo Nile Rodgers & CHIC sydd ymhlith yr artistiaid sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma ar gyfer yr ŵyl heddwch eiconig yn 2024.

 Dywedodd Dave Danford, Rheolwr Arweiniol a Chynhyrchu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Rydym wrth ein boddau y bydd Kaiser Chiefs yn dychwelyd i Langollen. Mi gawson nhw dderbyniad anhygoel yn 2018, ac rydym mor falch y byddant yn dod â’u hanthemau yn ôl i ogledd Cymru yn 2024. 

 “Dyma’r cyhoeddiad diweddaraf yn unig fel rhan o’n partneriaeth gyffrous newydd gyda hyrwyddwyr Live Nation, Cuffe & Taylor, gyda mwy i ddod yn ystod yr wythnosau nesaf.”

 Ychwanegodd cyd-sylfaenydd Cuffe & Taylor, Peter Taylor: “Mae Kaiser Chiefs yn fand byw gwych. Rydym wedi cyflwyno nifer o sioeau gyda nhw dros y blynyddoedd felly rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i ddod â nhw yn ôl i Langollen ar gyfer sioe a fydd yn gyffrous iawn i bawb sy’n cymryd rhan.”

Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau ewch i llangollen.net a www.ticketmaster.co.uk