Kerry Ellis, Brenhines y West End, yn dychwelyd i Eisteddfod Llangollen gyda’i hesgidiau rhedeg!

Mae perfformiwr sy’n adnabyddus am ei chyfnodau disglair yn y West End ac ar Broadway yn gobeithio rhoi cynnig ar redeg trwy brydferthwch Dyffryn Dyfrdwy pan fydd yn serennu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn.

Bydd Kerry Ellis – sy’n cael ei hadnabod fel Brenhines y West End ar ôl chwarae rhan flaenllaw mewn sioeau o My Fair Lady i We Will Rock You ac o Les Miserables i Wicked – yn cymryd i’r llwyfan yn un o gyngherddau mawr Wythnos Graidd yr Eisteddfod ddydd Iau 4 Gorffennaf.

Bydd hi’n perfformio ochr yn ochr â seren theatr gerdd arall, John Owen-Jones, yn Direct from the West End ac mae’n dweud ei bod hi’n methu aros i gyrraedd Llangollen ac, fel rhedwr brwd, efallai dod o hyd i amser i redeg trwy gefn gwlad yr ardal leol.

“Fe wnes i fy hanner marathon cyntaf llynedd a bydda’ i’n cyrraedd yr ardal y diwrnod cyn y cyngerdd, felly gobeithio bydda i’n cael y cyfle i redeg ychydig ar y  bryniau ger y dref,” meddai.

Wedi’i henwi fel Prif Fonesig sioeau cerdd y West End, daeth Kerry i enwogrwydd yn 2002 pan enillodd rôl Meat yng nghast gwreiddiol We Will Rock You yn Llundain, rôl y cafodd ei dewis yn arbennig gan Syr Brian May ei hun.

Gan gymryd rhai o rolau mwyaf theatr gerdd, mae hi wedi ennill nifer o wobrau ar hyd y ffordd.

Mae hi hefyd wedi recordio pedwar albwm stiwdio, ac wedi teithio’r byd fel artist unigol a gyda’i ffrind da Syr Brian.

Meddai: “Rwyf wedi bod i Eisteddfod Llangollen o’r blaen yn 2016 pan ymddangosais mewn cyngerdd nos theatr gerdd gyda’r grŵp canu Calabro, a mwynheais yn fawr.

“Rwy’n edrych ymlaen gymaint i ddod yn ôl eto a pherfformio gyda John Owen-Jones, sy’n hen ffrind i mi, a cherddorfa o berfformwyr o’r radd flaenaf o’r West End. Dylai fod yn noson wych.

“Fe fyddwn ni’n perfformio cyfuniad o ganeuon o’r sioeau rydyn ni’n dau wedi bod ynddynt, fel Les Miserables a Wicked, a heb os bydd John yn gwneud rhywbeth o Phantom of the Opera a ffefrynnau adnabyddus eraill.”

Yn yr Eisteddfod, bydd Kerry yn camu ar yr un llwyfan ag un arall o’i hen bartneriaid deuawd a ffefryn Llangollen, Alfie Boe. Bu’n gweithio gydag ef ar ei albwm stiwdio gyntaf un ac mae’n ei gofio’n annwyl fel “dyn gwych”.

Mae hi hefyd wedi gweithio o’r blaen gyda Chyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, Dave Danford, a dywed ei bod wrth ei bodd y bydd yn oruchwyliwr cerddorol ar Direct from the West End.

Yn fuan ar ôl ei hymddangosiad yn Llangollen bydd Kerry yn mynd ar daith 40 dyddiad ledled y DU. Yn y cyfamser, mae’n dweud ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at ddod i Langollen sydd, yn ei geiriau hi, wrth galon Gwlad y Gân.

Mae Direct from the West End, o dan y cyfarwyddwr cerdd Iestyn Griffiths, hefyd yn cynnwys rownd derfynol cystadleuaeth Llais y Theatr Gerdd, a fydd wedi bod yn rhedeg drwy wythnos yr Eisteddfod.