Lansio Yn Ystod y Dydd yn y Pafiliwn yn Eisteddfod Llangollen!

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen heddiw wedi lansio ei rhaglen bafiliwn yn ystod y dydd ar gyfer gŵyl graidd eleni. Mae tocynnau ar gael nawr i weld dros 3,000 o gyfranogwyr o gorau, grwpiau dawns, ensembles ac unawdwyr o 34 o wledydd gan gynnwys Awstralia, Burundi, Canada, Tsieina, Japan, Tanzania, Trinidad a Tobago, a Zimbabwe. Byddant i gyd yn dod i Ogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer Wythnos Graidd yr Eisteddfod, a gynhelir o ddydd Mawrth, 2 Gorffennaf i ddydd Sul, 7 Gorffennaf. Mae’r cystadlaethau eleni’n cynnwys Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, a Chôr y Byd, pan fydd corau gorau’r byd yn cystadlu am dlws Pavarotti.

Mae gan yr ŵyl, sydd wedi bodoli ers 1947 i hyrwyddo heddwch a chymodi trwy gerddoriaeth a dawns, hanes o hyrwyddo rhagoriaeth yn y celfyddydau. Yn 2024, mae ei gystadlaethau tra chwenychedig ym Mhafiliwn Llangollen wedi denu mwy o wledydd a chystadleuwyr nag ers blynyddoedd lawer.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen Dave Danford, “Dyma’r arlwy dydd mwyaf cyffrous i ni ei gael yn ein Pafiliwn ers blynyddoedd lawer. Edrychwn ymlaen at groesawu’r Byd i Gymru eto ym mis Gorffennaf. Byddwn hefyd yn dod â rowndiau terfynol rhai o’n cystadlaethau yn ystod y dydd i mewn i’n cyngherddau nos eleni, megis Llais y Theatr Gerdd ar nos Iau. Mae hyn yn golygu y bydd yr enillwyr yn rhannu’r llwyfan gyda sêr gwerin fel Calan, y Delynores Frenhinol Alis Huws, John’s Boys Male Chorus a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol ar Britain’s Got Talent, a sêr y West End Kerry Ellis a John Owen-Jones. Mae’r ffaith y bydd 34 o genhedloedd yn cael eu cynrychioli yn golygu mai Llangollen fydd prifddinas ddiwylliannol y byd yr haf hwn.

Gydag artistiaid rhyngwladol fel Bryan Adams, Simple Minds, Paloma Faith a Nile Rodgers & Chic ar fin ymddangos cyn ac ar ôl Wythnos Graidd yr Eisteddfod, mae’r trefnwyr yn awyddus i nodi eu bod yn parhau i fod yn driw i’w hethos o hyrwyddo heddwch trwy ragoriaeth gerddorol. Gellir prynu tocynnau ar gyfer Yn Ystod y Dydd yn y Pafiliwn o www.llangollen.net. Bydd perfformiadau llwyfan allanol hefyd, a llu o weithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer yr hyn y mae’r trefnwyr yn ei ddweud fydd yr ‘Eisteddfod Llangollen’ fwyaf ers cenhedlaeth.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, yr Athro Chris Adams, “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cystadlaethau cyffrous Yn Ystod y Dydd ym Mhafiliwn Llangollen a rhagor o ddigwyddiadau ar gyfer yr ŵyl eleni. Bydd popeth yn cael ei adeiladu o amgylch rhagoriaeth gerddorol ac mae gennym rai cyhoeddiadau anhygoel o hyd. Eleni, rydym wedi partneru â Cuffe a Taylor i ddod â rhai o artistiaid mwyaf y Byd i Langollen, ond yn aros yn driw i ethos ein sylfaenwyr, a dyna pam yr haf hwn, yn ogystal â chroesawu pobl fel Tom Jones, Gregory Porter a Katherine Jenkins i Langollen, – byddwn yn gweld mwy o wledydd, mwy o gystadleuwyr a diwylliant mwy amrywiol yn Eisteddfod Llangollen na welwyd ers cenhedlaeth.”

Tocynnau ar gyfer Yn Ystod y Dydd yn y Pafiliwn – CLICIWCH YMA