Prosiect Cynhwysiad

Fel sefydliad sy’n adnabyddus am groesawu lliaws o ymwelwyr byd-eang, flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r Prosiect Cynhwysiad yn rhywbeth sydd yn agos iawn at galon pawb yma yn Eisteddfod Llangollen.

Rydym wedi ymrwymo i roi cyfleoedd cyfartal i bawb gael perfformio,  parhau â gwaith gwych y Prosiect Cynhwysiad sydd yn ei dro, yn galluogi pobl o bob llwybr bywyd i berfformio ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol.

Bob blwyddyn, rydym yn hynod lwcus i weithio gyda phobl angerddol, talentog ac ymroddedig.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Elise Jackson, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned ffôn: 01978 862 000 e-bost: elise.jackson@llangollen.net