Swyddi

Arbenigwr Ariannu Llawrydd

Mae gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen hanes balch o 76 mlynedd o ddod â chymunedau byd-eang at ei gilydd trwy gerddoriaeth, dawns a chreadigrwydd i hybu heddwch a dealltwriaeth. Mae’r Eisteddfod yn cael ei chydnabod fel un o wyliau mwyaf blaenllaw’r byd ac mae hyd yn oed wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel. Dros 75 mlynedd mae wedi denu dros 400,000 o gystadleuwyr gan ddod â dros 140 o ddiwylliannau i Ddyffryn Dyfrdwy. Eiconau diwylliannol gan gynnwys Dylan Thomas, y Fonesig Shirley Bassey a Luciano Pavarotti. Yn 2024, diolch i gydweithrediad newydd gyda Live Nation Cuffe & Taylor, bydd ein cyngherddau nos yn ymestyn dros bedair wythnos gan gynnwys Manic Street Preachers, Bryan Adams, Madness, Simple Minds a Nile Rodgers & Chic. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.llangollen.net

Rydym nawr yn chwilio am godwr arian llawrydd neu dîm codi arian i ymuno â’n tîm. Yn y rôl hon, bydd y codwr arian yn defnyddio sgiliau cyfathrebu arbenigol ac ymdeimlad brwd o flaengaredd i weithio gyda’n Grŵp Codi Arian i ganfod cyfleoedd grant, cyfleoedd codi arian, datblygu perthnasoedd â darpar roddwyr, a datblygu ymgyrchoedd codi arian. Trwy gydlynu digwyddiadau, ysgrifennu cynigion, a recriwtio ac arwain gwirfoddolwyr, bydd y codwr arian yn helpu i hogi galluoedd ein tîm gwirfoddolwyr wrth drafod, ysgrifennu cynigion a cheisiadau grant, a rheoli perthnasoedd wrth ein symud yn agosach at ein nodau ariannol.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn llawn cymhelliant, yn broffesiynol, yn drefnus ac yn gallu manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd. Rydym yn chwilio am rywun sy’n credu yng nghenhadaeth ac ethos Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac sydd â chymhelliant eithriadol i hybu ein llwyddiant grantiau a’n hymdrechion codi arian yn ogystal â strategaethu a chyflawni rhai newydd.

Amcanion y rôl hon

  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o genhadaeth a gwaith y sefydliad
  • Adnabod a datblygu cyfleoedd codi arian newydd
  • Datblygu strategaeth codi arian a chanllawiau i dyfu ffrydiau incwm newydd
  • Meithrin rhwydwaith o roddwyr a gwirfoddolwyr ymroddedig trwy strategaeth rhoi unigol
  • Cynllunio mentrau codi arian i helpu’r sefydliad i gyflawni nodau ariannol
  • Targedu a rheoli Noddwyr
  • Sicrhau fod y prif roddwyr yn fodlon a’u bod yn cael eu diweddaru
  • Gwella ein gallu i nodi a chyflawni cyllid grant

Cyfrifoldebau

  • Ymchwilio i unigolion, corfforaethau, a sefydliadau sydd â diddordeb mewn rhoi rhoddion / gwaith partneriaeth
  • Cyfleu cenhadaeth, gweledigaeth a rhaglenni’r sefydliad yn effeithiol i ddarpar roddwyr
  • Ysgrifennu ceisiadau am grantiau a chynigion codi arian
  • Strategaethu a gweithredu ymgyrchoedd codi arian yn llwyddiannus
  • Trefnu digwyddiadau codi arian tra’n goruchwylio timau o wirfoddolwyr
  • Rheoli cyllideb ac olrhain a yw nodau’n cael eu cyflawni

Y sgiliau a chymwysterau gofynnol

  • O leiaf tair blynedd o brofiad ym maes codi arian, gwerthu neu farchnata
  • Sgiliau cyfathrebu a meithrin perthynas eithriadol
  • Y gallu i arwain ac ysgogi cydweithwyr a gwirfoddolwyr
  • Gallu rhoi sylw da i fanylion
  • Angerdd am ymchwil
  • Y gallu i gydbwyso blaenoriaethau’n llwyddiannus wrth reoli tasgau lluosog a chynllunio digwyddiadau mawr

Y sgiliau a’r cymwysterau a ffefrir

  • Siaradwr Cymraeg
  • Gradd Baglor (neu gyfwerth) mewn cyfathrebu, busnes, cysylltiadau cyhoeddus, neu faes cysylltiedig
  • Tystysgrif, diploma, neu gymhwyster tebyg mewn codi arian
  • Cymhwysedd gyda systemau rheoli rhoddwyr
  • Profiad llwyddiannus o ysgrifennu cynigion grant, datganiadau i’r wasg, a llythyrau codi arian
  • Hyderus wrth siarad yn gyhoeddus
  • Profiad cyfreithiol neu gyfrifeg yn fanteisiol

Y Ffi ar gyfer y gwaith hwn fydd £300 y diwrnod am 66 diwrnod, i’w weithio tan ddiwedd y cytundeb ar 1 Hydref 2024. Disgwylir i’r mwyafrif o ddyddiau gwaith fod cyn yr Eisteddfod ym mis Gorffennaf a phresenoldeb ar y safle drwy gydol yr ŵyl. Mae costau teithio a llety wedi’u cynnwys yn y ffi ddyddiol.

Bydd y Bwrdd yn croesawu awgrymiadau amgen i’r strwythur ffioedd uchod a chynigion ar gyfer ffyrdd arloesol o weithio.

I wneud cais, darparwch eich CV ac uchafswm o dri x A4 amlinelliad o pam fod gennych ddiddordeb yn y gwaith a’ch barn gychwynnol ar sut y gallech gael effaith gadarnhaol ar ein gwaith codi arian ar gyfer yr Eisteddfod. Fel arall, ochr yn ochr â’ch CV, darparwch fideo hyd at 15 munud. Byddem yn hapus i dderbyn ceisiadau gan dimau a fydd yn rhannu’r gwaith yn unol â’u harbenigedd unigol.

Rhaid derbyn pob cais drwy e-bost at recruitment@llangollen.net erbyn 5pm dydd Mawrth 13 Chwefror.

Os hoffech siarad â’r Rheolwr Gweithrediadau neu’r Cadeirydd am y cyfle hwn, cysylltwch â info@llangollen.net

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am Ariannu’r swydd hon.