Rydym wedi ymrwymo i gynnal digwyddiad Covid diogel. Mae gennym eisoes fesurau penodol ar waith i sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn cael eu hamddiffyn ac yn gallu ymlacio a mwynhau awyrgylch hyfryd yr ŵyl, tra’n gwybod bod pob rhagofal wedi’i gymryd. Ar gyfer 2022 mae’r rhain yn cynnwys lleoliad llai, er mwyn sicrhau y gallwn reoli nifer yr ymwelwyr â’n safle yn ofalus, yn ogystal â gweithdrefnau hylendid gwell.
Gan fod y canllawiau ar gyfer Covid-19 yn newid yn rheolaidd, rydym yn cadw llygad barcud ar gyngor Llywodraeth Cymru ynghylch digwyddiadau mawr, a byddwn yn rhoi manylion llawn i ddeiliaid tocynnau yn nes at fis Gorffennaf. Os hoffech weld y cyngor diweddaraf ewch i: https://llyw.cymru/coronafeirws a https://www.croeso.cymru/cy/coronafeirws
Rhoddir y tocyn hwn ar ran y cyflwynydd , sef Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac mae’n ddarostyngedig i’r telerau ac amodau canlynol.
- Once purchased, tickets cannot be exchanged, refunded or returned, and are valid on the date/time specified only.
- Tickets can only be exchanged or refunded in the case of a cancelled performance.
- Once you have printed or received your tickets, please keep them in a safe place as we cannot accept duplicates, copies or other alternative tickets of any kind.
- Unlawful resale or attempted unlawful resale of a ticket is grounds for seizure or cancellation of that ticket without refund or other compensation.
- Ni chaniateir mynediad i neb i’r digwyddiad hwn heb docyn neu gerdyn pàs dilys.
- Er mwyn diogelwch y bobl yn y digwyddiad, mae rheolwyr y lleoliad ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cadw’r hawl i wrthod mynediad a chynnal chwiliadau diogelwch. Ni ddylech ddod ag alcohol neu unrhyw eitemau gyda chi nad ydynt yn hanfodol (fel cadeiriau gwersylla) gan y bydd y rhain yn cael eu hatafaelu wrth y fynedfa ac ni fyddant yn cael eu dychwelyd.
- Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cadw’r hawl i newid neu amrywio’r cynnwys neu amseriad y cyfan neu unrhyw ran o’r digwyddiad o dan amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth resymol heb unrhyw rwymedigaeth i wneud unrhyw drefniant ar gyfer ad-dalu neu gyfnewid tocynnau.
- Mae mynediad i’r digwyddiad ar risg Deiliad y Tocyn ei hun. Ni fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn atebol am unrhyw golled, anaf neu ddifrod a gafwyd yn y digwyddiad, gan gynnwys difrod, lladrad neu golledion i eiddo a cherbydau modur, os yw’r achos yn ganlyniad i esgeulustod deiliad y tocyn neu weithredoedd noddwyr neu drydydd partïon eraill neu force majeure.
- Fel amod gwerthu, mae deiliaid tocynnau yn cytuno i gael eu ffilmio, tynnu eu llun a’u recordio ar gyfer teledu, radio, gwe-ddarllediad a darllediadau cyhoeddus eraill mewn unrhyw gyfrwng a/neu ar gyfer unrhyw fideo neu DVD fel rhan o’r gynulleidfa a/neu gan unrhyw gamerâu teledu cylch cyfyng a recordiadau a weithredir gan neu ar ran Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen at ddibenion diogelwch y cyhoedd.
- Mae’n amod o gael mynediad i’r sioe na allwch wneud unrhyw ddefnydd masnachol (nad yw’n breifat) o’r sioe neu unrhyw ran ohoni.
- Ni chaniateir cŵn ar y safle ac eithrio cŵn canllaw, cŵn cymorth a chŵn clyw.
- Gwiriwch fanylion, amseriad a thaliadau meysydd parcio y digwyddiad cyn teithio gan y gall y rhain gael eu newid.
- Gwiriwch eich taith cyn cychwyn er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd mewn pryd. Nid yw’r trefnwyr yn gyfrifol am unrhyw oedi o ganlyniad i darfu ar drefniadau teithio.
- Dylai unrhyw gwynion sy’n ymwneud â’r digwyddiad gael eu gwneud i swyddfa’r trefnydd yn brydlon, cyn neu yn ystod y digwyddiad.
- Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i dderbyn pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn ystod toriad priodol ond ni ellir gwarantu mynediad pob tro.
- Ni chaniateir offer recordio yn ardaloedd perfformiad y digwyddiad.
- Bydd rhai o’r digwyddiadau yn cael eu cynnal yn yr awyr agored a bydd yn digwydd waeth beth yw’r tywydd (oni bai bod y swyddog diogelwch o’r farn nad yw hynny’n ddiogel). Nid oes unrhyw ad-daliadau ar gyfer tywydd gwael. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dod gwisgo’n briodol ar gyfer digwyddiad awyr agored ar yr adeg berthnasol o’r flwyddyn.
- Yn unol â’r gyfraith, nid oes caniatâd i ymwelwyr o dan 18 oed brynu neu samplo diodydd alcoholig neu gyllyll.