DYDD GWENER 10 GORFFENNAF – PAFILIWN YN Y DYDD

Sgroliwch i lawr i weld disgrifiad o’r cystadlaethau yn y Pafiliwn heddiw a’r grwpiau a fydd yn cymryd rhan ym mhob cystadleuaeth.

 

UNAWDYDD GWERIN RYNGWLADOL – CYSTADLEUAETH B5

Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer offerynwyr neu gantorion o bob oed a fydd yn perfformio rhaglen briodol hyd at 6 munud sy’n gynrychioliadol o draddodiad lleol neu ranbarthol.

Beirniaid:

Unawdwyr sy’n cymryd rhan: I’w cadarnhau yn dilyn y broses ddethol ganol mis Mawrth

 

CERDDOR RHYNGWLADOL Y DYFODOL – CYSTADLEUAETH B6

Bydd unawdwyr yn perfformio rhaglen hyd at 7 munud o gerddoriaeth. Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithiau clasurol cyferbyniol.

Beirniaid:

Unawdwyr sy’n cymryd rhan: i’w gadarnhau yn dilyn y broses ddethol ganol mis Mawrth.

 

CÔR CANEUON GWERIN OEDOLION – CYSTADLEUAETH A10

Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer corau meibion, merched neu gymysg o ddim llai na 12 aelod sydd 18 oed neu hŷn. Byddant yn perfformio rhaglen o ddwy gân werin draddodiadol gyferbyniol o wlad y côr eu hunain, heb fod yn hirach na 7 munud.

Beirniaid:

Grwpiau sy’n cymryd rhan yn nhrefn yr wyddor:
Cliciwch ar eu henw i ddysgu mwy amdanynt.

Côr Euffonig Advent, Ynysoedd y Philipinau
Associazione Culturale-Musicale Santa Croce, Yr Eidal
Côr Oedolion Bluebird, Tsieina
Chantage, Lloegr
Côr Dre, Cymru
Côr Merched Lady Cove, Canada
Oscars Ungdomskör, Sweden

 

LLAIS Y DYFODOL RHYNGWLADOL PENDINE (cyn-derfynol) – CYSTADLEUAETH B1

Mae’r gystadleuaeth hon ar gyfer cantorion 18 oed a hŷn, a fydd yn perfformio rhaglen gyferbyniol o hyd at 7 munud ar gyfer y rownd gynderfynol hon. Bydd eu rhaglen yn cynnwys darnau cyferbyniol o Oratorio, Opera, Lieder/Cân  a bydd yr holl gerddoriaeth yn cael ei chanu yn yr iaith wreiddiol.

Beirniaid:

Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd gyn-derfynol ar gyfer y gystadleuaeth hon yn cael eu henwi yn dilyn eu rhagbrawf ar y diwrnod.