RHESI GWALIA

RHESI GWALIA

Rydym yn griw o delynorion teires. Sefydlwyd ‘Rhesi Gwalia’ yn ddiweddar gan griw o gyfeillion, ond rydym wedi bod yn cyd-chwarae ers nifer o flynyddoedd. Ein prif nod fel grwp yw codi proffil y Delyn Deires a’i chyflwyno i gynulleidfa ehangach, gan obeithio dennu diddordeb telynorion teires y dyfodol. Gwnaethom lawer o waith ymchwil i hanes yr hen delynorion Cymreig, a’u dull o chwarae. Yn ein repertoire rydym yn chwarae trefniannau o’n halawon traddodiadol ac yn ymfalchïo fod cymaint wedi goroesi mewn llyfrau o’r 18 a 19G a hen lawysgrifau. Datblygwyd y syniad o delyn gyda tair rhes o dannau yn wreiddiol yn yr Eidal yn ystod cyfnod y Dadeni. Fe deithiodd drwy Ewrop gan gyrraedd Llundain erbyn canol y 17eg ganrif lle roedd llawer o delynorion o Gymru yn chwarae yn nhai bonedd y cyfnod. Er iddi yn araf ddisgyn allan o ddefnydd yn Ewrop, teithiodd y syniad o delyn deires yn ôl i Ogledd Cymru, ac yn fuan cafodd ei mabwysiadu fel ein telyn Genedlaethol, a’i datblygu yn delyn gwddw uchel unigryw Gymreig. Mae ei thraddodiad o dros dri chan mlynedd yn ddi-dor, ac mae iddi ei dull o chwarae a’i repertoire Cymreig unigryw ei hun. Gyda tua 93 o dannau wedi eu trefnu mewn 3 rhes, yn wahanol i’r delyn bedal glasurol a’r delyn Geltaidd, nid oes ganddi bedalau na lîfrau. Mae’r hapnodau yn y rhes ganol o dannau. Yn drist, gwelwyd dirywiad mawr yn y niferoedd oedd yn ei chwarae yn ystod y 20G, ond yn ffodus mae wedi profi ychydig o adfywiad ers dechrau’r 21G. Sefydlwyd Cymdeithas y Delyn Deires yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019, ac agorwyd Canolfan Genedlaethol y Delyn Deires yn Nhal-y-Llyn ym Meirionnydd yn 2024.